GISDA

Tŷ Rhydalun,
Penrallt Uchaf,
Gwynedd,
LL55 1PR

[t] 01286 6711153
[e] gisda@gisda.co.uk

Cymraeg | English

Pwy yw GISDA?
Elusen yw GISDA sydd wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc bregus a digartref yng Ngwynedd ers dros ugain mlynedd. 

Beth mae GISDA’n wneud?
Rydym yn gweithio gyda asiantaethau eraill i ganfod atebion i ddigartrefedd ac i geisio’i atal trwy weithio gyda rhai hynny sydd mewn peryg o fod yn ddigartref. Rydym yn credu mewn datrys problemau tymor hir yn hytrach na atebion dros dro.

Sut mae GISDA’n helpu?
Rydym yn cynnig llety gyda chefnogaeth sy’n addas i’ch anghenion e.e.

  • Gallwn gynnig llety dros dro/parhaol i chi yn un o’n hosteli, fflatiau neu dai.
  • Mae ganddom gynllun addysg mewnol.
  • Gall gweithiwr allweddol gynnig cyngor ar fudd-dalaiadu, hyfforddiant, gwaith a sgiliau byw.
  • Gallwn gynnig cwnsela gan Gwnselydd cymwysiedig
  • Gallwn eich cyfeirio at asiantaethau defnyddiol eraill e.e. Prince’s Trust, Nacro, Y Fargen Newydd a Gwobr Dug Caeredin.

 

Cysylltwch a ni? cliciwch yma

01286 671153 Sôn wrth ffrindArgaffuMarciwch ni gisda@gisda.co.uk Angen help?
GISDA