Swyddi Gwag

Swyddi Gwag

I gael yr holl fanylion am unrhyw swyddi gwag, cliciwch ar deitl y swydd berthnasol. Yma byddwch yn gallu gweld manylion y swydd yn ogystal â gweld a lawrlwytho’r ffurflen gais ar gyfer y swydd. 

Os ydych am ymgeisio am fwy nag un swydd, gofalwch eich bod yn llenwi ffurflen gais ar wahân ar gyfer pob un.

 

GWEITHIWR PROSIECT

CYFRIFOL i: PENNAETH GWASANAETHAU ANNIBYNOL
RHEOLAETH LLINELL: RHEOLWR PROSIECT
ADRAN: PRIF WEITHREDWR
LLEOLIAD; CAERNARFON/BLAENAU
CYFLOG; Pwynt 17-22
ORIAU: 30awr yr wythnos
(oriau  hyblyg i ymateb i ofynion y gwasanaeth)

PWRPAS Y SWYDD
Gweithio efo grwpiau ac un i un efo defnyddwyr gwasanaeth GISDA i diwtora ac asesu amrywiaeth o unedau Agored Cymru (OCN) a threfnu gweithgareddau i gefnogi dysgu a datblygu personol.
 
PRIF DYLETSWYDDAU

  • I brosesu cyfeiriadau i’r prosiect yn unol â pholisïau a gweithdrefnau GISDA.
  • Gweithio, hyfforddi ac asesu safon gwybodaeth defnyddwyr gwasanaeth, un i un neu efo grwpiau bach.
  • Cyd-lynu gwaith asesu unedau Agored Cymru.
  • Cyd-weithio efo defnyddwyr gwasanaeth i drefnu a datblygu cyfres o weithgareddau i gefnogi addysg a datblygu personol.
  • Cofnodi holl weithgareddau, asesiadau a datblygiadau yn fanwl.
  • Helpu yn y gwaith o ddatblygu unedau newydd fel bo angen.
  • Cydweithio efo defnyddwyr gwasanaeth, sefydliadau a chwmniau eraill i sefydlu lleoliadau gwirfoddoli.
  • Holl ddyletswyddau a chyfrifoldebau i gael eu cyflawni yn unol a  Cod Ymarfer Cyngor Gofal Cynmru

Hysbyseb - cliciwch yma
Swydd Disgrifiad - cliciwch yma
Ffurflen Gais - cliciwch yma

 

 

I ymgeisio am unrhyw un o’r swyddi uchod, cysylltwch â ni ar 01286 671 153 neu drwy’r e-bost yn gisda@gisda.co.uk i ofyn am becyn ymgeisio.

If you haven’t been shortlisted for interview then you haven’t been successful on this occasion.

Linguistic Ability Chart - click here

Cofiwch: Rydym bob amser yn barod i siarad â phobl sydd â diddordeb yn ein gwaith ac a fyddai’n hoffi gweithio gyda ni.

Mae GISDA yn dilyn y canllawiau yn Adroddiad Warner ‘Choosing with Care’ 1992 wrth recriwtio, felly bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu’n gyntaf ar sail y Ffurflenni Cais y maent wedi’u cwblhau.