GISDA

Tŷ Rhydalun,
Penrallt Uchaf,
Gwynedd,
LL55 1PR

[t] 01286 6711153
[e] gisda@gisda.co.uk

GISDA

Gisda - hybu Pobl ifanc i'w galluogi i fyw yn annibynnol

11/09/2007

 

Geiriau

Fel rhan o’r gweithgareddau i gofio’r achlysur o 21 mlwyddiant GISDA cynhaliwyd cystadleuaeth ysgrifennu i ddisgyblion ysgolion uwchradd Gwynedd. Y bwriad yn hyn o beth oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc yn y sir am GISDA ac am ddigartrefedd.

Gofynnwyd i’r bobl ifanc ysgrifennu darn o ryddiaith neu farddoniaeth yn y Gymraeg ar y themâu Unigrwydd (bl 7 - 9) neu Ddigartrefedd (bl 10 - 13). Beirniad y gystadleuaeth oedd Karen Owen, llenor a golygydd y cylchgrawn Golwg. Cymerodd dros 150 o bobl ifanc ran yn y gystadleuaeth ac roedd y safon yn uchel iawn. Cafodd yr enillwyr eu gwobrwyo yn y gynhadledd a drefnwyd a darllenwyd darnau o’r gwaith buddugol ym mhob category gan yr actor John Pierce Jones. Yn y gyfrol hon cawn ddetholiad o’r gwaith a ddaeth i’r brig.

Hoffai GISDA ddiolch i’r holl ddisgyblion a gymrodd ran ac i’r ysgolion am eu cefnogaeth. Hefyd diolchwn i noddwyr y gystadleuaeth sef Sain, Cyngor Llyfrau Cymru, Academi a Phalas Print ac i Gronfa’r Degwm am ariannu’r llyfryn hwn.


Words
As part of the activities to commemorate GISDA’s 21st anniversary a writing competition was arranged for the pupils of Gwynedd’s Secondary Schools. The intention was to raise awareness amongst young people within the county about GISDA and homelessness.

The young people were asked to write a prose or a poem in Welsh on the themes Loneliness (year 7 – 9) and Homelessness (year 10 – 13). The competition’s adjudicator was Karen Owen, a litterateur and the editor of Golwg magazine. Over 150 young people took part and the standard was very high. The winners were awarded at the conference that was organized and extracts of the winning pieces in each category were read out by the actor John Pierce Jones. Here we have a compilation of the work that came top.
GISDA would like to thank all the pupils that took part and the schools for their support. Also we thank the competition’s sponsors which were Sain, Welsh Book Council, Academi and Palas Print and the Welsh Church Acts for funding this book.

11/01/2007

 

Cynhadledd Drymiau Heddwch

Cynhadledd Drymiau dros Heddwch, 10-12 Hydref 2007.

Ychydig o gefndir am Drumiau dros Heddwch…

Rhwydwaith rhyngwladol ydi Drymiau dros Heddwch sydd yn defnyddio p?er trawsffurfiol y celfyddydau i feithrin cymuned er mwyn creu byd gwell.

Mae Drymiau dros Heddwch yn dod a phobl ifanc, gweithwyr ieuenctid ac artistiaid o wahanol wledydd at ei gilydd. Mae’n defnyddio’r celfyddydau creadigol er mwyn cysylltu gyda phobl ifanc a sicrhau cynhwysiad y rhai sydd o dan anfantais ac yn fregus eu sefyllfa.

Dyma aelodau Drymiau dros Heddwch a’r sefydliadau o wledydd Ewrop

• Cymru - Cynefin, Theatr Fforwm Cymru.
• Lloegr - Archway.
• Yr Eidal - ARCI Varieazioni.
• Denmarc – Arttrain, Subway-Club.
• Ffrainc – MJC Montlucon.
• Estonia – Mustamae Avatud Noortekeskus. (MANK)
• Portiwgal - GAIAC

Dwi’n si?r bod yr enw Drymiau dros Heddwch yn canu cloch gyda rhan helaeth o staff GISDA? Wel, dwi’n gobeithio wir, i’ch atgoffa cafodd pobl ifanc GISDA fynychu cyfnewidfa ieuenctid Drymiau dros Heddwch yn Denmarc yn 2006.

Mae Drymiau dros Heddwch yn cael ei gydnabod yn un o’r sefydliadau gorau yn Ewrop am gynnal cyfnewidfa ieuenctid. Yn ystod y gyfnewidfa mae pobl ifanc yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai diwylliannol megis dawns, theatr a cherddoriaeth.

