cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
23/04/13:
Hi Pawb,
Roedd y digwyddiad diwethaf yn Tesco Caernarfon ar y 6ed o Ebrill yn gorfod cael ei ganslo gan nad oedd digon o bobl i fynychu. Felly rydym wedi ail drefnu i bacio bagiau a chodi ymwybyddiaeth o Gisda yn Tesco Caernarfon ar y 17fed o Fai sef ar ddydd Gwener i’w wneud yn haws i bobl fynychu. Byddem yn ddiolchgar iawn os bysa unrhyw berson yn gallu ein helpu – os oes gennych diddordeb mewn helpu Gisda yn y digwyddiad yma e-bostiwch neu ffoniwch yn ol i gadarnhau amseroedd.
Diolch yn fawr iawn!
![]()
19/04/13: Lluniau Diwrnod Mentora 10/4/13 a 17/4/13 - cliciwch yma
![]()
17/04/13: Newyddlen y Gwanwyn - cliciwch yma
![]()
08/04/13: Lluniau Rabbit Farm - cliciwch yma
![]()
05/04/13: Lluniau Sesiwn Mosaics Tremadog - cliciwch yma
![]()
03/04/13: Lluniau Street Football Wales Ebrill - cliciwch yma
![]()
18/03/13: Lluniau Garddio Blaenau Ffestiniog - cliciwch yma
![]()
18/03/13: Lluniau Graffiti Blaenau Ffestiniog - cliciwch yma
![]()
14/03/13: Lluniau Y Ganolfan Chwarae - cliciwch yma
![]()
13/03/13: Lluniau Graffiti - cliciwch yma
![]()
08/03/13: Swydd Cwnselydd (Rhan Amser) - cliciwch yma
![]()
22/02/13: Lluniau Beicio mynydd - cliciwch yma
![]()
21/02/13 : Os hoffech wirfoddoli i helpu Gisda godi arian drwy pacio bagiau yn Tesco Caernarfon ar 6/4/13 gadewch i ni wybod plîs.
![]()
21/02/13: Lluniau Lansio Canolfan Gwybodaeth - cliciwch yma
![]()
20/02/13 : Diolch i'r gwirfoddolwyr ddaeth i Tesco Bangor i godi arian Ddydd Sadwrn diwethaf - casglwyd £321 ar y diwrnod!
![]()
11/02/13: Mae Gisda yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu codi arian yn Tesco Bangor dydd Sadwrn nesaf 16/2/13 rhwng 10 y bore a 4 y prynhawn. Os rydych yn gallu rhoi awr new ddwy o’ch amser i helpu cysylltwch â lowridundee@gisda.co.uk os gwelwch yn dda. Mae hyn yn gyfle i bobl ifanc gael tystiolaeth tuag at y Bac Cymraeg hefyd.
![]()
24/01/13: Lluniau Diwrnod Mentora - cliciwch yma
![]()
04/01/13: Fideo Darparu Cefnogaeth a Chyfleoedd i Bobl Ifanc (Papur Dre, Cwmni Da a Choleg Menai) - cliciwch yma
04/01/13: Fideo Gweithgareddau GISDA (Papur Dre, Cwmni Da a Choleg Menai) - cliciwch yma
![]()
03/01/13: Lluniau Rhieni ifanc yn bowlio - cliciwch yma
03/01/13: Lluniau Gwneud Gingerbread Men - cliciwch yma
03/01/13: Lluniau Hyfforddiant mentor cyfoed - cliciwch yma
03/01/13: Lluniau Gwneud Torch Nadolig - cliciwch yma
![]()
21/12/12: Lluniau Cwis y Nadolig - cliciwch yma
![]()
18/12/12: Newyddlen y Nadolig - cliciwch yma
18/12/12: Lluniau parti Nadolig plant Gisda - cliciwch yma
![]()
![]() |
|
| 18/12/12: Mae Gisda wedi derbyn tystysgrif Gweithle Iach gan Simply Health – tystysgrif yn cael ei gyflwyno gan Jade Wright i Sian a’r staff. |
![]() |
![]() |
|
![]() |
![]()
18/12/12: Gisda wedi ennill Ymgyrch Gronfa Banc Lloyds
Llun o Sian yn derbyn siec gan Jonathan Jenkins (Uwch Rheolwr Masnachol Banc Lloyds) a Steve Ancill, Rheolwr Banc Lloyds ym Mangor. Diolch I bawb am gefnogi Gisda.
![]()
27/11/12: Lluniau Cyfnewidfa Ieuenctid 'Drums for Peace' i Estonia- cliciwch yma
![]()
22/11/12: Lluniau Cinematic - cliciwch yma
![]()
01/11/12: Roedd hwn yn gyfnewidfa ieuenctid ‘Drums for Peace’ i Estonia ac aeth tri pherson ifanc o Gisda yno am wythnos gyda dau aelod staff.
Cliciwch yma i wrando ar Soundcloud
![]()
15/10/12: Lluniau Caiacio Môr a Garddio - cliciwch yma
![]()
01/10/12 Ymgyrch ‘Wish’ Daily Post
Annwyl pawb,
Rydym wedi cael ein cynnwys yn ymgyrch ‘Wish’ Daily Post o’r 2ail o Hydref 2012.
Mae £25,000 ar gael i rannu rhwng nifer o sefydliadau yn ardal Gogledd Cymru sydd wedi eu henwebu ac rydym ni yn y cymysg.
Sut mae’n gweithio? - Rhwng Hydref 2ail a Tachwedd 19eg bydd pedwar tocyn yn y papur newydd bob dydd. Mae gan bwy bynnag sy’n prynu’r papur y dewis i dorri’r tocynnau allan a’i rhoi ymlaen i ba sefydliad y dymunant. Ar ddiwedd yr ymgyrch mae’r sefydliadau yn cyfri’r maint o docynnau sydd ganddynt ac yn mynd a nhw i swyddfa’r Daily Post. Y mwy o docynnau sydd gennym, y fwy o’r arian rydym yn cael o’r pot.
Sut fedrwch chi helpu? – wrth:
- Os rydych yn prynnu’r papur eich hunain yn barod, rhoi’r tocynnau i Gisda, os dymunwch
- Dywedwch wrth eich ffrindiau, eich cymdogion a’ch cysylltiadau am yr ymgyrch
- Rhannu ar Facebook a Twitter yn ystod cyfnod yr ymgyrch
- roi poster i fyny mewn lleoliad effeithiol yn eich ardal – gofynwch i fi am boster – lowridundee@gisda.co.uk
- Gofyn i’ch siop leol sy’n gwerthu'r papur os bysant yn fodlon rhoi poster i fyny a hel y tocynnau i Gisda (mae gennym bosteri a gallwn gael fwy o focsys) - rwyf am ofyn i Siop Iwan yng Nghaernarfon, siop leol ym Mrynsiencyn ayb.
- Os rydych mewn cyfarfodydd gwaith – dywedwch wrth bawb am y cynllun
- Os rydych yn mynychu coleg, perthyn i grwp tu allan o waith, gofynnwch a gallwn roi poster i fyny a dywedwch wrthynt i gyd
- Efallai bydd ganddo’ch syniadau eich hunain? Gadewch i mi wybod!
Gydag ymgyrch fel hyn mae’n gweithio’n well os mae gennych nifer o bobl yn casglu ar eich rhan, heb orfod rhoi gormod o ymdrech iddo.
Bydd bocs yn nerbynfa Ty Rhydalun er mwyn roi tocynau i mewn hefyd.
Diolch yn fawr i chi!
![]()
21/09/12: Adroddiad Blynyddol 2011 - 2012 - cliciwch yma
![]()
Sinema ‘inflatable’
Mae pobl ifanc Gidsa wedi bod yn llwyddianus gyda’u cais am cyllid o £2500 gan y ‘Prince’s Trust’ I ddatblygu menter newydd, sef sinema ‘inflatable’. Dyma’u cyflwyniad…. - cliciwch yma
![]()
19/09/12: Newyddlen Diweddaraf - cliciwch yma
![]()
11/09/12: Swydd Gweithiwr Prosiect - cliciwch yma
![]()
Medi 07 2012
Twrnament Pel droed Medi 2012 - cliciwch yma i weld y lluniau
![]()
Awst 20 2012
Noson Wobrwyo GISDA - cliciwch yma i weld y lluniau
![]()
Awst 01 2012: Lluniau Gweithdy Celf De Gwynedd / Royal Opera House Llundain / Mosaig Gorffennaf 2012 - cliciwch yma
Awst 01 2012: Lluniau o'r Streetwise Opera Llundain
Awst 01 2012: O'r wasg: Homeless people centre stage at Royal Opera House
![]()
Gorffennaf 30 2012 - Cynllun Menter Cyfoed
![]()
Gorffennaf 03 2012
Cynllun Busnes GISDA 2012-2015 - cliciwch yma
![]()
02/07/12: Lluniau Gweithdy Mosaig - cliciwch yma
02/07/12: Lluniau Gweithdy Drymio Mehefin 2012 - cliciwch yma
![]()
Mai 23 2012
Pobl ifanc GISDA wedi recordio gyda Grassroots yn y siwdio yng Nghaerdydd wythnos yma - cliciwch yma
![]()
Gethin Evans ar y Radio - cliciwch yma
![]()
Codi Arian yn Asda
![]() |
Mel a Lowri yn codi ymwybyddiaeth am GISDA a chodi arian yn Asda Caernarfon 27/4/12 - wedi casglu £123. Diolchiadau mawr i Asda ac i’r cwsmeriaid. |
![]()
Sesiwn Coginio
Cliciwch yma i weld y lluniau
![]()
Sesiwn stencil yn Mlaenau ar yr 19fed o Fawrth
Mae’r pobl ifanc yn gweithio ar darnau unigol o gelf i’w gael ei achredu gan Agored Cymru.
