Bwrdd Rheoli
Y Bwrdd Rheoli sy'n bennaf gyfrifol am reolaeth GISDA. Mae aelodau'r Bwrdd Rheoli yn cael eu hethol yn flynyddol ac i gyd yn wirfoddolwyr.
Gan fod GISDA yn gwmni wedi’i gofrestru trwy warant ac yn elusennol, mae aelodau’r Bwrdd yn gyfarwyddwyr y cwmni ac yn ymddiriedolwyr yr elusen. Fel Bwrdd Rheoli mae ganddynt rôl bwysig. Yn gyfreithiol, nhw yw cyflogwr holl staff GISDA ac maent yn gyfrifol am sicrhau bod y cwmni yn cwrdd â’i nod a’i amcanion yn ogystal â chydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a safonau a osodir gan ein rhanddeiliaid.
Mae'r Bwrdd Rheoli yn cyfarfod pob 3 mis er mwyn adolygu cynnydd ac i gytuno ar ddatblygiadau'r cwmni i’r dyfodol. Mae'n hollbwysig felly bod y staff a'r Bwrdd Rheoli yn cydweithio'n agos i gyflawni amcanion GISDA.
Aelodau’r Bwrdd Rheoli
Cadeirydd
Ron Williams
Is Gadeirydd
Elwyn Jones
Trysorydd
Richard Morris Jones
Aelodau
John Hughes Jones
Meilys Smith
Sharon Williams
Cynghorydd Tudor Owen
Tîm Dunn
Saran Thomas Jones
Jim Ostler
Robert Haines
Angen help?
Os ydych angen help cliciwch yma. |