YmGyrchu

ymgyrchu gyda Gisda

 

Isod mae gwybodaeth ddefnyddiol i chi

 

 

 

 

Mae pobl ifanc 19 oed, sydd wedi ymddieithrio o’u teulu yn cael hi’n anodd dilyn addysg llawn amser oherwydd eu bod yn methu hawlio budd-daliadau.

Mae bod yn ddigartref yn deillio o nifer o broblemau heb eu datrys, yn cronni dros gyfnod o amser. Yn rhy aml y dewis i bobl ifanc yn y sefyllfa yma yw mynychu coleg a chael addysg bellach (yn cynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol) NEU cael rhywle i fyw.

Os gallwch astudio cwrs rhan-amser mae yna gymorth ariannol i’w gael, ond eto byddai yn rhaid bod ar gael i weithio ac i ddilyn cynlluniau profiad gwaith, sydd weithiau yn golygu rhoi’r gorau i’r cwrs.

Ond os ydych eisiau astudio yn llawn amser nid oes yna ddewis i hawlio budd-daliadau i helpu gynnal llety.

Os nad ydych mewn addysg bellach gallwch hawlio lwfans ceisio gwaith a budd-dal tai; sy’n gallu helpu talu am eich llety os ydych yn ddigartref.

Ni allwch gael budd-daliadau os ydych yn 19 oed ac mewn addysg bellach ar gwrs llawn amser. oni bai eich bod wedi cychwyn y cwrs cyn eich pen-blwydd yn 19.

Mae’r cymorth ariannol mwyaf ar gael i chi os ydych chi rhwng 16 - 18 oed ac yn parhau gyda’ch astudiaethau mewn coleg addysg bellach lleol.
Ond nid pawb sydd yn barod i ddilyn cwrs addysg bellach pan yn
16 -18 oed, yn enwedig os yn ddi-gartref neu wedi bod mewn gofal.

Stori Ashley

Roedd Ashley wedi bod yn derbyn cefnogaeth gan GISDA am dros flwyddyn, hwn oedd ail gyfnod Ashley efo ni - cliciwch yma

 

Stori “Jake”

Roedd “Jake” wedi cofrestru ar gwrs llawn amser yn y coleg efo 6 mis yn weddill nes byddai wedi cymhwyso fel gosodwr brics - cliciwch yma

 

Stori B

Roedd B wedi bod mewn gofal a bellach yn denant mewn fflat un llofft ers Awst - cliciwch yma

 

Stori Tony

Roedd Tony newydd gael ei benblwydd yn 19oed ac wedi cychwyn cwrs mecanyddiaeth ym mis Medi 2011 - cliciwch yma


Profiad Gweithiwr Cefnogol

Hoffwn dynnu eich sylw at ddiffygion yn y system budd daliadau sy’n amharu ag ymdrechion ein defnyddwyr gwasanaeth i wella ansawdd eu datblygiad personol - cliciwch yma

 


MAE POBOL IFANC HEB GEFNOGAETH ARIANNOL EU TEULU YN WELL ALLAN YN HAWLIO BUDD-DALIADAU NAG YN AROS MEWN ADDYSG BELLACH.

Ac am nad yw’r myfyrwyr hyn yn medru hawlio budd-daliadau wrth astudio ac yn gorfod aros wythnosau am arian grant sy’n annigonol i fyw arno, mae gweithwyr elusen ddigartref yng Ngwynedd yn dweud bod cynnydd yn y nifer o bobol ifanc sydd wedi rhoi’r gorau i fynychu coleg addysg bellach.

Mae gan Wendi Jones, Pennaeth Gwasanaethau Annibynnol Gisda, ddegau o esiamplau o bobol ifanc sy’n methu fforddio aros ym myd addysg. Yn wahanol i ddarpar raddedigion sy’n gymwys am fenthyciadau myfyrwyr, mae’r bobol ifanc hyn yn “ei chael hi’n amhosib” aros ym myd addysg heb deulu i’w cadw. Dyw’r Ganolfan Waith chwaith ddim yn fodlon defnyddio eu disgresiwn er mwyn gadael i bobol ifanc fregus hawlio budd-dal tra’n fyfyrwyr meddai.
“Dwi’n gweld mwy a mwy o hyn y dyddiau yma. Be’ mae o’n ei wneud yw cadw pobol lle maen nhw - yr annhegwch yw ei fod yn digwydd i gymaint o bobol ifanc,” meddai Wendi Jones.