Cliciwch yma i weld y lluniau
![]()
Parti
![]() |
Rhodddwyd barti i blant bach pobl ifanc yn GISDA dydd Llun gyda Sion Corn yn y grotto. Hwyl wedi cael gan bawb! |
![]()
Clwb Ffotograffiaeth GISDA
Dros y gwanwyn gofynnodd GISDA i’w ddefnyddwyr gwasanaeth dynnu lluniau o sut oedden nhw yn gweld ei cymunedau o dan arweiniad ffotograffydd proffesiynol lleol Phoebe Davenport. Fe ffurfiwyd dau glwb ffotograffiaeth, un yng Nghaernarfon ar llall ym Mlaenau Ffestiniog.
Dros gyfnod o bythefnos fe aeth y grwpiau allan i dynnu llyniau wedi cael hyfforddiant sylfaen ar sut i fframio, oleuo a chysodi llun.
Yn ystod y sesiynau lle'r oedd y defnyddwyr gwasanaeth allan yn ei cymunedau roed hi’n amlwg bod y prosiect yn profi i fod yn llawer mwy na jest mynd allan i dynnu lluniau. Drwy fynd allan a darganfod ei cymuned fe gododd trafodaethau difyr iawn am faterion cymunedol a chymdeithasol. Roedd y prosiect yn profi i fod yn gyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth trafod a meddwl am y byd o’i gwmpas. Fe gafwyd sgyrsiau difyr oedd yn amrywio o faterion ysgafn fel creulondeb cadw ieir mewn tŷ i bynciau ychydig bach mwy dwys fel effaith economaidd roedd twristaidd yn ei gael ar waith lleol.
Yn ogystal â chodi trafodaethau am ei cymunedau fe gynhyrchodd y prosiect lluniau o safon uchel iawn. Hefo’r deunydd fe benderfynodd GISDA creu arddangosfa o’r gwaith yn y cyfarfod llywodraethwyr blynyddol. Roedd ymateb i’r gwaith yn un bosotif. Roedd un o’r mynychwyr y cyfarfod wedi plesio gymaint nes iddo fynd at i gynhyrchu cardiau post o un o’r lluniau.
Mae’r prosiect wedi ei brofi yn hynod lwyddiannus ar fwriad ‘rŵan ydi cario mlaen y Clwb.
![]()
Prosiect Graffiti GISDA
Dros gyfnod o ddeuddydd ym Mis Medi fe gafodd defnyddwyr gwasanaeth GISDA y cyfle i wirfoddoli ei hamser i neud gwelliant i’w cymuned mewn prosiect cyffroes a gwelodd y grŵp yn cael achrediadau am ei gwaith caled.
Drwy arwain ar gynllunio prosiect ei hunain fe benderfynodd y grŵp llunio cais am grant GWIRVOL sydd yn cael ei weinyddu gan Fantell Gwynedd, am ddau ddiwrnod o weithdai dan arweiniad yr arbenigwr artist celf stryd, Andy Birch.
Fel rhan o’r cais roedd y grŵp yn cael diwrnod o hyfforddiant yn o gystal â diwrnod o ymarfer ei sgiliau newydd yn addurno wal ym mharc sglefrio Caernarfon. Erbyn hyn mae murlun o waith y grŵp yn edrych dros y parc sydd yn creu awyrgylch hwylus ag lliwgar i'r ardal. Yn o gystal â gwirfoddoli ei hamser fe lwyddodd i bob aelod o’r grŵp yn cael achrediad lefel 1 gan Agored Cymru mewn gwaith ‘celf stryd’ wrth wneud y prosiect.
Fe gafwyd y grŵp gymaint o hwyl yn creu murlun gwreiddiol ar wal y parc fe ofynnwyd I Andy ddod yn nol am ddiwrnod ychwanegol i greu murlun yn wal hostel Hafan yng Nghaernarfon.
Mae Andy Birch erbyn hyn wedi trefnu i ddod yn nol i wneud mwy o waith hefo ddefnyddwyr gwasanaeth GISDA I addurno tu mewn hostel Llys meddyg ym Mlaenau Ffestiniog. Bydd y grŵp yno hefyd yn derbyn achrediadau gan Agored Cymru am ei gwaith.
Fe gafodd gwaith y grŵp ei harddangos fel rhan o gyfarfod blynyddol llywodraethwyr GISDA yn ddiweddar ac fe brofodd y prosiect i fod yn boblogaidd gyda’r bobl ifanc yn ogystal ar bobl ifanc sydd eisoes wedi defnyddio’r parc.
Cliciwch yma i weld y lluniau
![]()
Gweithdai Mosaig GISDA
Ers cychwyn mis Gorffennaf mae defnyddwyr gwasanaeth GISDA wedi bod yn gweithio ar ddarnau unigol o waith celf fosaig mewn ymdrech i ddysgu sgiliau newydd i allu addurno darn o wal allanol swyddfa GISDA.
O dan arweiniad yr arbenigwr Wendy Denagelis mae sesiynau wythnosol wedi bod yn cymryd lle yn nganolfan Tan-y-Maen Blaenau Ffestiniog. Mae’r defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn gweithio’n galed ar ddarnau unigol o fosaig, ar gobaith ydi bydd y bobl ifanc yn dysgu sut i greu, dylunio a chysodi darnau gwreiddiol o waith celf.
Wrth weithio’n galed ar ei gwaith, mae adran addysgiadol GISDA o’r enw Agor Drysau yn achredu’r gwaith. Bydd bob person ifanc sydd wedi mynychu’r sesiynau yn cael tystysgrif ‘Creu mosaig uniongyrchol lefel 1’ gan Agored Cymru.
Tra mae’r gwaith caled yn parhau ar waith unigol yn y sesiynau wythnosol, mae gwaith yn cael i wneud i ddylunio darn mwy ar wal swyddfa GISDA ym Mlaenau Ffestiniog. Mae rhodd hael o ddeunydd wedi ei dderbyn gan Lechwedd i addurno’r wal ar gobaith ydi bydd busnesau lleol eraill yn gweld bydd o gyfrannu tuag at y fosaig unigryw.
Mae’r sesiynau wedi profi i fod yn rhai llwyddiannus iawn ag yr adborth wedi bod yn galonogol. Yn o gystal â ennill achrediadau a dysgu sgiliau newydd mae’r sesiynau yn amlwg yn cael effaith ar hunain parch, hyder a sgiliau cyfathrebu’r bobl ifanc
Cliciwch yma i weld y lluniau
![]()

Diwrnod hyfforddiant Cymorth Cyntaf ymarferol gyda’r British Red Cross - Robert, Glesni a Laura
![]()
Yr Wyddfa 2011
Dydd Iau Gorffennaf 30 fe aeth criw o bobl ifanc GISDA i fyny’r Wyddfa gydag Arweinydd Mynydda profiadol, Gweithwyr Allweddol a Thîm Agor Drysau. Ar ôl cychwyn araf i’r diwrnod fe gychwynnodd y ddringo am 10:30am o faes parcio Pen y Pass. Er gwaethaf y niwl fe gyrhaeddodd y grŵp brig y mynydd mewn amser parchus iawn o ddwy awr a 50 munud.
Yng nghynhesrwydd y caffi newydd sbon fe gafodd y criw cinio sydyn a’r llun gorfodol ar dop y mynydd cyn ei disgyniad. Ar ôl awr o ddringo i lawr y mynydd fe ddaeth copa’r wyddfa i’w ymddangos o’r cymylau, ag er cais Gethin i ddychwelyd i dop y mynydd i gael yr olygfa, fe benderfynodd y grŵp i’w anwybyddu ag i fynd lawr y mynydd.
Yn ystod y dydd cafodd y grŵp ychydig o hanes diddorol, gan Gary, yr arweinydd, am hyfforddiant Everest Syr Edmwnd Hillary a hanes methiant diwydiant cloddio am gopr oedd wedi digwydd yn yr ardal o gwmpas yr Wyddfa. Trip addysgiadol iawn, yn ogystal ag un blinedig. Gyrhaeddodd yr alldaith (rydym yn broffesiynol rŵan!) maes parcio pen y pass am 4:30pm cyn i bawb fynd adra i gysgu!