Mae Drymiau dros Heddwch yn cynnal cynhadledd flynyddol, blwyddyn yma lleoliad y gynhadledd oedd Conwy. Roeddwn wedi gobeithio mynd a chriw'r theatr fforwm i wneud perfformiad, yn anffodus oherwydd diffyg amser nid oedd hyn yn bosibl, efallai cawn gyfle y tro nesaf. Ond, rhaid dweud bod y gynhadledd wedi bod o fudd rwyf yn gobeithio y cawn gyfle i fynd a chriw theatr fforwm GISDA ar gyfnewidfa yn Ewrop yn 2008 (gyda lwc efalla cawn gyfle i fynychu mwy na un)

Rhowch glic am fyw o wybodaeth http://www.drumsforpeace-network.org/

Tan y tro nesaf, hwyl, Osian

10/08/2007

 

Blog Theatr Fforwm – Trip Caerdydd - 05/10/07

Cafwyd cyfle eto i fynd a’r theatr ar drip lawr i Gaerdydd. Cyflwynwyd y theatr yn cynhadledd dathliadau 21ain Llamau. Sefydliad tebyg iawn i GISDA yw Llamau sydd yn gweithio yn Ne Cymru, cliciwch ar y wefan am fwy o wybodaeth - www.llamau.co.uk

Pump o bobl ifanc oedd yn cymryd rhan yn y ddrama, themâu'r theatr oedd bwlio, trais yn y cartref a chyffuriau. Ychydig yn swil oedd y gynilleidfa ar y cychwyn ond fe gafwyd ymateb positif erbyn y diwedd. Unwaith eto amser yn ein trechu, ond rhoddwyd gwadd i’r theatr dychwelyd yn ôl i Llamau cyn diwedd y flwyddyn. Dwi’n si?r fy mod yn siarad dros y criw i gyd wrth ddweud bod pawb wedi mwynhau'r profiad.

Yn ogystal â pherfformio cafwyd amser i ymweld â Stadiwm y Mileniwm a chafodd pawb lond bol o fwyd mewn bwyty sieiniaedd “all you can eat” lawr ym Mae Caerdydd.

Hoffwn ddiolch i Kyle, Michelle, Callum, Billy ac Ashley am eu hymroddiad i’r theatr. Ar ran y criw hoffwn ddiolch i Iola a Gwawr am gadw trefn ar bawb, ac wrth gwrs diolch yn fawr iawn i Simon am drefnu’r trip.

Wythnos nesaf dwi’n gobeithio mynd ar criw theatr fforwm i Gynhadledd Drums 4 Peace yng Nghonwy, gyda’r gobaith y bydd hyn yn galluogi i’r theatr fynd ar gyfnewidfa ieuenctid i Ewrop yn ystod y flwyddyn nesaf. Croeswch eich bysedd!
Tan y tro nesaf, hwyl, Osian.

 

Forum Theatre Project - May 2007

Young people and staff from GISDA and Digartref Ynys Môn had the opportunity to attend Forum Theatre workshops under the guidance of Iwan Brioc (who specialises in the technique), this was an oppertunity to deal with some of their experiences by using theatre techniques. Forum Theatre (Theatre of the Oppressed) is an interactive theatre based on social problems. It gives people the opportunity to present their opinions on adverse topics in addition to contemporary and often burning issues such as politics and the law of the land. Forum Theatre is accepted by the United Nations as a positive way of “Social Change”, this method is regularly used in countries such as Lithuania, Estonia, Portugal and Italy. We can now take pride that Wales is following suit. As Forum Theatre is interactive, it encourages and prompts audiences to play a leading role in discovering answers to the problems raised, that is if there is indeed an answer.

Iwan explained that the theatre was going to reflect the group’s personal experience, he said “professional actors must research their role, you have this already, therefore you are extremely experienced”. Here we had a group of young people who had witnessed life’s difficulties first hand an were therefore allready experts in the field. In addition, the members of staff had a wide experience in the field of care and homelessnes, therefore there was a valuable mixture expereience available to be analysed.

The first task was to choose a suitable theme. It was imperitive to get a piece of effective theatre that would “ripple the waters” and stimulate discussions. This was cought in the form of five scenes that amaglamated the group’s experiences.

