Gwasanaethau Eraill

Gwasanaethau Eraill

Mae GISDA yn cynnig gwasanaethau eraill sy’n ategu ein gwasanaethau tai â chymorth.

Bydd yr holl Ddefnyddwyr Gwasanaethau’n cael mynediad at y canlynol –

  • Gwasanaeth cwnsela
  • Gwasanaeth Cymodi
  • Rhaglen addysg amgen

 

Rydym hefyd yn rhedeg gwasanaeth Cynghorydd Personol i bobl ifanc sy’n gadael gofal.

 

Mae GISDA yn cyflogi dau Gynghorydd Personol rhan-amser.

 

Mae Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 yn datgan bod hawl gan bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal i gael Cynghorydd Personol penodedig.

 

Bydd Cynghorydd Personol ar gael i gynorthwyo pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal; bydd yn gweithio’n annibynnol gan sicrhau bod barn a llais pobl ifanc yn cael eu clywed.

 

Mae Cynghorwyr Personol:

 

  • wedi ymrwymo i sicrhau lles a datblygiad y person ifanc.
  • yn gallu cynnig cyngor a chymorth ymarferol.
  • yn helpu gyda Chynlluniau Llwybr unigol.
  • ar gael i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal.

 

Gallant roi cymorth a chyngor ynghylch –

 

Cynlluniau Llwybr 

Gwasanaethau Cymdeithasol

Tai

Hawliau

Budd-daliadau 

Cyllidebu

Gwaith

Materion Iechyd

Addysg a Datblygu

 


Mae GISDA yn cynnig gwasanaeth cwnsela cyffredinol sy’n gyfrinachol, yn broffesiynol ac yn ddwyieithog, i bob un o’n defnyddwyr gwasanaethau.

 

Beth yw pwrpas cwnsela?

Bydd gan bawb broblemau weithiau sy’n achosi pryder. Meddyliwch amdanynt fel jig-so dyrys lle mae’n anodd ffitio’r holl ddarnau i’w gilydd. Mae trafod problem drwy gwnsela’n debyg i roi trefn ar yr holl ddarnau fel ein bod yn gallu dechrau gwneud llun sy’n gwneud mwy o synnwyr i ni. Weithiau bydd yn anodd siarad â rhieni neu ffrindiau am bethau sy’n achosi pryder i ni. Mae cwnselydd yn rhywun y gallwch siarad ag ef mewn ffordd wahanol, rhywun a fydd yn gwrando arnoch yn ofalus iawn, na fydd yn eich barnu neu’n dweud wrthych beth i’w wneud. Pwrpas cwnsela yw’ch helpu i weld yr atebion eich hun, i wneud penderfyniadau a dewisiadau ac i edrych ar bethau’n wahanol. Gall eich helpu i deimlo’n well amdanoch eich hun.

 

Pa fathau o bethau y bydd pobl yn siarad amdanynt yn ystod cwnsela?

Beth bynnag sy’n bwysig iddynt neu beth bynnag sy’n achosi pryder iddynt. Gallai fod yn llawer o bethau gwahanol.

 

Beth bynnag sydd wedi bod ar eu meddwl – does dim sy’n rhy fach neu’n rhy fawr i’w drafod â chwnselydd. Drwy rannu’ch meddyliau, efallai y byddwch yn gallu gweld beth fyddai’r dewis gorau i chi.

 

Beth bynnag y bydd pobl yn ei drafod gyda chwnselydd, bydd yn gyfrinachol. Ni fydd cwnselwyr yn torri cyfrinachedd oni bai fod lle i gredu bod rhywun mewn perygl o gael niwed.

 

Fel arfer bydd pobl yn trefnu i gwrdd â chwnselydd yn rheolaidd ar adeg gyfleus ac mewn lle diogel.

 

Yn GISDA gallwch alw heibio, rhoi galwad i ni, gofyn i weithiwr allweddol eich atgyfeirio, neu anfon neges testun neu e-bost atom i drefnu apwyntiad preifat.

