Cyflawniadau

Cyflawniadau

  • Rhwng 1989 a 2010 mae GISDA wedi cynorthwyo mwy na 2000 o bobl ifanc ledled Gwynedd.

 

  • Mae GISDA wedi derbyn a chadw’r achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl ers 1990. - cliciwch yma am fwy.

 

  • Clywed – Dechreuodd prosiect Clywed yn 2001 – Mae’n ffordd i asesu pa mor dda y mae asiantaethau’n gwrando ar lais plant a phobl ifanc wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau.

Mae Clywed yn grŵp o bobl ifanc sy’n mynd o gwmpas gwahanol leoedd i weld a yw plant a phobl ifanc yn cael croeso a pharch. Byddant yn edrych i weld pa mor fodlon yw plant a phobl ifanc ar y gwasanaeth y maent yn ei gael, a faint o sylw y maent yn ei gael. Os yw’r bobl yn y lle dan sylw’n gwrando ar blant a phobl ifanc ac yn eu croesawu, byddant yn cael tystysgrif 'Clywed' am flwyddyn.

Bydd prosiect Clywed yn ymweld â phob asiantaeth unwaith bob tair blynedd i gynnal adolygiad. Bydd pob asiantaeth sy’n dangos logo Clywed yn cwblhau ffurflen hunanasesu bob blwyddyn.

Mae GISDA wedi cadw logo Clywed ers 2001.

  • Statws o dan y Fframwaith Cefnogi Pobl

Yn 2002, fel rhan o’r fenter newydd o dan y Fframwaith Darparwyr Cymorth Achrededig, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei bod yn bwriadu cyflwyno cynllun achredu i ddarparwyr gwasanaethau cymorth. Roedd y cynllun achredu’n rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru fod asiantaethau sy’n darparu tai â chymorth yn bodloni’r gofynion sylfaenol o ran llywodraethu ac uniondeb, diogelwch ariannol a safonau, er mwyn sicrhau bod ei gwasanaethau’n cael eu darparu gan gyrff dibynadwy. Roedd GISDA yn bodloni’r meini prawf a chafodd statws Darparwr Cymorth Achrededig yn 2003.