cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
Mae GISDA yn gorff sy’n cael ei arwain gan bobl sy’n gwerthfawrogi ei staff, ei ymddiriedolwyr a’i randdeiliaid. Credwn mai pobl yw’r ased gorau ym mhob corff.
Mae ein staff a’n hymddiriedolwyr yn teimlo’n gryf ynghylch cefnogi’r bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw ac yn ceisio newid eu bywydau er gwell.
Byddwn yn gwybod ein bod wedi llwyddo pan welwn y bobl ifanc yr ydym wedi’u cynorthwyo’n gallu byw bywyd annibynnol a chyflawn.
Rhoddir hyfforddiant cyson i bob un o’n staff er mwyn iddynt gyflawni gofynion eu swydd, felly maent yn llawn ddeall anghenion ein defnyddwyr gwasanaethau a’n rhanddeiliaid.
Bydd ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cyfarfod yn rheolaidd i lywodraethu’r corff. Mae holl aelodau’r Bwrdd wedi ymrwymo i’n nodau ac amcanion ac yn cael eu dewis ar sail y sgiliau a’r profiad y gallant eu cyfrannu i hybu GISDA a gwneud gwahaniaeth.
Mae’r gwaith o reoli’r corff o ddydd i ddydd yn gyfrifoldeb i’r Tîm Rheoli sy’n cael ei arwain gan y Prif Weithredwr.
Cadeirydd - Tudor Owen
Tudor yw Cadeirydd Cyngor Gwynedd. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Tref Caernarfon lle y bu’n Faer ar ddau achlysur. Mae wedi gwasanaethu ar y ddau gyngor am fwy nag 20 mlynedd ac mae’n Is-gadeirydd i Noddfa, yn Gadeirydd i Tŷ Pobl Peblig ac yn aelod o nifer o bwyllgorau gan gynnwys y Gwasanaeth Tân. Cyn ymddeol roedd yn rhedeg ei fusnes adeiladu ei hun yn yr ardal ac mae wedi bod yn briod ers mwy na 40 mlynedd. Mae gan Tudor ddau fab, tri ŵyr ac un wyres. Ei ddiddordebau yw cymdeithasu a chwarae golff er ei fod yn rhy brysur i chwarae y dyddiau hyn! Mae hefyd yn mwynhau garddio. Ymunodd Tudor â Bwrdd GISDA fel cynrychiolydd Cyngor Gwynedd ac roedd yn ymddiddori yng ngwasanaethau GISDA oherwydd ei gysylltiadau â’r pwyllgorau tai a gofal. Roedd hefyd yn gwybod am waith da GISDA gyda phobl ifanc.
Is-Gadeirydd – John Hughes-Jones
Mae John wedi bod yn gysylltiedig â GISDA am bron 20 mlynedd ac mae’n gyn-Gadeirydd y Bwrdd Rheoli. Ar ôl gweithio gyda’r Gwasanaeth Lles Addysg am bron 30 mlynedd, ymgymerodd John â’r rôl o ddatblygu’r Prosiect Tîm o Amgylch y Plentyn yng Ngwynedd yn ddiweddar. Mae John yn briod a chanddo bedwar plentyn o wahanol oedrannau ac felly’n deall rhai o’r heriau mawr y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw.
Y Parchedig Ron Williams
Un o’r De yw Ron sydd wedi byw yn y Gogledd ers 1979 pan ddaeth yn weinidog yn Salem, Capel yr Annibynwyr, Caernarfon. Roedd Ron yn un o aelodau sefydlu GISDA yn 1985 ac ef yw’r unig aelod o’r grŵp gwreiddiol sy’n dal ar y Bwrdd. Pryder am ddigartrefedd ymysg pobl ifanc Caernarfon a’r cylch oedd y rheswm dros ffurfio GISDA. Mae Ron yn briod â Rhian ac mae ganddynt dri o blant a phump o wyrion.
