Gweithgareddau

Gweithgareddau

Mae GISDA yn helpu pobl ifanc i ddod yn fwy hyderus a datblygu eu sgiliau bywyd drwy drefnu amryw o weithgareddau.

Ymhlith y gweithgareddau hyn y mae:

 

 

  • Sesiynau coginio – Rydym yn trefnu sesiynau coginio i unigolion a grwpiau fel rhan o’r cynllun cymorth i sicrhau bod y bobl ifanc yn coginio bwyd sy’n iach. Byddwn yn cynnwys cyllidebu yn y gweithgarwch gan fod angen i ni baratoi pryd o fwyd iach o fewn cyllideb benodol. Byddwn hefyd yn cynnal cystadlaethau coginio lle bydd staff yn ceisio cyflawni’r gamp o goginio pryd o fwyd i 4 o ddefnyddwyr gwasanaethau am £5!
  • Beiciau – Mae beiciau ar gael gennym i’w defnyddio gan y bobl ifanc, felly byddwn yn trefnu gweithgarwch beicio lleol. Mae’n bwysig iawn i ni allu cynnig gweithgareddau sy’n hybu byw’n iach ac mae’r gweithgarwch hwn yn un cymdeithasol gan fod aelodau staff a defnyddwyr gwasanaethau’n cymryd rhan gyda’i gilydd.
  • Ystafell Ffitrwydd – Byddwn yn annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y prosiect hwn ac i ddod i’r ystafell ffitrwydd, sydd ar gael iddynt am ddim. Gall ymarfer cyson wneud i’r bobl ifanc deimlo’n well a bod â mwy o egni, a bydd yn dda i’w hiechyd.
  • Celfyddydau a Chrefftau – Gall rhai pobl ifanc eu mynegi eu hunain yn well drwy gyfrwng y celfyddydau, felly byddwn yn eu hannog i ddatblygu’n artistig drwy greu murlun, tynnu lluniau ar ganfas, barddoni neu ddysgu dawnsio samba. Teimlwn ei bod yn bwysig cynnig cyfleoedd creadigol amrywiol.
  • Rhaglenni Cyfnewid Pobl Ifanc – Weithiau cawn wahoddiad i gymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid pobl ifanc lle byddwn yn cydweithio â rhai mewn gwledydd eraill fel Portiwgal, Awstria a Ffrainc, ymysg eraill. Mae hyn yn gyfle i’r defnyddwyr gwasanaethau gwrdd â phobl ifanc eraill sy’n wynebu’r un problemau â nhw. Enghreifftiau o weithdai y mae defnyddwyr gwasanaethau’n cymryd rhan ynddynt yw dawns, Fforwm Theatr, graffiti a chreu cerddoriaeth drwy ddefnyddio cyfrifiaduron.
  • BOCSWN – Rydym yn ffodus iawn o gael cydweithio â gwahanol asiantaethau. Yn ddiweddar rydym wedi cydweithio â BOCSWN sy’n rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau GISDA greu cerddoriaeth drwy ddefnyddio cyfrifiaduron fel rhai Apple Mac ac maent wedi creu darn o gerddoriaeth


  • Garddio – Mae gennym randir yn Hafan, un o’n hostelau. Rydym yn ceisio cynnal yr ardd a phlannu llysiau bob blwyddyn, ac os byddwn yn llwyddo byddwn yn defnyddio ein cynnyrch ein hunain yn ein sesiynau coginio. Roedd GISDA yn ffodus o gael cyngor ac arweiniad gan y rhaglen ‘Byw yn yr Ardd’ - I weld y fideo, cliciwch yma.
  • Parti Nadolig – Byddwn yn trefnu parti i deuluoedd bob blwyddyn lle bydd Siôn Corn yn dod i weld y plant a rhannu anrhegion. Byddwn hefyd yn trefnu parti i’r plant mawr! Mae’r noson yn gyfle i bawb gael pryd o fwyd Nadoligaidd a chymdeithasu.