cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
“Fel rhan o brosiect menter gymdeithasol cefais y cyfle i weithio mewn grŵp am y tro cyntaf, cymysgu gyda phobl ifanc eraill a chynyddu sgiliau newydd.
Roedd y prosiect dringo craig yn brofiad gwych a dysgais lawer am sut i gychwyn busnes eich hun.
Os mae unrhyw berson ifanc arall eisiau ymuno â grŵp menter gymdeithasol i weld sut i greu busnes eich hun byswn yn eu cynghori i wneud hyn oherwydd rydych yn dysgu cymaint. Mae’n golygu llawer o gydweithrediad felly rydych angen sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a byddwch yn barod am waith caled a diddorol i gychwyn y busnes.
Enillais gredyd ‘amser bancio’ hefyd tuag at drip i ‘Alton Towers’. Cefais amser gwych achos nid oeddwn wedi bod yno ers yr ysgol.”
Darren
“Mae GISDA wedi fy helpu – rwyf wedi bod ar un o gyrsiau Ymddiriedolaeth y Tywysog lle y dysgais ddefnyddio caiac – rwyf wedi cael profiad o ddrama fel perfformiwr ac fel rhan o gynulleidfa. Mae GISDA wedi rhoi lle braf i mi i fyw ac wedi fy helpu i gymryd rhan fel hyfforddwr pêl-droed lleol. Maent wedi fy helpu hefyd i baratoi fy nghais i ymuno â’r Marines. Oherwydd GISDA rwyf wedi cael mwy o gyfleoedd nag y byddwn wedi’i gael fel arall i wneud pethau yr wyf yn eu mwynhau.”
Anthony
“Mae GISDA wedi rhoi hwb i’m hyder drwy weithgareddau fel y Theatr Fforwm. Rwyf wedi rhoi cynnig ar bethau newydd nad oeddwn erioed wedi disgwyl eu gwneud fel cymryd rhan mewn menter gymdeithasol a chael cyfweliad gan y cyfryngau. Maent wedi rhoi cyfleoedd i mi ymweld â lleoedd na fyddwn wedi gallu mynd iddynt fel arall. Rwyf hefyd wedi gwneud rhai ffrindiau da iawn.”
Darren