Mae’n parhau â’i gefnogaeth i GISDA oherwydd ei bryder a’i ofal am bobl ifanc yn yr ardal. Dros y blynyddoedd mae GISDA wedi helpu, cynghori, meithrin a rhoi profiadau newydd i lawer o bobl ifanc – oherwydd hyn mae Ron yn rhoi o’i amser i gynorthwyo a chyfrannu ym mhob ffordd bosibl i helpu ein pobl ifanc.
Huw Edwards
Mae Huw wedi bod yn Gynghorydd ar Gyngor Gwynedd ers 2005 ac ar Gyngor Tref Caernarfon ers mwy na 30 mlynedd. Mae’n Faer Caernarfon am y trydydd tro. Mae wedi bod yn briod ers 1960 ac mae ganddo ddwy ferch, un wyres ac un ŵyr. Mae Huw yn ymwybodol o’r gwaith y mae GISDA yn ei wneud gyda phobl ifanc ac mae’n cefnogi gweithgareddau’r bobl ifanc. Mae’n cynrychioli Cyngor Gwynedd ar y Bwrdd.
Alun Griffiths
Mae Alun Griffiths yn Ymgynghorydd i’r Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector ac yn arbenigo ar helpu cyrff i ganfod atebion a’u rhoi ar waith. Gan ei fod wedi gweithio fel cyfrifydd yn y sector cyhoeddus am 17 flynedd, mae gan Alun wybodaeth fanwl a helaeth am y maes hwn bellach. Heddiw mae Alun yn rhedeg cwmni ymgynghori (Ciwb - creating insight with business) sy’n helpu cyrff i wneud gwell penderfyniadau yn ystod cyfnod o bwysau ariannol na welwyd ei debyg o’r blaen.
Alan Parry BA(Anrh), MSc, FInstSMM.
Ymunodd Alan â Bwrdd GISDA yn 2010. Ef yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol Prifysgol Bangor, ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr i Arwain Cyf, cwmni sy’n arbenigo mewn datblygu perfformiad a datblygu sefydliadol. Mae ganddo fwy nag 20 mlynedd o brofiad ym maes Cyfathrebu a Marchnata mewn amryw o gyrff ac mae’n Gymrawd yn y Sefydliad Rheoli Gwerthiant a Marchnata. Mae Alan yn mwynhau rygbi, yn cefnogi clybiau pêl-droed Sheffield Wednesday a Lerpwl, ac yn disgwyl i Gymru ennill Cwpan y Byd y tro nesaf.
Dr. Vanessa Poeppinghaus
Ar ôl ei geni yn Llundain, mae Vanessa wedi byw yng Nghymru ar hyd ei hoes, yn y De yn gyntaf, ac wedyn yn Ynys Môn ar ôl symud gyda’i rhieni mewn pryd i ddechrau ei haddysg uwchradd yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.
Aeth ymlaen i astudio Meddygaeth yn Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd a threulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa mewn Meddygaeth Frys. Mae’n gweithio ar hyn o bryd fel Arbenigwr Cyswllt mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Gwynedd lle bydd yn aml yn dod ar draws pobl ifanc sy’n agored i newid sydd ag amrywiaeth fawr o broblemau iechyd a chymdeithasol.
Yn y gorffennol mae wedi gweithio fel swyddog meddygol fforensig gyda Heddlu Gogledd Cymru ac wedi bod yn Gadeirydd Cymdeithas Fuddiannol Feddygol Caernarfon ac Ynys Môn a Chymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Treffos. Mae Vanessa yn briod a chanddi 2 o blant.
Vanessa yw’r aelod diweddaraf o’r Bwrdd ac ymunodd â GISDA yn Rhagfyr 2010 gyda’r bwriad o ddefnyddio ei galluoedd a’i phrofiadau personol, yn enwedig ym maes iechyd, i ategu’r rhai sydd gan ei chyd-aelodau o’r Bwrdd wrth hybu gwaith GISDA.