After three days of heavy rehearsels the audience at the conference were aroused and entertained by the performance. Without doubt we had a very positive response and lively discussions to follow. With each performance you could see an increase in the confidence of the young people. It was quite strange to see that the experience of our young people was in fact educating others. A valuable experience for both them and us as staff members.

The Forum Theatre is a method which teaches young people new values, gives them different principles and more than anything teaches them to express themselves through emotion or through speech. The value of these characteristics is priceless for any young person and especially for our service users. At last, through the methods of the Forum Theatre they realise that they have the right to voice their opinion and you cannot put a price on this.

Osian Elis
South Gwynedd Manager

 

Prosiect Theatr Fforwm - Mai 2007

Cafodd pobl ifanc a staff o GISDA Digartref Ynys Môn y cyfle i fynychu gweithddai theatr fforwm o dan arweiniad Iwan Brioc (sy’n arbenigo yn y dechneg), er mwyn rhoi cael cyfle i ddelio gyda rhai o’u profiadau trwy ddefnyddio technegau theatr. Theatr ryngweithiol sydd wedi ei selio ar broblemau a thab? cymdeithas yw theatr fforwm. Rhoddir cyfle i bobl gyfleu eu safbwyntiau ar broblemau cymdeithasol thrafod materion cyfoes a phynciau llosg fel gwleidyddiaeth a chyfraith gwlad. Cydnabyddir Theatr Fforwm gan y Cenhedloedd Unedig fel dull positif o “Newid Cymdeithasol”. Mae’n ddull sy’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd yn Lithuania, Estonia, Portiwgal a’r Eidal a nawr gallwn ymfalchïo fod Cymru’n ymgymryd â’r dull. Dull rhyngweithiol ydyw sy’n mae’n annog y gynulleidfa i chwarae rhan flaenllaw i ddarganfod ateb i’r broblem dan sylw, hynny yw os oes ateb o gwbl.

Eglurodd Iwan fod y theatr yn mynd i adlewyrchu profiadau personol y gr?p, “mae actorion proffesiynol yn gorfod ymchwilio i’w rôl, mae hynny gennych chi’n barod, felly mewn ffordd rydych chi’n hynod o brofiadol” meddai. Dyma griw o bobl ifanc oedd wedi profi anawsterau bywyd drostynt eu hunain ac felly roedd pob un ohonynt yn arbenigwyr yn y maes yn barod. Yn ogystal roedd gan aelodau staff brofiadau eang ym maes gofal a digartrefedd, felly roedd cyfuniad o brofiadau gwerthfawr ar gael yn barod i’w dadansoddi.

Y dasg gyntaf oedd dewis themâu addas. Roedd yn hanfodol cael darn o theatr effeithiol a fyddai’n cynhyrfu’r dyfroedd ac yn sbarduno trafodaeth ac fe gafwyd hyn ar ffurf pum golygfa fachog oedd yn cyfuno profiadau’r grwp.

Ar ôl tridiau trwm o ymarfer cafodd cynulleidfa’r gynhadledd eu deffro a’u difyrru gan y perfformiad. Heb amheuaeth cafwyd ymateb positif iawn a thrafodaethau tanboeth i’w canlyn. Gyda phob perfformiad gwelwyd cynnydd amlwg yn hyder y bobl ifanc, a braf iawn oedd gweld hynny. Rhyfedd o beth oedd gweld fod profiadau ein pobl ifanc ni yn addysgu eraill. Profiad gwerthfawr o’u hochr nhw a ni fel staff.

Mae’r theatr fforwm yn ddull sy’n dysgu gwerthoedd newydd i bobl ifanc, yn rhoi egwyddorion gwahanol iddynt ac yn fwy na dim yn dysgu pobl i fynegi eu hunain boed hynny trwy emosiwn neu ar lafar. Mae gwerth y nodweddion hyn yn amhrisiadwy i unrhyw berson ifanc ac yn arbennig felly i bobl ifanc digartref. O’r diwedd maent yn sylweddoli fod ganddynt hawl i leisio’u barn a’u profiadau. Ni ellir rhoi gwerth ar hyn.

Osian Elis, Rheolwr De Gwynedd

Archives

10/2007   11/2007  

This page is powered by Blogger. Isn't yours?

Subscribe to Posts [Atom]

01286 671153 Sôn wrth ffrindArgaffuMarciwch ni gisda@gisda.co.uk Angen help?
GISDA