cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
Ein nod yw – Cynnig cyfle i bobl sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas i wella eu hansawdd bywyd fel na fyddant o dan anfantais oherwydd tlodi.
Mae GISDA yn gwmni cofrestredig wedi’i gyfyngu drwy warant sydd â statws elusennol. Cawn ein rheoli gan grŵp o Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol yn y pen draw am bob agwedd ar y Cwmni.
Gallwch ddarllen ein hadroddiad blynyddol yma – cliciwch yma.
Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi mwy na 30 o aelodau staff, sydd i gyd yn cyfrannu mewn rhyw ffordd neu’i gilydd at y cymorth sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ledled Gwynedd.
Byddwn yn rhoi cymorth i tua 100 o bobl ifanc bob blwyddyn ac ar hyn o bryd rydym yn gallu helpu 56 o bobl ifanc ar y tro gyda’r canlynol:
Mae manylion ein holl wasanaethau ar y dudalen Cymorth sydd ar gael
Rydym yn Gwmni blaengar sy’n ymdrechu i hybu ymwybyddiaeth o ddigartrefedd yn ein cymunedau a gweithio’n ddiwyd i leihau problem digartrefedd ymysg pobl ifanc.
Byddwn yn adolygu ein gwasanaethau’n gyson er mwyn bodloni anghenion ein defnyddwyr gwasanaethau a’n rhanddeiliaid, sy’n newid o hyd, ac i ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth a pholisïau fel y gallwn gyflawni ein nodau ac amcanion.
A yw GISDA yn gwneud gwahaniaeth? Yr ateb gennym ni a’n defnyddwyr gwasanaethau a’n rhanddeiliaid i hynny yw “Ydi, yn sicr”. Gallwch ddarllen rhai o’u sylwadau yma ac yma.