Dywedodd Gary “Mae’n bleser mawr i mi gael llongyfarch pawb gymerodd ran yn y digwyddiad hwn, y canlyniad oedd bod pawb wedi llwyddo i gyrraedd copa’r Wyddfa. Mae hyn yn anarferol i dîm o’r maint hwn o ystyried eu profiad ar y mynyddoedd.
Roedd y tîm gydag agwedd bositif trwy’r diwrnod ac agwedd synhwyrol a chall i’r dasg dan sylw. Dangoswyd diddordeb mewn diogelwch mynydd, crefft, amodau’r tywydd a'u hamgylchedd.
Cefais argraff arbennig pan ddisgwyliodd y tîm o dan y gopa tan roedd pob aelod o’r tîm gyda'i gilydd er mwyn iddynt gyrraedd y gopa fel un tîm.”

Cliciwch yma i weld y lluniau
![]()
Garddio yn Hafan
Dros y mis diwethaf mae trigolion Hafan wedi bod yn brysur yn adfywio’r ardd yn yr hostel, ac wedi bod yn cael hwyl arni. Mae Harri Morris Mentor Cyfoed wedi bod yn brysur iawn yn trefnu sesiynau ag yn annog y criw i gymryd rhan.
Dywedodd Harri “Mae’r ymateb i brosiect yr ardd wedi bod yn un positif iawn. Yn aml iawn fydd y bobl ifanc yno yn disgwyl i mi ar fora dydd Gwener a methu disgwyl i gychwyn. Maen nhw yn cael gymaint o hwyl nes erbyn hyn mae’n ymddangos bod y bobl ifanc wedi cymryd ati i neud gwaith yn yr ardd ar liwt ei hunain heb i fi fod yno”. Ychwanegodd Harri “Yn ddiweddar fe ddangoswyd yr hostel i rywun a fydd yn symud i mewn yn y dyfodol, a fe aeth y bobl ifanc i ddangos yr ardd i’r person newydd. Maent yn amlwg yn cymryd balchder mawr a pherchnogaeth dros y prosiect”
Y bwriad, unwaith bydd y tatws, nionod, ar llysiau eraill wedi tyfu, yw creu sesiynau coginio gyda’r cynnwys i hyrwyddo bwyta’n iach, a chreu ethos o fod yn hunain cynhaliol o fewn yr hostel. Yn sgil hyn y gobaith ydi y bydd y bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn cael achrediad mewn garddio gan Agored Cymru hefyd.
![]() |
![]() |
![]()
Noson Faldod Agor Drysau
Cynhaliwyd noson faldod (pamper night) gan GISDA yn ddiweddar yn Mlaenau Ffestiniog ar gyfer rhai o’r bobl ifanc yn ein Cynllun De Gwynedd. Cafodd pob person ifanc hanner awr o driniaeth o’u dewis nhw. Bu i bob un ohonynt fwynhau triniaeth dwylo (manicure) a thriniaeth wyneb (mini facial). Fe brofodd y noson i fod yn un llwyddiannus iawn.
Rhoddwyd y driniaeth gan fusnes annibynnol symudol o’r enw ‘Beauty Bug’ sydd yn seiliedig yng Nghaernarfon. Perchennog y Cwmni yw Kayleigh Thomas, merch ifanc sydd yn rhedeg eu busnes ei hun. Treuliodd amser hefo’r bobl ifanc yn trafod y hyfforddiant oedd wedi wneud ac sut aeth ati i gychwyn ei busnes . Roedd Kayleigh yn effeithlon ac yn hyblyg yn ei ymagwedd, mwynheuodd y bobl ifanc y noson yn arw ac roedd yn brofiad gwych.
Dyma adborth gan rhai o’r pobl ifanc ar ôl y sesiwn:
“Roedd y noson yn hwyl a nes i ei fwynhau yn fawr iawn.”
“Noson dda a wnaeth helpu mi ymlacio. Gobeithio y gallwn wneud eto.”
“Roedd o’n grêt cael y merched i gyd at ei gilydd a rhoi'r cyfle i ni wneud rhywbeth fyddwn ni byth yn medru fforddio yn fel arfer.”
Cliciwch yma i weld y lluniau
![]()
Pêl droed 5 bob ochor
Mae tîm Agor Drysau wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn trefnu gemau pêl droed i bobl ifanc GISDA. Ar ôl sgwrsio gyda'r bobl ifanc ddaeth hi’n amlwg bod yna ddiddordeb mewn chwaraeon ag yn benodol pêl droed. Erbyn hyn mae’r gemau yn cael ei gynnal pob pythefnos yng nghanolfan Hamdden Porthmadog. Ers cychwyn y gweithgareddau mae’r timau pêl droed wedi ei selio ar Caernarfon yn erbyn Blaenau Ffestiniog a hyd yma Caernarfon sydd ar y brig. Mae’r gemau pêl droed wedi bod yn llwyddiannus iawn ac yn gyfle da i'r bobl ifanc ddod i adnabod ei gilydd.
Pan ofynnodd Ymyrraeth Er Cyfiawnder Cymunedol Cymru i dîm pêl-droed GISDA gystadlu yn eu twrnamaint pêl droed roedd pawb yn gyffrous iawn. Cynhelir y twrnamaint yn Rhyl ble roedd 15 o dimau yn cystadlu. Roedd y timau wedi gwahanu i dri grŵp o bump.
Chwaraewyd tîm GISDA yn wych yn y twrnamaint a rhoddir 100%. Yn y gêm gyntaf a thrydydd roedd y sgôr yn 0 -0. Enillwyd yr ail gêm 1 -0 ond yn anffodus collwyd y gêm ddiwethaf 1 -0. Fodd bynnag, roedd yn ddiwrnod allan wych i’r bobl ifanc a gafodd weld y cwpan o’r ‘Barclay’s Premier League’ a thynnu lluniau ohono.
Mae Agor Drysau yn edrych i mewn i greu twrnamaint pêl droed o fewn y gymuned i hyrwyddo GISDA fel elusen gydag asiantaethau eraill. Gwliwch y gofod yma!
![]() |
![]() |
![]()
Grant y Cynulliad at wella’r Gwasnaeth Ieuenctid 2011-2012
Derbyniwyd grant o £10,000 tuag at gostau cyflogi Gweithiwr Theatr Fforwm. Bydd y swydd yn trefnu gweithdai i ddefnyddwyr gwasanaeth GISDA a pherfformiadau mewn Colegau lleol.Mae prosiect Theatr Fforwm GISDA wedi dangos dros y blynyddoedd ei fod yn arddull arbennig ar gyfer datblygu hunan hyder a hunan ymwybyddiaeth pobl ifanc, iddynt weithio fel rhan o dîm ac fel modd o ddatrys problemau. Mae hefyd yn edrych am ffyrdd positif i drechu gorthrwm drwy wneud eraill o fewn cymdeithas fod yn ymwybodol o’r math o broblemau sy’n wynebu’r ifanc. Y gobaith fyddai y bydd y gwaith yn cael ei achredu gan Agored Cymru lefel 1 a 2 ac yn cael mynediad i gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm.
![]()
Cynllun ’Community Matters’ Waitrose - DIOLCH
Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth gyda ymgyrch Waitrose.
Ddaru ni godi cyfanswm o £667!
![]() |
Siân Elen Tomos yn derbyn siec gan Waitrose am £667 |
![]()
Cyfarfod Blynyddol GISDA
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol GISDA yng Nghlwb Pêl Droed Caernarfon am 1.30 y prynhawn ar ddydd Llun 26 Medi 2011. Bydd lansiad Prosiect Agor Drysau hefyd, sydd wedi ariannu gan y Loteri Fawr.
Cysylltwch â lowridundee@gisda.co.uk am wybodaeth ychwanegol neu ffoniwch 01286 671153
![]()
Cynllun ’Community Matters’ Waitrose
Rydym yn hapus i gyhoeddi fod GISDA yn un o dair elusen leol i gael budd o gynllun ’Community Matters’ Waitrose am Orffennaf.
Pob mis mae Waitrose yn rhoddi £1000 i rannu rhwng tair elusen. Mae eu cwsmeriaid yn derbyn tocyn plastig gwyrdd gyda phob pryniad ac mae’r cwsmer yn dewis pa elusen i gefnogi wrth roi’r tocyn yn un o’r tri blwch wrth yr allanfa.
Mae hwn yn gyfle gwych i GISDA felly plîs dangoswch eich cefnogaeth drwy brynu eitem o Waitrose ym Mhorthaethwy a rhoi eich tocyn i mewn i’n bocs neu ofyn i'ch ffrindiau a’ch teulu i gefnogi ni hefyd (son ar Facebook neu Twitter ayb). Cofiwch y medrwch rot tocyn gyda phob pryniad drwy fis Gorffennaf.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.
![]()
Cystadleuaeth Pel-Droed!
