cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
Isod fe welwch atebion i'r cwestiynau fwyaf cyffredin:
Cael cyngor am eich sefyllfa gan yr awdurdod lleol/adran digartrefedd. Bydd pob Adran Digartrefedd mewn Cyngor yn gallu rhoi cyngor i chi am eich sefyllfa neu’ch atgyfeirio at asiantaeth arbenigol sy’n gallu helpu. Hefyd mae Swyddogion Atal Digartrefedd gan y rhan fwyaf o Dimau Digartrefedd sy’n gallu’ch helpu.
Yng Ngwynedd mae GISDA yn cynnig gwasanaeth i bobl ddigartref ifanc sydd rhwng 16 a 25 mlwydd oed.
Efallai y bydd gennych hawl i gael tŷ a/neu gymorth drwy Adran Dai y Cyngor lleol. Gallech hyd yn oed gael eich ystyried yn rhywun sydd ag Angen Blaenoriaethol sy’n golygu bod dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ddod o hyd i rywle i chi aros.
Yng Nghymru, mae’r canlynol yn cael eu hystyried yn rhai sydd ag Angen Blaenoriaethol:
Ond cofiwch – os mai chi sy’n gyfrifol am ddod yn ddigartref, neu fod ar fin dod yn ddigartref, mae’n bosibl na fydd gennych hawl i gael unrhyw gymorth gan y Cyngor o gwbl felly ystyriwch yn ofalus a oes rhaid i chi adael y lle yr ydych yn byw neu beidio.
Rhifau ffôn yr Adrannau Tai/Cynghorau yng ngogledd Cymru yw:
Adran Digartrefedd Gwynedd
Caernarfon |
01286 679806 |
Bangor |
01286 679840 |
Dolgellau |
01341 424308 |
Pwllheli |
01758 704097 |
Ynys Môn |
01248 752267 |
Mae proses atgyfeirio i’w dilyn gan bob person ifanc sydd ag angen gwasanaeth.
Cam 1 – lle bydd y person ifanc neu’r asiantaeth yn cwblhau’r ffurflen atgyfeirio cam un gan roi manylion syml am ei sefyllfa bresennol. Hefyd gall alw GISDA ar 01286 671153 a rhoi ei fanylion i aelod o’r staff. Gall y person ifanc galw i mewn i Dy Rhydalun hefyd.
Cam 2 – Bydd y swyddog atgyfeirio’n cysylltu â’r person ifanc ac yn rhoi mwy o wybodaeth am GISDA a’r gwasanaeth y mae’n ei gynnig. Wedyn bydd yn cwblhau ffurflen atgyfeirio cam dau lle bydd y swyddog yn gofyn am fwy o wybodaeth gan y person ifanc am ei gefndir, ei sefyllfa bresennol a’r math o gymorth sydd ei angen arno.
Cam 3 – Bydd y swyddog atgyfeirio’n trefnu i gwrdd â’r person ifanc mewn lle cyfleus i’w gyflwyno ei hun a chwblhau rhan olaf yr atgyfeiriad.
Cam 4 – Os yw’r person ifanc yn gweithio gydag asiantaethau allanol eraill, bydd y swyddog atgyfeirio, ar ôl cael caniatâd gan y person ifanc, yn cysylltu â’r asiantaeth i gael mwy o wybodaeth am y cymorth y mae’n ei gael yn awr neu yr oedd yn ei gael o’r blaen gan yr asiantaeth honno.
Cam 5 – Ar ôl cael y wybodaeth uchod, bydd asesiad risg yn cael ei gwblhau a phenderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a yw’r person ifanc yn addas i gael gwasanaeth gan GISDA.
Cam 6 – Os yw’r person ifanc yn gymwys i gael gwasanaeth, bydd yn cael ei roi ar restr aros GISDA, nes bydd Gweithiwr Allweddol yn cael ei ddyrannu iddo.
Mae’n anodd dweud am ba hyd y bydd person ifanc yn aros am gymorth, ond bydd y swyddog atgyfeirio yn eu arewinio tuag at asiantaethau eraill a sicrhau eu bod wedi edrych ar bob opsiwn ar gael i’r person ifanc.
Mae GISDA yn cynnig cymorth a llety i bobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed.
Byddwn – mae gennym lety i 4 teulu yn yr ardaloedd canlynol:
Yn ogystal â darparu tai â chymorth, bydd GISDA yn dyrannu Gweithiwr Allweddol i bob person ifanc. Bydd y gweithiwr allweddol yn gweithio gyda’r person ifanc ar becyn cymorth, sy’n cael ei alw’n STAR, sy’n ceisio helpu’r person hwnnw i benderfynu ar y canlyniadau y mae am eu cael a sut bydd yn cyrraedd ei nod.