Nod Gisda yw “cynnig cyfle i bobol sy’n agored i niwed ... fel na fyddent o dan anfantais oherwydd tlodi.”

Mae’r elusen ddigartref yn cynorthwyo dros 100 o bobol ifanc mewn hostelau, tai a fflatiau led led Gwynedd.

Un o’r rheiny yw Darren Lee Roberts o Flaenau Ffestiniog.
Ym mis Medi eleni fe gychwynnodd ar gwrs blwyddyn yn astudio twristiaeth mewn coleg lleol ar ôl methu dod o hyd i waith.
“Roedd o’n deimlad ffantastig – wnes i erioed feddwl baswn i’n cael lle mewn coleg – doedd gen i fawr o hyder yn y cyfweliad,” meddai.

Ond roedd rheolau yn mynnu bod rhaid i’r llanc ifanc roi’r gorau i hawlio’r budd-dal Lwfans Ceisio Gwaith o £53.00 yr wythnos ar y diwrnod roedd yn dechrau yn y coleg am nad oedd ar gael i weithio. Yn fuan iawn, daeth yn amlwg y byddai’n llawer iawn gwaeth allan yn ariannol o ddewis addysg bellach dros ddiweithdra.

Roedd Darren Roberts yn gymwys am Grant Dysgu’r Cynulliad o £1,500 y flwyddyn ac, ar ôl talu rhai o’r costau oedd ynghlwm a’r cwrs ar ddechrau’r tymor roedd ganddo £23.00 yr wythnos i dalu rhent ac i fyw arno. Yn ogystal â bod yn sylweddol iawn llai na’r Lwfans Ceisio Gwaith, roedd bwlch o chwe wythnos rhwng rhoi’r gorau i hawlio budd-dal a derbyn y grant. Doedd o chwaith ddim yn cael hawlio budd-dal tai i dalu rhent am nad oedd yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod grant o £1,500 y flwyddyn ar gyfer costau’r cwrs yn unig, fel llyfrau ac ati yn unig. Roedd y rheolau yn mynnu bod myfyrwyr yn gorfod dangos presenoldeb yn y coleg cyn bod yr arian grant ar gyfer deunyddiau yn daladwy meddai.

Meddai Darren Roberts, “Doeddwn i ddim eisio rhoi’r gorau iddi ond oeddwn i dan bwysau – o’n i’n guted. Ar ddiwedd yr ail wythnos roedd pressure pres yn ormod ac o’n i’n methu byw ...”

Darren Roberts oedd yr unig fyfyriwr dros 18 oed ar y cwrs twristiaeth - roedd y gweddill o dan 18 oed ac yn byw gartref gyda'u rheini meddai.

Dywedodd Philip Roberts, Rheolwr Cefnogi Dysgwyr Coleg Menai bod “pwysau aruthrol” ar fyfyrwyr o ystyried “sefyllfa economaidd anodd”.
“Mae pethau mor dynn arnyn nhw - mae aros chwe wythnos am eu pres yn ormod iddyn nhw ac mae hynny’n atal rhai rhag gwneud y cwrs. Mae yna rhai sydd ddim yn rhoi cynnig ar addysg bellach ac mae canran hefyd yn disgyn allan.. Mae’n ofnadwy o galed arnyn nhw.”

Dywedodd Hywel Williams AS Caernarfon ei fod wedi dwyn pwysau ar Lywodraeth San Steffan i helpu pobol yn yr un sefyllfa a Darren Roberts.
“Maen nhw’n wynebu sefyllfa eithriadol o anobeithiol heb gefnogaeth ariannol gan deulu neu bartner. Mae rheolau haearnaidd yr Adran Gwaith a phensiynau yn mynnu eu bod ‘ar gael i weithio’ ac yn eu rhwystro rhag hyfforddi. Am nad ydyn nhw’n gallu byw adra am ddim mae pobol fwy bregus yn hollol ddibynnol ar fudd-dal.”

