Ein Gwerthoedd

Ein Gwerthoedd

Mae GISDA yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n agored i niwed i roi cyfleoedd iddynt i’w galluogi i gymryd rhan yn llawn yn y gymdeithas lle maent yn dymuno byw.

 

 

 

Mae GISDA:

  • YN YSBRYDOLI – drwy annog defnyddwyr gwasanaethau i fentro drwy gredu yn eu gallu i lwyddo.
  • YN GRYMUSO – drwy roi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau dyfu a datblygu drwy gredu ynddyn nhw a’r hyn y maent yn ei wneud.
  • YN DRYLOYW AC ATEBOL – Rydym yn agored ac yn atebol ym mhob agwedd ar ein gwaith. Credwn na ddylid gwrthod cyfleoedd i neb oherwydd ei hil, ethnigrwydd, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oed neu grefydd.
  • YN EMPATHIG – Rydym yn barod i ystyried syniadau pobl eraill ac yn sensitif i’w gwerthoedd a’u teimladau.
  • YN ARLOESOL – Rydym bob amser yn chwilio am syniadau a gwasanaethau newydd i ategu ein gwasanaeth tai â chymorth.
  • YN GYFATHREBWR DA – Byddwn yn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl ifanc i’w ddweud ac yn eu cefnogi i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.