cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
Cymorth Rhodd
Mae Cymorth Rhodd yn gynllun sy’n gwneud i’ch rhoddion fynd ymhellach heb gostio dim yn ychwanegol i chi.
O dan y cynllun Cymorth Rhodd, os ydych yn drethdalwr yn y DU, bydd gwerth eich rhodd yn cynyddu am ein bod yn cael adennill arian oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Am bob £1 y byddwch yn ei rhoi, gallwn hawlio 25 ceiniog ychwanegol heb gostio dim yn ychwanegol i chi. Fel y gallwch weld, mae hyn yn ffynhonnell werthfawr o arian ychwanegol i GISDA.
Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch o 40%, gallwch chi gael budd hefyd drwy hawlio rhywfaint o arian yn ôl oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi drwy’ch ffurflen hunanasesu treth. Byddwch yn gallu hawlio ad-daliad o 20% o’r dreth sydd wedi’i didynnu ar y gyfradd uwch. Cysylltwch â swyddfa Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gael mwy o fanylion.
Sut i wneud rhodd drwy Gymorth Rhodd
Cwblhewch y datganiad - cliciwch yma - neu dywedwch wrthym eich hun neu dros y ffôn eich bod yn drethdalwr yn y DU ac y byddech yn hoffi gwneud rhodd o dan y cynllun Cymorth Rhodd. Dim ond unwaith bob chwe blynedd y mae’n rhaid i chi ddweud wrthym a gallwn hawlio Cymorth Rhodd yn awtomatig bob tro.
Cysylltwch â ni os hoffech gael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae’ch rhoddion yn amhrisiadwy i ni a gallant wneud gwir wahaniaeth – diolch.