cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
Sefydlwyd GISDA yn 1985 gan grŵp o wirfoddolwyr yn ardal Caernarfon a oedd yn pryderu am broblem cynyddol digartrefedd ymysg pobl ifanc yn y dref ar ddechrau’r 80au a’r rhagfarnau yr oeddent yn eu hwynebu wrth geisio cymorth a chefnogaeth.
Yn 1989, mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Eryri, gwnaethom agor ein hostel cyntaf, Hafan, yng Nghaernarfon, i 8 o bobl ifanc. Ers hynny rydym wedi agor dau hostel arall, Llys Meddyg a Fron Fawr, y ddau ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ogystal â hynny mae gennym ddau dŷ wedi’u dodrefnu yn Nolgellau, sy’n eiddo i Gymdeithas Tai Clwyd. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a’r Cymdeithasau Tai ac, o ganlyniad, mae gennym brosiectau sy’n gallu cynorthwyo pobl mewn tai eraill. Parhawn i helpu pobl sy’n dal i fyw gartref hefyd.
Yn wreiddiol, roedd GISDA yn sefyll am ’Grŵp Ieuenctid Sengl Digartref Arfon’. Heddiw rydym yn cynorthwyo pobl ddigartref ifanc a’u teuluoedd ledled Gwynedd, a’r rheini’n cynnwys: pobl ifanc sengl, rhieni sengl, mamau sy’n disgwyl, cyplau a theuluoedd.
Dros y blynyddoedd mae ein gwasanaethau wedi ehangu a datblygu ac mae’r galw amdanynt yn gymaint heddiw ag erioed.