Cafodd y gêm fawr rhwng Gogledd a De Gwynedd ei chwarae ym Mhorthmadog nos Fercher. Roedd yng ngêm agos iawn gyda’r De yn ennill 19-18. Roedd y pobl ifanc a’r staff wedi mwynhau’r gêm a chafodd ei chwarae mewn ysbryd da iawn. Mae ail gêm wedi ei drefnu ar gyfer yr ail ar bymtheg o fis Mehefin, gem fydd y Gogledd yn awyddus i ennill ar ôl iddynt deimlo bod penderfyniadau wedi mynd yn eu herbyn y tro yma! Dywedodd capten tîm y Gogledd, Harri “Roedd hi’n llwyddiant mawr a gêm ddaru pawb fwynhau. Roedd hi’n gêm hwylus a chafodd ei chwarae mewn ysbryd da. Er bod rhaid i mi longyfarch tîm y De, mha rhaid rhoi pwyslais ar y ffaith bod y Gogledd yn awyddus i ennill yr ail-gem”. Dywedodd capten tîm y De, Michael “Wnes i fwynhau'r gêm yn ofnadwy. Cefais hwyl a chyfle i gwrdd â phobl. Dwi’n falch ein bod wedi ennill ac yn meddwl medrwn i ennill yr ail-gem yn hawdd hefyd!”.
Cliciwch yma i weld y lluniau
![]()
Diwrnod Antur Awyr Agored!
Ar yr 7fed o Ebrill, mi aeth 6 o bobl ifanc GISDA ar ddiwrnod antur awyr agored yng Nghapel Curig. Yn y bore mi gafodd y cyfle i feicio mynydd o amgylch cwrs yng Nghapel Curig gyda hyfforddwr proffesiynol. Yn y prynhawn roedd cyfle gwych i’r bobl ifanc cael dringo ac abseilu craig. Roedd y bobl ifanc i gyd wedi mwynhau’r profiad, ac wedi cael y cyfle i weithio gyda'i gilydd fel tîm er mwyn datrys problemau drwy gydol y diwrnod.
Pwrpas y diwrnod oedd i bobl ifanc cael blas ar antur awyr agored ac er mwyn iddynt gael gwybodaeth ar yrfa yn y sector awyr agored.
Cliciwch yma i weld y fideos.
![]()
Gwasanaeth Cymodi Newydd
Mae gan GISDA wasanaeth Cymodi newydd!
Beth yw Cymodi?
Mae cymodi’n broses o negodi wedi i’r berthynas fethu rhwng aelodau teulu neu ffrindiau neu mewn anghydfodau ynghylch tai/tenantiaeth. Mae cymodydd hyfforddedig yn drydydd parti annibynnol sy’n gweithio gydag unigolion heb eu barnu. Bydd cymodi’n caniatáu i’r ddwy ochr egluro eu pryderon a’u hanghenion i’w gilydd ym mhresenoldeb y cymodydd; bydd hwnnw, yn ei dro, yn eirioli dros y ddwy ochr sy’n gysylltiedig er mwyn dod o hyd i’w hatebion ymarferol eu hunain i’r gwrthdaro.
Ynghylch y gwasanaeth
Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth cymodi sy’n gyfrinachol, yn ddiduedd ac am ddim, i alluogi cleientiaid i ddatrys gwrthdaro eu hunain. Nod ychwanegol yw hwyluso gwell cyfathrebu a gwella perthnasoedd rhwng y rhai sy’n rhan o’r anghydfod. Mae’r gwasanaeth Cymodi’n wirfoddol a dim ond os yw’r ddwy ochr yn cytuno y caiff gymryd rhan.
Ar gyfer pwy y mae’r gwasanaeth?
Mae’r Gwasanaeth Cymodi’n gweithio’n bennaf gyda defnyddwyr gwasanaethau o fewn GISDA, sy’n eu cael eu hunain yn rhan o wrthdaro sy’n bygwth eu cartref. Mae’r gwasanaeth ar gael hefyd i’r rheini sy’n eu cael eu hunain yn rhan o wrthdaro o fewn eu prosiectau tai a lle mae anghytundeb rhwng ffrindiau.
![]()

Diwrnod Trwynau Coch 2011
Staff TY Rhydalun ar ddiwrnod trwyn coch - Ddaru ni hel £63
![]()
Cwrs Arweinyddiaeth Chwaraeon
“Mae GISDA wedi fy helpu i gael lle i fyw; maen nhw hefyd wedi helpu wrth fy nghymell i fynychu Bocswn, y fenter gymdeithasol a chwrs arweinyddiaeth chwaraeon.”
Chelsey.
Mae ychydig o bobl ifanc GISDA wedi mynychu ‘Get into Sports Leadership’ (rhaglen chwaraeon Awyr Agored), wedi ei drefnu gan ymddiriedolaeth y Tywysog, o Ddydd llun 14 Mawrth hyd at Ddydd Iau 21 Ebrill 2011.
Mae hwn yn rhaglen llawn amser am chwe wythnos i unrhyw berson ifanc rhwng 16 - 25 yn yr ardal leol, sydd yn ddi-waith, ddim mewn addysg na unrhyw hyfforddiant arall sydd gyda diddordeb i ddod o hyd i gyflogaeth yn y diwydiant hamdden Awyr Agored.
Mae’r rhaglen yn cynnwys
Cyflwynwyd y cwrs gan Ganolfan Awyr Agored Plas Menai yng Nghaernarfon a rhaid i unrhyw berson sydd yn ei gyfeirio fod yn barod i weithio a gallu ymrwymo i’r cwrs am yr holl chwe wythnos.
Yn dilyn y cwrs mae yna opsiwn o ddilyniant cefnogol am chwe mis i bob cyfranogwr, os hoffant, i’w cynorthwyo gyda helpu i ddod o hyd i gyflogaeth neu hyfforddiant ychwanegol.
“Rwyf yn mwynhau arweinyddiaeth chwaraeon yn arw; mae’n fy nghymell fi ac yn cadw fi’n weithredol trwy’r dydd. Rwy’n mwynhau bod yn fy kayak ar y dŵr fel fy mod yn dal lliw haul braf! Rwyf am dal ati oherwydd mae’n hwylus ac weithiau dwi’n cael sbri. Mae’r siwtiau gwlyb yn dun ac yn gwneud i mi edrych fel ‘plonker’ ond rwyf dal yn ymlacio allan yna.”
Chelsey
![]()
Y Prif Weinidog yn cyfarfod egin entrepreneuriaid
Ar 27ain o Fawrth cafwyd ychydig o bobl ifanc GISDA, sydd wedi gweithio ar astudiaeth dichonoldeb am fenter gymdeithasol nwy hunain, cael y cyfle i gyflwyno ymchwil y busnes cynaliadwy, sy’n cynnwys wal ddringo ym Mlaenau Ffestiniog, i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ym Mhlas Menai.
Roedd y digwyddiad yn rhan o bedwerydd cyfarfod cenedlaethol Llamau ym Mhlas Menai, a gwahoddwyd y Gweinidog yno i wrando ar gynlluniau tair menter gymdeithasol newydd gan wahanol elusennau digartrefedd o Gymru. Ar ôl gwrnado ar gyflwyniad GISDA roedd Carwyn Jones yn amlwg wedi ei blesio a gwaith caled y bobl ifanc . Yn siarad gyda’r ‘egin entrepreneuriaid’ dywedodd “Mi rydych wedi dangos i bobl eraill pa mor anodd yw’r amgylchiadau ar y funud, a pha mor galed fu amgylchiadau’r gorffennol, mae yma rŵan, gyfle i bethau wella”
Aeth ymlaen i ddweud “Y peth pwysig ydi: mae’r syniadau yma i gyd, yn syniadau yr ydych chi wedi ei greu. Does yna neb wedi gwneud hyn drosto’ch. Mae’r egni wedi dod gennych chi, ac mae’n profi nad oes terfyn ar be all gael ei gyflawni os rhowch chi’r cyfle i bobl. Mae yma heddiw esiamplau anhygoel o lwybrau newydd all newid, nid yn unig bywydau unigolion, ond cymunedau cyfan.”
Roedd Harri Morris, aelod o’r criw fu’n gweithio ar yr astudiaeth ac yn Fenter Gyfoed gyda GISDA, yn cyflwyno ar y diwrnod. Roedd Harri yn falch iawn hefo ymateb y Prif Weinidog. Dywedodd Harri “Mae’r bobl ifanc yma heddiw yn llawn haeddu'r gydnabyddiaeth o’r uchelfannau, ag yma yng Nghymru does dim uwch na’r Prif Weinidog. Yn dilyn y sgwrs gyda’r Prif Weinidog, mae hyn wedi eu hysbrydoli i symud y prosiect yn ei flaen o’r safle astudiaeth dichonoldeb i fod yn fenter go iawn”.
Fe greodd y fenter gymaint o argraff ar y Cynulliad iddynt eisoes rhoi arian ychwanegol tuag at y prosiect i alluogi’r grŵp i weithio hefo Ymgynghorydd Busnes. Y bwriad ydi i ymchwilio a gwneud ceisiadau am grantiau er mwyn iddynt allu cychwyn y busnes cyffrous yma.
Yn ogystal â chychwyn busnes eu hunain, bydd y grŵp yn cael y cynnig i fynychu cwrs i ddysgu bod yn hyfforddwyr dringo, er mwyn rhoi’r siawns gorau iddynt, gyda chymwysterau hyfforddwyr, erbyn cychwyn y busnes.