 

Agor DrysauProsiect newydd sbon yw hwn sydd wedi’i ariannu gan y Loteri Fawr sy’n ceisio agor y drysau at addysg a datblygu i’n defnyddwyr gwasanaethau.

 

Bydd Agor Drysau yn ceisio cynnig profiadau a chyfleoedd dysgu ysgogol a fydd yn meithrin hyder ac yn datblygu sgiliau a doniau cadarnhaol.

 

Bydd y cyfleoedd hyn yn helpu pobl i symud ymlaen tuag at ddyfodol mwy hyderus ac annibynnol.

 

Rhoddir cymorth i bobl ifanc sy’n gysylltiedig â GISDA i bennu’r sgiliau y mae angen iddynt eu datblygu a symud ymlaen i fyw’n annibynnol. Mae Agor Drysau yn ceisio cynnig achrediad am y rhan fwyaf o’r sgiliau a ddysgir.

 

Bydd y cyfleoedd yn amrywio o ddysgu i goginio bwyd iach, rheoli materion ariannol, ac iechyd rhywiol i waith theatr, drymio a graffiti. Bydd Agor Drysau yn cynnig dewis o weithdai, cyrsiau a chyfleoedd sydd â’r bwriad o addysgu pobl ifanc sut i sefyll ar eu traed eu hunain.


Bydd Agor Drysau yn canolbwyntio hefyd ar ddatblygu cyflogadwyedd defnyddwyr gwasanaethau, drwy ddatblygu’r sgiliau y mae eu hangen drwy gyfleoedd gwirfoddoli a gwaith menter gymdeithasol.


Pwrpas Agor Drysau yw dod o hyd i ffyrdd amgen o ddysgu sy’n ysgogol, yn ymestynnol ac yn hwyliog.


Mae gwasanaeth cymodi’n rhan o’r prosiect Agor Drysau.

 

 

Addysg a Datblygu

Mae rhan o’r prosiect ‘Agor Drysau’ newydd yn canolbwyntio ar addysg a datblygu.

 

Rydym yn ceisio rhoi achrediad (drwy Agored Cymru/OCN) am y rhan fwyaf o’r gweithgareddau a chymorth yr ydym yn eu cynnig.

 

Mae hyn yn golygu y bydd defnyddwyr gwasanaethau’n ennill cymwysterau gwerthfawr wrth gael cymorth drwy GISDA.

 

Gan fod y prosiect hwn yn un newydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y datblygiadau.

 

 

Perfformiadau

Yn 2006 bu i griw o bobl ifanc GISDA gymryd rhan mewn gweithdy theatr fforwm. Erbyn hyn mae’r theatr wedi datblygu yn fenter gyffrous gyda phobl ifanc GISDA yn cael cyfle i addysgu eraill am broblemau sy’n wynebu y digartref. Bellach mae perfformiadau o theatr fforwm GISDA wedi cael eu cyflwyno i gynulleidfaoedd o gymunedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.   

 

Ond beth yw theatr fforwm?

Yn y 70au bu i’r cyfarwyddwr a'r addysgwr o Frasil, Augusto Boal ddarganfod dull Theatr Fforwm. Theatr rhyngweithiol sydd a thechnegau i addysgu pobl sut i gymryd rhan weithredol yn eu cymuned er mwyn taclo gorthrwm.  Mae wedi cael ei ddefnyddio ledled byd er mwyn dod o hyd i atebion i broblemau, dylanwadu ar ddeddfwriaeth ac i ysgogi pobl i gryfhau cymdeithasau er mwyn gwell.  

 

Defnyddir dull theatr fforwm gan pobl ifanc GISDA i gyfleu ar lwyfan eu profiadau personol o ddigartrefedd. Mae’n bwysig nodi mae’r bobl ifanc sy’n llywio cynnwys y theatr boed yn gymeriadau, stori a’r sgript.

