Cynllun De Gwynedd
Mae’r cynllun hwn yn cynnwys dwy hostel, dau dŷ rhannu a llety cefnogaeth symudol i bobl ifanc sengl rhwng 16 – 25 oed. Mae 3 Gweithiwr Allweddol, staff cysgu i mewn a Rheolwr Tîm ar staff y cynllun.
Llys Meddyg
Hostel ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd yw Llys Meddyg. Mae’r hostel yn cynnwys pump fflat hunan gynhaliol wedi eu dodrefnu gyda drws ffrynt cymunedol a chyfleusterau golchi dillad i rannu.
Bydd pob defnyddiwr gwasanaeth yn yr hostel yn derbyn wyth awr o gefnogaeth yr wythnos gan Weithiwr Allweddol.
Mae aelod o staff yn yr hostel chwe diwrnod yr wythnos gyda staff cysgu i mewn yn gweithio 7 noson yr wythnos rhwng 10yh a 5yb.
Caiff defnyddwyr gwasanaeth dros 18 oed Denantiaeth Byrddaliad Sicr am chwe mis ac mi fydd defnyddwyr gwasanaeth o dan 18 oed yn derbyn trwydded i fyw yn yr eiddo.
Fron Fawr
Bloc o fflatiau ym Mlaenau Ffestiniog yw Fron Fawr yn cynnwys pedwar fflat hunan gynhaliol wedi eu dodrefnu.
Defnyddir yr hostel yn bennaf fel hostel symud ymlaen i roi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth, sydd wedi magu digon o sgiliau byw yn annibynnol yn Llys Meddyg, brofi mwy o annibyniaeth.
Bydd defnyddwyr gwasanaeth yn parhau i dderbyn wyth awr yr wythnos o gefnogaeth. Gall y cynllun gynnig cyngor helaeth a phecyn cefnogaeth gyda’r pwyslais ar ddarganfod llety parhaol i’r defnyddiwr gwasanaeth.
Caiff defnyddwyr gwasanaeth Denantiaeth Byrddaliad Sicr am chwe mis.
Cynllyn Tai Clwyd
Mae cynllun Tai Clwyd yn cynnwys dau eiddo wedi eu dodrefnu yn Nolgellau, Gwynedd. Mae’r ddau yn eiddo i Gymdeithas Tai Clwyd gyda GISDA fel Rheolwr ar ran y gymdeithas. Rheolir y ddau eiddo fel tai rhannu i ddau berson.
Mae pob defnyddiwr gwasanaeth sy’n lletya yn yr eiddo yn derbyn wyth awr o gefnogaeth yr wythnos gan Weithiwr Allweddol. Caiff pob defnyddiwr gwasanaeth eu llofft eu hunain (gyda chlo) gan rannu cegin, stafell fyw a stafell ymolchi.
Caiff defnyddwyr gwasanaeth Denantiaeth Byrddaliad Sicr Byw ar y Cyd am chwe mis gyda staff yn ymweld â’r eiddo dair gwaith yr wythnos.
Bydd GISDA yn gweithio gyda chymdeithasau tai lleol, Cyngor Gwynedd a pherchnogion tai preifat i gael llety parhaol i ddefnyddwyr gwasanaeth y cynlluniau uchod. Wedi eu hasesu a’u barnu i fod yn barod i fyw yn rhannol annibynnol gyda chefnogaeth cânt symud ymlaen i’r Cynllun Cefnogaeth Symudol.
Cynllun Cefnogaeth Symudol
Mae hyn yn cynnwys 4 uned sydd fel arfer yn cynnwys fflatiau un llofft sy’n eiddo i gymdeithas tai neu Gyngor Gwynedd. Gall defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad i’r gwasanaeth yma unai yn uniongyrchol neu fel dilyniant i un o’r cynlluniau hosteli.
Mae’r cynllun hwn ar wasgar gyda’r defnyddiwr gwasanaeth yn aros yn yr eiddo ar ôl i GISDA ollwng y gefnogaeth.
Fel gyda’r cynlluniau eraill a reolir gan y cwmni, mae defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn Gweithiwr Allweddol a mynediad i’r holl wasanaethau a ddarperir gan y cwmni.
Angen help?
Os ydych angen help cliciwch yma. |