Ar ddiwedd y cyfarfod dim ond geiriau o anogaeth oedd gan Carwyn Jones i’r grŵp “Pob lwc i chi gyd ac maen gwych gweld esiamplau rhyfeddol o Gymru. Da iawn i chi gyd.”
Cliciwch yma i weld y lluniau.
![]()
Menter Cymdeithasol
Sefydlwyd menter gymdeithasol gan grŵp o bobl ifanc GISDA er mwyn darganfod beth fysa’n buddsoddi'r gymuned a phobl Blaenau Ffestiniog a’r ardal o gwmpas.
Ddaru’r grŵp ddod i fyny gyda’r syniad o gael canolfan wal ddringo ymroddedig ym Mlaenau Ffestiniog, oherwydd bysa’n helpu denu mwy o dwristiaid i’r dref.
Ar ôl nifer o ymchwil, strategaeth ac ystadegau, ddaru’r grŵp ddod i fyny gyda’r syniad o ddal ymgynghoriad yn y gymuned. Penderfynwyd cael wal ddringo symudol tu allan i’r neuadd chwaraeon yn Blaenau Ffestiniog er mwyn cael barn gyhoeddus yn ogystal â’u meddyliau o gael wal ddringo barhaol yn y dref.
Penderfynwyd rhoi diodydd a chawl llysiau i’r ymwelwyr, wedi paratoi gan y bobl ifanc. Roedd pawb i’w weld wedi mwynhau’r cawl a gofynnwyd rhai ohonynt os oeddent yn cael talu am hwn felly mae’n rhaid ei fod yn flasus!
Cynlluniwyd y grŵp ychydig o ‘hoodies’ a gwisgodd y rhain ar y diwrnod; cynlluniwyd holiadur, archebu’r wal ddringo symudol a dosbarthu nifer o daflenni dros ardal Blaenau Ffestiniog i ddenu sylw i’r digwyddiad.
Ddaru’r plant i gyd a fynychodd gymryd rhan a gweler eu bod wedi mwynhau eu hunain yn arw. Yr adborth gan y rhieni oedd eu bod yn meddwl bod hwn yn syniad gwych a bysa’n ddefnyddiol iawn i Blaenau Ffestiniog.
Cawsom dros 40 o holiaduron wedi eu cwblhau, gyda 100% cytundeb i’r syniad o gael wal ddringo ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd y digwyddiad ei hun yn llwyddiannus ofnadwy a ddaru o gwmpas 160 pobl dangos eu diddordeb a chefnogaeth, ac mae’r grŵp yn ddiolchgar am hyn.
Ddaru ein grŵp mwynhau’r diwrnod yn wirioneddol ac rydym yn gobeithio gall ein syniad busnes ddod yn wir.
Harri – Menter Cyfoed
Beth dywedodd y pobl ifanc:
“Fel person ifanc rydwyf wedi dysgu sut I sefydlu menter cymdeithasol fel yr un rydym wedi body n gweithio ar, sef wal dddringo yn fy nhre lleol, Blaenau ffestiniog. Rydym yn meddwl y medrwn ddod a mwy o dwristiaid I’n tref.”
Cliciwch yma i weld y lluniau.
![]()
Adroddiad Portiwgal
Derbyniwyd gwahoddiad i ddau berson ifanc ac aelod staff fynychu rhwydwaith Ewropeaidd ‘Momnets, Places, Journeys’ (MPJ) yn Porto, Portiwgal. Rhwydwaith yw MPJ sy’n ymchwilio i werth y celfyddydau fel dull i annog ‘newid cymdeithasol’ mewn cymunedau.
Roeddem yn cychwyn ar ein taith ar ddydd Gwener 11 o Fawrth - fflio o Fanceinion i Frankurt ac yn glanio ym Mhorto o gwmpas 5 yr hwyr.
Ar ôl gadael y bagia yn yr hostel roedd rhaid cyfarfod a’r grŵp o’r gwledydd eraill oedd yn cymryd rhan yn y rhwydwaith sef Ffrainc, Awstria a Portiwgal.
Y noson gyntaf roeddem yn chware gemau er mwyn i bawb ddŵad i nabod ei gilydd ac yna swper ar ddiwedd y noson lle oedd yn gyfle i ni gymdeithasu.
Yn ystod y 3 diwrnod nesaf roedd yna weithdai ar ddawns a graffiti a’r cyfle i fynd i Brotestio yn Porto.
Y Brotest
Roedd rhaid creu baneri a gweithgaredd oedd ychydig yn wahanol sef creu siâp corff ar gyfer y protest oedd yn cyfleu’r hyn oedd y grŵp yn ei deimlo. Pwrpas y protest cyfleoedd cyfartal a hawliau teg i bawb e.e. addysg am ddim, tai i bawb a lleihau digartrefedd, gwasanaethau gwell i bobl gydag anableddau ayb.
Er mwyn creu'r siâp corff roedd y grŵp angen heb siarad gyda’i gilydd cyfleu’r hyn oeddem yn ei deimlo drwy ddefnyddio corff person fel siâp. Ar ôl i’r siâp gael ei wneud roedd rhaid rhoi `cling film’ drost y corff ac wedyn selotep i gryfhau’r siâp. Torri cling film i ffwrdd o’r corff a rhoi nôl at ei gilydd gyda selotep........ anodd i chi ddychmygu felly gweler llun yma:-
![]() |
A dyma un o’r siapiau gorffenedig:-
![]() |
Yn ystod y protest bu i’r uchod dderbyn dipyn o sylw gan bobl gan ei fod yn ffordd wahanol o gyfleu teimladau.
Y Gweithdy Graffiti
Y gweithdy graffiti - bu i Darren, Anthony a finnau gymryd rhan yn y gweithdy a chawsom ychydig o helbul rhwng y glaw a paent yn cael ei gloi yn car (mewn camgymeriad)...Ond ar ôl cael y set sbâr o oriadau i gael at y paent a’r glaw yn stopio cawsom weithdy ar graffiti.
Jean Guy (yn rhan o’r ‘International Culture Exchange project’) o Ffrainc oedd y person oedd yn arwain ar y gweithdy ac yn rhoi gwersi i’r grŵp ar sut i greu darn celf.
Roedd Jean Guy wedi dylunio’r hyn oeddem am ei weithio arno ar neges oedd `tai i bawb, a bod neb yn gorfod fod yn ddigartref’. Gweler y gelf isod:-
![]() |
Rhaid cyfaddef roedd hi’ reit anodd i beidio cael y paent i redeg a chadw o fewn i’r llinellau a neud siŵr fod y wal wedi ei orchuddio’n dda gyda’r paent. Roedd Anthony a Darren wedi mwynhau yn fawr iawn ac wedi gweld y gwahaniaeth rhwng graffiti sy’n gelf a graffiti sy’n dinistrio adeiladau a ddim yn neis i’w weld.
Ar y dydd Llun cawson fore rhydd ac aeth Darren ac Anthony gyda Felix i weld cae pêl-droed Porto ac yn hwyr yn y prynhawn fu i bawb ymweld â’r hen ffactri i weld y graffiti a chael gweld perfformiad y grŵp dawns.
Mae cyfleoedd fel hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ifanc bregus ac yn rhoi hyder iddynt ar gyfle i gymdeithasu gyda phobl o wledydd eraill.
Beth ddywedodd y pobl ifanc:
“Cefais yr amser gorau ym Mhortiwgal. Un o’r tripiau gorau rwyf erioed wedi bod ar. Cawsom wneud llawer o bethau byswn erioed wedi meddwl am, brotestio, graffiti ayb. Nes i gyfarfod a grŵp da o bobl ddaru fi fynd ymlaen yn dda gyda a teimlais yn hapus o’u cwmpas.
Roeddwn yn hapus hefyd gyda’r pobl ddaru ddod gyda mi i Portiwgal. Cefais amser ffantastig a ni allaf cael gofyn am bobl gwell.
Roedd yn trip ffantastig.”
Darren
Cliciwch yma i weld y lluniau.
![]()
Trip Mongolia
Ar ôl prynhawn o gyfweliadau a gweithgareddau yn Aberystwyth, mae dau o bobl ifanc GISDA wedi cael eu dewis i fynd i Fongolia ym mis Medi hefo Fforwm Ieuenctid Cymraeg ar Ddatblygu Cynaliadwyedd.
Sefydlwyd y Fforwm yn 2003 i sichrhau llais i bobl ifanc yng Nghymru, ar faterion datblygu cynaliadwyedd trwy grym, addysg a gweithrediad. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu’r arian craidd i’r sefydliad.
Bydd Kyle ac Anthony yn teithio am 8 diwrnod ar drên Trans-Siberian ag yn gwirfoddoli ym Mongolia am bythefnos cyn dod yn ôl. Cyn hynny mi fyddan yn gweithio ar godi arian i fynd ar y daith. Da iawn nhw!
Cliciwch yma i weld y lluniau.