 

Nod theatr fforwm GISDA yw ymgyrchu ac i ysgogi “newid cymdeithasol” drwy annog pobl o’r gynulleidfa i rhyngweithio â’r cymeriadau ar y llwyfan er mwyn cynnig dulliau gwahanol, syniadau a phosibiliadau ar gyfer goresgyn ac atal digartrefedd.

 

Does dim dwywaith bod cymryd rhan mewn perfformiad yn cael effaith bositif ar ddatblygiad personol unigolyn, megis  

 

  • gwella hunan hyder a hunan ymwybyddiaeth
  • lleisio barn yn hyderus ac i herio safbwyntiau eraill mewn modd adeiladol
  • deall iaith y corff wrth ymateb i wahanol emosiynau - mynegiant dilafar.
  • cryfhau symudiadau cydsymud a sensitifrwydd y synhwyrau.
  • gweithio fel rhan o dim ac yn annibynnol.
  • dangos gorthrwm drwy gyfrwng drama ac actio.

 

Cydnabyddir Theatr Fforwm gan y Cenhedloedd Unedig drwy UNESCO  (United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization) fel dull bositif sy’n annog “Newid Cymdeithasol.”

Osian Elis, Hwylusydd Theatr Fforwm

 

 "Math o wybodaeth yw theatr: fe ddylai ac fe all hefyd fod yn ddull o drawsffurfio cymdeithas. Gall theatr ein cynorthwyo i adeiladu ein dyfodol, yn hytrach na disgwyl amdano."

Augusto Boal – Sylfaenydd Theatr Fforwm

 

Perfformiadau Theatr Fforwm GISDA

 

Fel a nodir isod mae pobl ifanc wedi perfformio ar gyfer nifer o sefydliadau, cyfarfodydd, cynadleddau ac ambell i berfformiad mewn gwlad dramor.

 

Mae’r cynulleidfaoedd wedi bod yn gymysgedd helaeth o bobl amrywiol e.e. disgyblion ysgol, Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol, cynghorwyr, Comisiynydd Plant Cymru, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, gweithwyr iechyd a llawr mwy.

 

Medi 2006 Cynhadledd 21ain GISDA, Caernarfon
Hydref 2006 Cynhadledd Sheltre  Cymru, Caerdydd
Ebrill 2007 Coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli
Ebrill 2007 Ysgol Uwchradd Botwnnog, Botwnnog
Ebrill 2007 Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon
Mai 2007 Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd
Mai 2007 Canolfan Grassroots, Caerdydd
Medi 2007 Cyfarfod Blynyddol GISDA, Caernarfon
Rhagfyr 2007 Cynhadledd Llamau, Caerdydd
Mawrth 2008 Cyfnewidfa Ieuenctid Porto, Portiwgal
Medi 2008 Cyfarfod Blynyddol GISDA, Caernarfon
Hydref 2008 Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd
Hydref 2009 Ffair Arianwyr, Mantell Gwynedd, Llanberis
Tachwedd 2009 Cynhadledd ‘Wythnos Ni - Gwynedd’, Bangor
Tachwedd 2009 Cynhadledd Gadel Cartref, Shelter Cymru, Caerdydd
Rhagfyr 2009 Rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc Gwynedd, Caernarfon
Ebrill 2010 Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc Gwynedd, Bangor
Mawrth 2010 Ysgol Uwchradd Moelwyn, Blaenau Ffestiniog
Mawrth 2010 Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon
Mehefin 2010 Cyfarfod Penaethiaid Cyngor Gwynedd, Caernarfon
Gorffennaf 2010 Gŵyl Theatr Fforwm Sin Telón, Barcelona, Catalwnia
Hydref 2010 Cydlynwyr Amddiffyn Plant Ysgolion Uwchradd, Porthmadog
Tachwedd 2010 Wythnos Ni Gwynedd, Glynllifon

 

 

Cyfnewidfaoedd Ieuenctid

Heb os mae gwaith theatr fforwm wedi agor drysau i bobl ifanc GISDA gyda gwahoddiadau i fynychu cyfnewidfaoedd ieuenctid ledled Ewrop. Yn ogystal bu i GISDA fod yn gyfrifol am greu cyfnewidfa eu hunain yn 2009.

