Cymynroddion

Cymynroddion

Un ffordd y gallech ddymuno ei defnyddio i’n helpu yw gadael rhodd i GISDA yn eich ewyllys.

Efallai y byddech am adael swm o arian neu rodd, er enghraifft, yn eich ewyllys, na fydd yn costio dim yn ystod eich oes ac na fydd yn agored i dreth etifeddiant.

 

Os hoffech adael rhywbeth i GISDA yn eich ewyllys, y cwbl y mae angen i chi ei wneud yw:

  • Ar gyfer ewyllys newydd – ysgrifennu ewyllys a rhoi manylion eich rhodd
  • Ar gyfer ewyllys sydd wedi’i gwneud – gwneud newid ynddi
  • Sefydlu Ymddiriedolaeth

 

Efallai y byddwch am gael cyngor gan Gyfreithiwr a fydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.

Os hoffech wneud rhodd i GISDA, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda, drwy ffonio neu anfon neges e-bost.

Mae’ch cefnogaeth yn amhrisiadwy i ni ac yn ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol – diolch.