cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
Gall busnesau helpu GISDA i hybu ymwybyddiaeth o’n bodolaeth fel corff, a’r gwaith pwysig yr ydym yn ei wneud, yn ogystal â thynnu sylw at broblem digartrefedd ymysg pobl ifanc yn ein cymunedau.
Drwy roi Cefnogaeth corfforaethol gallwch hefyd hybu ymwybyddiaeth o’ch cwmni/busnes a chael cymorth i gyflawni’ch amcanion chi hefyd efallai.
Os byddai’ch cwmni/busnes chi’n hoffi rhoi cymorth i GISDA, drwy nawdd, rhodd ariannol, codi arian neu unrhyw ffordd arall, cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy’r e-bost a byddwn yn falch o siarad â chi.
Byddwn yn gwerthfawrogi’r cymorth a roddwch, felly helpwch ni i roi bywyd gwell i’n pobl ifanc a chysylltwch heddiw. Diolch.
Hoffai GISDA ddiolch i bawb yn y sector busnes sydd wedi ein cynorthwyo ac yn dal i’n cynorthwyo hyd heddiw.