Cliciwch yma am linc i’r blog ar gwefan ‘Dyfodol’
![]()
Ymweliad Ni i Lundain - 24/03/11
Sefydliad yw Streetwise Opera sy’n cynnal gweithdy cerddoriaeth yn ganolfannau digartref ledled Lloegr. Maent yn llwyfannu’r cynhyrchiad blynyddol, sef perfformiadau o ganlyniad i’r gweithdai mewn theatrau ar draws Prydain. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl digartref o bob oedran berfformio mewn cynyrchiadau opera o safon.
Nod Streetwise Opera yw rhoi cyfleoedd i bobl ddigartref hyrwyddo a chynyddu eu datblygiad personol drwy ddefnyddio cerddoriaeth. Mae hyn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ac yn tanlinellu bod modd i pobl bregus mewn cymdeithas lwyddo i berfformio ar lwyfan genedlaethol, broffesiynol.
Roedd hwn yn dro cyntaf i’r grŵp ymweld â dinas Llundain. Cychwynnodd y criw ac aelodau staff lawr i Lundain ar y trên ar y 24ain o Fawrth, picio i’r gwesty ac yna ymlaen i’r South Bank National Theatre. Wrth gwrs bu gryn grafu pen wrth geisio dallt y system ‘underground’ – araf deg mae dal iâr!
Cyrraedd y theatr i gyhoeddiad bod y cynhyrchiad ddim yn y theatr ond yn y sinema gyferbyn, dyma dechrau poeni ein bod ni wedi gwneud camgymeriad gan ein bod i gyd yn disgwyl perfformiad mewn theatr. Yn wir, dyma oedd perfformiad gwahanol, perfformiad ar y cyd â thechnoleg.
Dangoswyd 4 stori fer ar dull opera ar y sgrin fawr, rhwng bob stori roedd cyflwyniad i’r straeon yn cael ei cyfleu gan y ‘story teller’ a chorws o gantorion oedd yn eistedd gyda’r gynulleidfa. Roedd disgwyl i’r gynulleidfa ymateb neu gymryd rhan ar rai adegau - roedd hyn yn gwneud y cyflwyniad yn eithaf unigryw. Roedd aelodau o’r côr i gyd yn bobl oedd wedi bod, neu yn ddigartref.
Does dim dwywaith bod y perfformiad yn adlewyrchiad o gerdd ac opera mewn cyfrwng wahanol i’r arfer. Roedd yn dal sylw’r lygad ac yn gwneud y gynulleidfa yn ran o’r perfformiad – roedd hyn yn cryfhau perthynas rhwng y straeon opera a phawb yn y gynulleidfa. Roedd elfennau fel hyn yn rhoi cyfle i bob unigolyn yn y gynulleidfa ddadosodi’r dros eu hunain beth oedd neges yn mhob stori.
Ymateb cymysg a gafwyd gan criw theatr fforwm, roedd rhai wedi mwynhau ac eraill dal i bendroni dros wir ystyr rhai o’r straeon a welwyd. Roedd hwn yn gyfle i’r criw gael gweld a phrofi bod gan unrhyw unigolyn difreintiedig y gallu ar hawl i lwyddo.
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae Streetwise wedi tyfu yn sefydliad llwyddiannus gyda nifer y digartref sy’n cymryd rhan yn cynyddu yn flynyddol. Mae’r sefydliad yn denu sylw a chanmoliaeth gan gyfryngau cenedlaethol yn ogystal â sefydliadau opera a cherdd proffesiynol Prydain. Yn 2008/09, enillodd Streetwise Opera 4 prif wobr gan gynnwys Music in the Community Award gan papur newydd The Times. Mae’r cynhyrchiad Streetwise yn mynd ar daith i Awstralia yn ystod 2011.
Y diwrnod canlynol buom yn hynod o ffodus i gael tywydd braf felly dyma neidio ar fws awyr agored. Cafodd pawb gyfle i weld rai o uchafbwyntiau Llundain - Big Ben, London Eye a Phalas Buckingham. Roedd ambell un yn siomedig bod y Frenhines heb ddod draw i ddweud helo! Cawsom drip cwch lawr Afon Tafwys at Dwr Llundain, ar ôl hynny aethom draw i ‘Oxford Street’ gan bod y merched awydd siopa! Erbyn diwedd y trydydd diwrnod, roedd pawb yn teimlo’n eithaf blinedig ac yn barod am adref!
Cafwyd trip llwyddiannus gyda’r criw yn gadael am adref yn gyfoethocach o ran dealltwriaeth o fywyd amlddiwylliannol Llundain. Ond yn fwy na hyn cawsom weld bod modd i unigolion o gefndir cymdeithasol bregus lwyddo ar lwyfan. Bravo!
Osian Gwyn Elis
Beth dywedodd y pobl ifanc:
“Roedd y trip i Lundain yn anhygoel - Wnes i fwynhau o gymaint, ges i brofiadau a gwneud llawer o bethau gwahanol a nes i fwynhau yn ofnadwy, roedd y cwmni yna yn wych hefyd ac mi roedd yn brofiad gwych i mi.
Oll yn oll yr oedd yn werthfawr ac yn drip anhygoel.”
Cliciwch yma i weld y lluniau.
![]()
Lansio Ymchwil i Rai sy’n Gadael Gofal 08/03/11
Cysylltodd Shelter Cymru â GISDA y llynedd i ofyn a allem ei helpu yn ei ymchwil i’r allgáu ariannol y mae pobl ifanc yn ei wynebu wrth adael neu ar ôl gadael gofal. Comisiynwyd yr ymchwil gan Llais Defnyddwyr Cymru.
O ganlyniad penodwyd Darren Roberts, person ifanc sy’n cael cymorth gan GISDA ar hyn o bryd, yn Ymchwilydd Cymheiriaid ar gyfer cyfnod yr ymchwil a chytunodd rhai o’r bobl ifanc sy’n derbyn y gwasanaeth cynghorydd personol i gael eu cyfweld.
Ar ddydd Mawrth 8 Mawrth, aeth Darren a minnau i gyfarfod lansio’r Ymchwil i Rai sy’n Gadael Gofal ym Mae Caerdydd lle y dangoswyd yr adroddiad am ganfyddiadau’r ymchwil a DVD a oedd yn tynnu sylw at brofiadau’r bobl ifanc.
Roedd Darren wedi’i gyfweld cyn hynny gan Radio Wales, a’r cyfweliad wedi’i ddarlledu fore Mawrth i gyd-fynd â’r lansio. Roedd yr adborth yn y cyfarfod lansio am y cyfweliad â Darren yn gadarnhaol iawn. Cytunodd Darren hefyd i gymryd rhan mewn cyfweliad â newyddion ITV yn ystod y cyfarfod lansio.
Ar ôl y lansio gwnaethom gwrdd â Dr Brian Gibbons AC a Mrs Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog ymysg eraill, ac roedd pawb yn ddiolchgar i’r bobl ifanc am eu cyfraniad i’r ymchwil.
Mae Darren wedi dweud ei fod yn falch iddo gael y cyfle i fod yn Ymchwilydd Cymheiriaid, sy’n rhywbeth na fyddai erioed wedi’i ystyried yn y gorffennol. Dywedodd rhai o’r bobl ifanc eraill sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil eu bod yn ddiolchgar am y cyfle i ‘roi rhywbeth yn ôl’.
Y gobaith yw y bydd y bobl ifanc sy’n cael cymorth gan GISDA yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil arall yn y dyfodol.
Gallwch weld y lluniau yma - cliciwch yma.
![]()
Farchnad Ffermwyr Ysgol Treffos – 1 Mawrth 2011
Cynnal marchnad o gynnyrch lleol oedd y ffordd ddaru ddisgyblion Ysgol Treffos yn Llansadwrn ddathlu dydd Gŵyl Dewi Sant a chodi arian i GISDA. Roedd y stondinau a’r raffl o dan reolaeth y plant, gyda’r plant yn annog y cwsmeriaid i ofyn am y bwydydd yn y Gymraeg.
Dywedodd Isabell Tolley-Roberts, ar y stondin blodau “ Hoffais weld gwên ar wynebau plant yr ysgol feithrin pan gawsant ddaffodil yr un.”
Ddaru Olivia Williams ac Emma Cronin, a oedd yn gwasanaethu’r te esbonio i’r cwsmeriaid nad oedd yna goffi ar gael oherwydd “Nid oedd hyn yn gynnyrch Cymraeg!” Pan ofynnwyd i’r babanod beth oeddynt wedi mwynhau fwyaf am y digwyddiad, atebwyd “teisen, teisen a mwy o deisen”.
Cawsom rodd hefyd gan Gegin Geltaidd am werthu jamiau, picls a chyffeithiau a chodwyd cyfanswm o dros £130 gan yr ysgol tuag at GISDA.
Diolch yn fawr iawn i chi’i gyd a da iawn!
![]()
Hawl I Holi – 11 Chwefror 2011
Cynhaliwyd ein digwyddiad o’r enw ‘Hawl I Holi’ ar nos Wener 11 Chwefror yn y Galeri yng Nghaernarfon. Mynychodd pobl ifanc o Wynedd a Môn gyda'i gilydd i gwestiynu panel o westeion arbennig am yr hyn oedd yn bwysig iddynt yn eu cymdeithas heddiw.
