Cynllun Gogledd Gwynedd
Mae’r cynllun hwn yn cynnwys hostel a llety cefnogaeth symudol i bobl ifanc sengl rhwng 16 – 25 oed. Mae 3 Gweithiwr Allweddol, staff cysgu i mewn a Rheolwr Tîm ar staff y cynllun.
Hafan
Hostel wedi ei lleoli yng Nghaernarfon, Gwynedd yw Hafan. Mae’r hostel yn cynnwys 8 bedsit, stafell gysgu i staff a lolfa, cegin a stafelloedd ymolchi cymunedol wedi eu dodrefnu.
Bydd pob defnyddiwr gwasanaeth yn yr hostel yn derbyn wyth awr o gefnogaeth yr wythnos gan Weithiwr Allweddol.
Mae aelod o staff yn yr hostel saith diwrnod yr wythnos gyda staff cysgu i mewn yn gweithio 7 noson yr wythnos rhwng 10yh a 5yb.
Bydd GISDA yn gweithio gyda chymdeithasau tai lleol, Cyngor Gwynedd a pherchnogion tai preifat i gael llety parhaol i ddefnyddwyr gwasanaeth. Wedi eu hasesu a’u barnu i fod yn barod i fyw yn rhannol annibynnol gyda chefnogaeth cânt symud ymlaen i’r Cynllun Cefnogaeth Symudol.
Mae pob defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn trwydded i fyw yn yr eiddo.
Cynllun Cefnogaeth Symudol
Mae hyn yn cynnwys 8 uned sydd fel arfer yn cynnwys fflatiau un llofft sy’n eiddo i gymdeithas tai neu Gyngor Gwynedd. Gall defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad i’r gwasanaeth yma unai yn uniongyrchol neu fel dilyniant i gynllun Hafan.
Mae’r cynllun hwn ar wasgar gyda’r defnyddiwr gwasanaeth yn aros yn yr eiddo ar ôl gollwng y gefnogaeth.
Fel gyda’r cynlluniau eraill a reolir gan y cwmni, mae defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn Gweithiwr Allweddol a mynediad i’r holl wasanaethau a ddarperir gan y cwmni.
Angen help?
Os ydych angen help cliciwch yma. |