 

Yn ystod y cyfnewidfaoedd mae cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithdai celfyddydol, megis theatr fforwm, dawns, cerdd a drama. Pwrpas y cyfnewidfaoedd yw defnyddio’r celfyddydau i wella ansawdd bywydau pobl ifanc ac i  ehangu eu gorwelion.

 

Hydref

2006

Cyfnewidfa Ieuenctid Denmarc

Mawrth

2007

Cyfnewidfa Ieuenctid Porto, Portiwgal

Hydref

2008

Cyfnewidfa Ieuenctid Budapest, Hwngari

Ionawr

2009

Cyfnewidfa Ieuenctid Bala, Cymru

Tachwedd

2009

Cyfnewidfa Ieuenctid, Conwy, Cymru

Gorffennaf

2010

Cyfnewidfa Ieuenctid, Barcelona, Catalwnia

 

 

 

Mentora Cymheiriaid

Mae mentora cymheiriaid yn gyfle gwych i ddefnyddwyr gwasanaethau gael gwaith gyda GISDA. Mae hyn yn eu galluogi i ehangu eu profiad a datblygu sgiliau newydd.

Drwy fentora cymheiriaid gall y person llwyddiannus fentora’r bobl ifanc yn ein prosiectau.

Bydd y Mentor Cymheiriaid wedi cadw tenantiaeth yn llwyddiannus ac wedi gadael y gwasanaeth am gyfnod o saith mis i un flwyddyn.

Ein gobaith yw y bydd y rôl hon yn gallu ysbrydoli pobl ifanc eraill i ddatblygu, gan fod ein mentor presennol wedi derbyn ein gwasanaeth yn y gorffennol, yn deall y problemau y mae defnyddwyr gwasanaethau’n eu hwynebu ac yn gallu meithrin perthynas dda â nhw.

 

Beth yw Cymodi?

Mae Cymodi’n broses o negodi wedi i’r berthynas fethu rhwng aelodau teulu neu ffrindiau neu mewn anghydfodau ynghylch tai/tenantiaeth. Mae cyfryngwyr hyfforddedig yn drydydd parti annibynnol sy’n gweithio gydag unigolion heb eu barnu. Bydd cymodi’n caniatáu i’r ddwy ochr egluro eu pryderon a’u hanghenion i’w gilydd ym mhresenoldeb y cyfryngwr; bydd hwnnw, yn ei dro, yn eirioli dros y ddwy ochr sy’n gysylltiedig er mwyn dod o hyd i’w hatebion ymarferol eu hunain i’r gwrthdaro.

 

Ynghylch y gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth Cymodi sy’n gyfrinachol, yn ddiduedd ac am ddim, i alluogi cleientiaid i ddatrys gwrthdaro eu hunain. Nod ychwanegol yw hwyluso gwell cyfathrebu a gwella perthnasoedd rhwng y rhai sy’n rhan o’r anghydfod. Mae’r gwasanaeth Cymodi’n wirfoddol a dim ond os yw’r ddwy ochr yn cytuno y caiff gymryd rhan.

 

Ar gyfer pwy y mae’r gwasanaeth?

Mae’r Gwasanaeth Cymodi’n gweithio’n bennaf gyda defnyddwyr gwasanaethau o fewn GISDA, sy’n eu cael eu hunain yn rhan o wrthdaro sy’n bygwth eu cartref. Mae’r gwasanaeth ar gael hefyd i’r rheini sy’n eu cael eu hunain yn rhan o wrthdaro o fewn eu prosiectau tai a lle mae anghytundeb rhwng ffrindiau.

 

Mediation
Mediation