Hawlio budd-daliadau tra’n fyfyriwr.
Mae Osian Gwyn Elis - Swyddog Prosiect mewn hostel digartref ym Mhwllheli, yn hallt ei feirniadaeth o’r hyn mae’n ei alw’n “ddiffygion” y sustem budd-daliadau.
“Weithiau o dan amgylchiadau arbennig mae modd hawlio budd-dal gwaith ac astudio cwrs yn rhan amser,” meddai gan ychwanegu ei fod yn siomedig “gyda diffyg ymrwymiad” swyddogion y Ganolfan Waith “i geisio cynnig unrhyw fath o weledigaeth ar y mater.”

Pan gysylltodd Golwg ac Adran Gwaith a Phensiynau, Llywodraeth San Steffan yng Nghaerdydd yr ymateb gwreiddiol oedd nad oedd modd i fyfyrwyr fel Darren Roberts hawlio budd-daliadau ond newidiodd hynny wedyn i “dim sylw”.

Meddai Osian Elis, “mae’r sefyllfa yma yn drychinebus ac yn dorcalonnus i unrhyw unigolyn bregus sy’n ceisio llwyddo.”

(addaswyd o erthygl gan Sian Williams yn y cylchgrawn GOLWG Rhagfyr 2011)
Cliciwch yma i lawrlwytho yr erthygl

 

 

Funding Guide for Adult Learners - cliciwch yma

Myfyrwyr Llawn Amser:
Mae rhan fwyaf o fyfyrwyr llawn amser yn methu hawlio budd-daliadau. Efallai y byddwch yn gallu hawlio os:
• Ydych yn rhiant sengl
• Gyda phartner sy’n fyfyriwr hefyd - ac mae’r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn
• Os oes gennych anabledd ac yn gymwys ar gyfer y premiymau anabledd ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
• Os nad yw eich partner mewn addysg ond yn gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm, gall eich partner wneud cais ar ran y ddau ohonoch.

Gall myfyrwyr rhan-amser gwneud cais am fudd-daliadau os ydynt ar incwm isel ac yn cwrdd â’r amodau penodol. Gall hefyd fod yn derbyn lwfans Ceisio Gwaith.

 

Grant Dysgu’r Cynulliad:
Cyllid disgreswin os ydych angen cymorth ychwanegol - cliciwch yma

Cronfeydd Cefnogi Dewisiol
Grant ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 – 19 mlwydd oed - cliciwch yma

 

Cymorthdal Incwm
Ar gael os ydych yn 16+ ac yn methu gweithio, os ydych mewn addysg llawn amser efallai na fyddwch yn gymwys I gael y gefnogaeth hon.


Budd-dal Tai
Ni allwch hawlio budd-dal tai os ydych mewn addysg llawn amser


Rhieni ifanc:
Os ydych yn 20+ mlwydd oed gallwch cael cymorth ariannol gyda chostaru gofal plant os ydych mewn coleg neu raglan-dysgu gwaith gan y Cronfa Cengoi Dewisiol (gwelwch uchod)


Myfyrwyr mewn Addysg Uwch
• Gallwch gwneud cais i helpy ariannu eich astudiaethau os ydych ar gwrs rhan-amser.
• Mae myfyrwyr sy’n 19 oed a throsodd yn gymwys ar gyfer y Grant Dysgu’r Cynulliad, nad yw’n cynnwys cymorth ar gyfer llyfrau, offer arbennigol, dillad ac esgidiau neu gostau arholiad. Mae’n dibynnu os ydych yn gallu hawlio budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm penodol - cliciwch yma

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
• I myfyrwyr 16 – 18 mlwydd oed
• Os ydych yn 19+ nid oes Lwfans Cynhaliaeth Addysg heblaw os nad ydych wedi derbyn y lwfans yma am 2 flynedd - cliciwch yma

Grantiau Dysgu’r Cynulliad
Ar gael ar gyfer myfyrwyr 19+ oed - cliciwch yma

Grant Gwasanaethau Trefnidiaeth Lleol
• Ar gael os ydych yn 16 – 18 mlwydd oed
• Neu parhau ar gwrs a cychwynnodd cyn I chi droi 19
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

e-petition

 

Cliciwch yma i arwyddo y ddeiseb.