Roedd y gynulleidfa yn cynnwys traws doriad o bobl ifanc o ysgolion, myfyrwyr lleol, aelodau clybiau ieuenctid, asiantaethau lleol, elusennau a chymdeithasau sydd yn gweithio ym maes plant a phobl ifanc yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd.
Aelodau’r panel oedd Eleanor Burnham AC, Hywel Williams AS, Keith Jones - Heddlu Gogledd Cymru, Irfon Williams - Bwrdd Ieuenctid Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cynghorydd Brian Jones - Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd, Iwan Trefor Jones - Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd, Gwern Ap Rhisiart - Adran Addysg Cyngor Gwynedd a Sharon Williams - Gyrfa Cymru.
Cadeiriwyd y noson gan Gwyn Llewelyn – Darlledwr a Chyflwynwr.
Nododd y gynulleidfa fod y noson wedi bod yn llwyddiannus a hoffent gael y cyfle yma unwaith eto. Dywedodd Ilan Llyr Williams o Glwb Ieuenctid Gwynedd “Diddorol iawn. Roeddwn wedi cael atebion i’r cwestiynau yr oeddwn eisiau gwybodaeth am.” Nododd Tomos Guto Davies o ‘Llais Ni’ Ynys Môn “Noson dda gyda llwyth o wybodaeth. Mae’r Galeri yn lleoliad gwych ac atebwyd yn dda i destunau a chwestiynau amrywiol.”
Roedd rhan fwyaf o’r adborth yn bositif fel “Diddorol iawn”, “Gwybodaeth ddefnyddiol iawn i bobl ifanc ac i mi sydd yn gweithio gyda phobl ifanc yn ddyddiol”, “Defnyddiol iawn, pobl brofiadol wedi eu dewis ac wedi ateb y cwestiynau yn llawn, yn rhoi nifer o arweiniad.”
Dywedodd Hywel Williams AS, hefyd ar y panel “Roeddwn yn hynod falch o allu bod yn rhan o’r noson. Mae’n bwysig i bawb sydd yn rhan o’r broses penderfynu wrando ar farn pobl ifanc. Dylid llongyfarch GISDA am eu gwaith arbennig ac am roi cyfle i bobl ifanc lleisio’u barn.”
Dywedodd Mair Richards, ein Prif Weithredwr “I ddathlu pen-blwydd GISDA yn 25ain, penderfynodd ein pobl ifanc y byddent yn hoffi cydweithio gydag ieuenctid eraill o Wynedd a Môn, er mwyn gadael i bobl wybod sut deimlad yw bod yn berson ifanc yn ein cymunedau heddiw.”
Mae DVD o’r noson ar gael, yn cynnwys cyfweliadau gan y rhai a fynychodd. Bydd hwn ar gael ar ein gwefan newydd o fis Mai 2011.
Hoffwn ddiolch i bawb fu’n rhan o’r noson ac am eu cwestiynnau. Oherwydd nid allwn gael ateb i bob cwestiwn yn ystod y noson, danfonir y rhain i aelodau’r panel ac mae'r rhain wedi cael eu hateb rŵan. Mae rhestr o’r cwestiynnau yma a’r atebion ar gael yma:
Os hoffech weld y DVD – cliciwch yma.
I weld y lluniau - cliciwch yma.
![]()
Digwyddiad Codi Arian Eglwys Sant Pedr – Chwefror 2011
Wel, Roedd Eglwys Sant Pedr yn edrych rhywbeth fel ‘dinas cardfwrdd’ yn ddiweddar!
Ddaru ddeuddeg o bobl ifanc ‘wersylla allan’ yn yr eglwys un noson ym mis Chwefror o 8 yr hwyr tan 8 y bore i godi arian i GISDA. Cafodd y pobl ifanc flas o fod heb wrês gan mai sach cysgu ac ychydig o focsys cardfwrdd oedd ar gael i geisio cadw’n gynnes. Un o’r colledion mwyaf iddynt yn 21 ganrif oedd peidio chael gemau cyfrifiadurol neu’r llif cyson o'r nwyddau maent yn cael mor hawdd gartref. Roeddynt yn cael mwg o sŵp a brechdan o gwmpas hanner nos ac wedyn teisen am 4 y bore. Dywedodd y plant “ Roedd yn oer”, “Roeddwn i wedi diflasu” a “Roeddwn i eisiau bwyd”.
Dywedodd trefnwyr yr eglwys “Roeddem eisiau i’n pobl ifanc i gael gafael mewn rhywfaint o’r profiad o beth mae’n golygu i gysgu allan ar y stryd. Ddaru rywfaint mwynhau’r profiad o fod gyda'i gilydd a siarad drwy’r nos hefyd! Roeddem hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth cawsom gan staff GISDA a ddaeth i rannu gyda ni am eu gwasanaeth ac arhosant gyda ni yn yr eglwys am ran o’r digwyddiad. Ond, mae angen i ni eu llongyfarch oherwydd hyd at heddiw y maent wedi codi dros£300 tuag at y gwaith mae GISDA yn gwneud gyda phobl ifanc ddigartref ac mae’r arian dal i ddod mewn.
Dywedodd, Mair Richards, Prif Weithredwr GISDA “Hoffem ddiolch i Janice Gourdie a’r trefnwyr yn Eglwys Sant Pedr, yn ogystal â’r bobl ifanc a gymerodd rhan a rhoi eu hamser i fyny i godi arian i GISDA. Mae hyn yn ffordd arloesol o godi arian ac ymwybyddiaeth o’r gwaith mae GISDA yn gwneud gyda phobl ifanc ddigartref trwy Wynedd - Llongyfarchiadau i chi a da iawn!”
I weld y lluniau - cliciwch yma.
Noson o Ddathlu - 12 Tachwedd 2010
Mynychodd dri berson ifanc noson Dathlu Llwyddiannau Pobl Ifanc fel rhan o wythnos Plant a Phobl Ifanc yn Hafan y Môr Pwllheli nos Wener 12 o Dachwedd 2010. Derbyniodd Darren a Laura tystysgrifau am eu llwyddiannau drwy GISDA.
Cafwyd llond bol o fwyd a disgo wedyn i losgi’r caloriau!! Roedd pawb wedi mwynhau a hoffwn ddiolch i Amy, Darren a Laura am gynrychioli GISDA.
![]()
Diwrnod Glyn Llifon – 10 Tachwedd 2010
Fel rhan o wythnos plant a phobl ifanc sy’n cael eu gynnal bob blwyddyn gan Cyngor Gwynedd roedd GISDA yn rhan o grwp tasg oedd yn trefnu diwrnod gweithgaredd a gwybodaeth yn Glynllifon ar ddydd Mercher 10fed o Dachwedd 2010. Bu i oddeutu 85 o bobl ifanc blwyddyn 9 Ysgolion Uwchradd Gwynedd fynychu a chymered rhan mewn `orientering’, archery, bocswn, gweithdy llechi, gweithdy metal a cael cyfle i chware gyda gweithgareddau’r Swyddogion Chware Cyngor Gwynedd. Roedd yna amryw o asiantaethau yno i ddarparu gwybodaeth i bobl ifanc. Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus ofnadwy, a gafodd ei ddarlledu ar Wedi 3.
![]()
Menter Cymdeithasol – Hydref 2010
Mae GISDA yn ymchwilio i mewn i greu Menter Gymdeithasol efo cefnogaeth yllywodraeth y Cynulliad. Mae criw o bobl ifanc wedi dod i fyny efo’r syniad o agor caffi efo themâu dringo a chanolfan ym Mlaenau Ffestiniog. Rydym eisoes wedi bod yn edrych ar wahanol adeiladau a all fod yn addas. Y cam nesaf rŵan ydi gweithio ar astudiaeth dichonoldeb a chynllun busnes. Byddwn wedyn yn mynd ati i chwilio am ffynonellau arian i wireddu’r syniad.
![]()
Gwobrau I Bobl Ifanc – Hydref 2010
Llongyfarchiadau i un ar ddeg o’n defnyddwyr gwasanaeth ar gwblhau unedau Llwybr Llwyddiant a derbyn tystysgrifau. Da iawn pob un ohonoch ar eich llwyddiant.
![]()
Llwyddiant Y Gronfa Loteri Fawr! – Hydref 2010
Mae GISDA wedi derbyn grant o £289,075 gan Gronfa'r Loteri Fawr. Mae’r arian ar gyfer adeiladu ar ein cynllun Llwybr Llwyddiant.
Prosiect Agor Drysau fydd enw'r prosiect newydd. Yn ogystal â chynnig
unedau wedi eu hachredu drwy Agored Cymru bydd y prosiect yn ariannu
cyfres o weithdai a gweithgareddau diddorol a heriol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth GISDA. Bydd hefyd yn cynnig cyfle i ymgymryd â gweithgareddau ehangach fel cyfnewidfeydd ieuenctid, cyfleoedd i hwylio neu fynychu cyrsiau arbenigol.
Bydd Prosiect Agor Drysau hefyd yn cynnwys gwasanaeth cymodi, sef gwasanaeth diduedd fydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth i geisio adnabod ffyrdd o ail-sefydlu perthynas gyda teuluoedd. Mae hwn yn hwb arbennig i GISDA a gobeithiwn weld y prosiect yn ei le ac yn barod i gychwyn erbyn diwedd Mawrth 2011.
Yr hyn mae ein pobl ifanc yn dweud:
“Fantashtish! Byddai’n ymestyn y gefnogaeth i ddiwallu anghenion pobl ifanc heddiw ac yfory.”
“Credaf bydd yr arian yn cael ei wario’n ddoeth ac mae’n wych bod GISDA wedi cael y cyfle i helpu pobl.”
“Dwi’n meddwl ei fod yn wych oherwydd mae’n golygu cefnogaeth i bobl ifanc.”
“Dylai hwn fod yn dda i helpu gyda datblygu ac addysg.”
“Mae’n wych eich bod wedi cael yr arian - Da iawn chi.”
“Mae’n wych os mae’n cael ei ddefnyddio’n iawn. Gwych!”
![]()
Pen Blwydd Hapus Hafan – 21 Hydref 2010
Ar nos Iau 21 o Hydref 2010 bu i bobl ifanc a staff GISDA ddathlu penblwydd arbennig Hafan, yr hostel yn Nghaernarfon. Mae Hafan wedi darparu llety a chefnogaeth i bobl ifanc bregus ers 21 o flynyddoedd.
Bu i aelod staff, Lynda Roberts, ysgrifennu cerdd ar gyfer yr achlyusr sy’n crynhoi’r hyn mae pawb yn ei deimlo am yr hostel - cliciwch yma i lawrlwytho'r gerdd. (Saesneg yn unig)
Dringo’r Wyddfa - 29 Hydref 2010
Ar 29 Hydref, aeth Neil Jones a fi ac ychydig o’n pobl ifanc a Gary, arweinydd mynydd i geisio cerdded i gopa’r Wyddfa.
Hoffwn ddiolch i Gary, am fod mor garedig a rhoi ei amser fel arweinydd mynydd i fynd a’n pobl ifanc i fyny’r Wyddfa. Roedd o’n arweinydd ardderchog, ac yn fuddiol i’r bobl ifanc
oherwydd ei wybodaeth eang o’r lleoliad -felly, diolch mawr i Gary.
Nid oedd un o’r pobl ifanc, sydd wedi symud i Hafan yn ddiweddar, erioed wedi bod i fyny’r Wyddfa, na ddim mynydd arall chwaith. O Fanceinion yn wreiddiol, roedd o’i weld wedi gwirioni gyda’r olygfa anhygoel a chymerodd cyfrifoldeb i fod yn ddyn camera swyddogol. Ddaru o fwynhau tynnu lluniau o’r olygfa a dywedodd ei fod yn falch o gyrraedd y gopa. Sylweddolodd efallai fod ei ysmygu yn gallu bod yn un rheswm pam roedd o’n anadlu’n drwm a disgrifiodd ei ysgyfaint fel teimlad eu bod yn ‘sownd a’i gilydd’. Mae o wedi penderfynu trio rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn gwella ei iechyd . Pob lwc iddo gyda hyn. Mae dringo’r Wyddfa wedi sbarduno diddordeb newydd ynddo ac mae o wedi gaddo mynd eto, yn ogystal â dringo mynyddoedd eraill mewn amser.
Roedd y person ifanc arall gyda GISDA, yn awyddus i gofrestru gyda’r morlu brenhinol ac wedi bod yn hyfforddi tuag at hyn. Nid oedd yntau wedi bod i fyny’r Wyddfa erioed, ac roedd i’w weld yn mwynhau’r dringo a’r olygfa yn drylwyr. Roedd yn braf iddo cael profiad o’r newidiadau yn y tywydd . Ar un adeg roedd y gwelededd yn dda, wedyn aethom i mewn i’r cymylau lle'r oedd yn damp ac yn oer. Pan ddaru ni gyrraedd y gopa (lle medrwch weld dros yr ochr arall ar ddiwrnod clir), roedd yna wyntoedd tymestl yn ein cyfarfod ac roedd pawb yn ymddangos i’w fwynhau! Ar ôl ychydig o ystumiau i’r camera ar y pwynt uchaf, cawsom siocled poeth a brechdanau cyn mynd allan i’r glaw trwm am dipyn cyn i ni ddechrau mynd i lawr o’r gopa ar hyd y trac mochyn. Mae’r profiad hyn yn pwysleisio'r angen am ddillad, offer a gwisg traed iawn.
Dywedodd Matthew (elwir hefyd yn Syr Edmund Hilary)!: “Oll yn oll, diwrnod hynod o dda ac yn fuddiol i’r bobl ifanc.”
Pobl Ifanc GISDA yn rhedeg râs10k Gaernarfon – Hydref 2010
Eleni, cymeroedd dau o bobl ifanc GISDA a’c aelod o staff ran yn y râs flynyddol o gwmpas y Foryd yng Nghaernarfon o dan arweiniad Eryri Harriers.
Dywedodd Anthony Williams o Blaenau Ffestiniog, “Mwynhais y râs o ddifri a rwyf yn credu iddo fod yn fuddiol tuag at fy hyfforddiant i ynumo a’r Morlu Frenhinol. Roeddwn yn hapus gyda fy amser a mi fyddaf yn dychwelyd yn ôl y flwyddyn nesaf, gyda’r nod i ennill. Roeddwn yn falch bod GISDA wedi rhoi’r cyfle i mi rhedeg yn y râs. Ddaru Anthony ddarfod y râs mewn amser trawiadol o 42 munudau.
Mae Kelsey Jones, yn gyn rhedwr ieuenctid i Gymru. Fodd bynnag, hwn oedd yr adeg cyntaf iddi rhedeg ers amser maith ac er iddi deimlo’r râs yn annodd, ddaru fwynhau ail afael mewn rhedeg ac yn falch iawn o ddarfod y râs. Mae Kelsey wedi cychwyn ar gwrs gosod briciau yn y coleg ers mis Medi. Mae’n gobeithio cael gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
Dywedodd Daniel Hall, aelod o staff iddo yntau fwynhau rhedeg ac iddo sylweddoli bod rhaid ymarfer o hyn ymlaen cyn rhedeg mewn ras. Serch hynny ddaru fwynhau a roedd yn gyfle iddo yntau yn ogystal a’r pobl ifanc wella ei ffitrwydd a chael boddhaod o gyflawnhad. Mae yn gobeithio bydd y ras hwn yn arbrawf i gystadleuthau yn y dyfodol. Marathon Llundain efallai?
I weld y lluniau - cliciwch yma.
Diwrnod Hwyl GISDA ym Mhorthmadog – 12 Medi 2010
Ar ôl llawer o ruthro o gwmpas, trefnu, hysbysebu a gofyn am wobrau raffl, ddaru’r diwrnod ddod a mynd cyn i chi gau eich llygaid! A oedd o’n llwyddiannus? Roedd staff a defnyddwyr gwasanaeth GISDA yn sicr yn meddwl hyn, yn ogystal â’r cyfryngau lleol, (adroddiad yn y Caernarfon & Denbigh Herald ar 16 Medi.)
Pan gyrhaeddais y Clwb Chwaraeon am 8.30 y bore ddaru’r nefoedd agor a meddyliais, ‘O na, peidiwch â bwrw glaw heddiw! Roedd y tywydd wedi bod yn sych yr holl fordd tan i mi gyrraedd Tremadog, ond, ni fedrwch wneud dim byd am y tywydd ? Nid oedd rhaid i mi boeni , ddaru’r haul dod allan a chawsom brynhawn heulog a braf.
Roedd yn wych gweld pawb yn cyrraedd. Roedd yn fwy gwych gweld rhai o’r staff yn cael cystadleuaeth swmo! Aeth y gweithgareddau a drefnwyd yn dda a ddaru’r staff a’r bobl ifanc weithio gyda’i gilydd fel tîm, yn edrych ar ôl y stondinau, cadw trefn ar y maes parcio a’r gemau - diolch yn fawr iawn i chi’i gyd..
Roedd yna nifer o bethau i’w wneud trwy’r dydd fel y cyfle i eistedd tu mewn i beiriant tân, cymryd rhan mewn cystadleuaeth gwisg ffansi, gemau plant, sgorio o’r smotyn, canu carioci (ddaru’r bobl ifanc mwynhau hwn), siopa yn y farchnad, saethyddiaeth, arddangosfa adar ysglyfaethus a gwrando ar gerddoriaeth fyw tu allan ar y patio. Yn ychwanegol i ddathlu 25ain GISDA, roedd hwn yn gyfle hefyd i hyrwyddo gwasanaethau GISDA i’r cyhoedd ac i adael iddynt wybod sut mae GISDA yn cefnogi pobl ifanc ddigartref i fyw bywyd annibynnol a chyflawn.
I weld y lluniau - cliciwch yma.