straeon

straeon

Dyma beth mae ein pobl ifanc yn ei ddweud:

 

“Rwyf wedi mwynhau bod gyda GISDA ac wedi cael mantais o gyrsiau fel y Theatr Fforwm a’r sesiynau coginio.”

 

“Ar hyd y blynyddoedd, mae GISDA wedi helpu llawer o bobl ifanc yn ystod cyfnodau anodd yn eu bywyd.
Good
Independent
Safe
Different
Association

“Mae GISDA wedi rhoi llawer o help i mi yn ystod y misoedd diwethaf a hoffwn ddiolch i’r staff. Maent i gyd yn gyfeillgar iawn, yn groesawus ac yn llawn cydymdeimlad.
Great
Incredible
Safety
Daz
Amazing”

“Mae GISDA yn gorff gwych sy’n helpu pobl ifanc i sefyll ar eu traed eu hunain. Mae GISDA hefyd yn helpu pobl ifanc i roi cynnig ar wahanol weithgareddau – beicio ar hyd llwybrau, Theatr Fforwm, diwrnod hwyl Porthmadog, sesiynau coginio.
Mae’r rhain yn eich helpu i ddod yn fwy hyderus.
Guidance
Is
Seen
During
A smile”

 

Gwyliwch y DVD sydd wedi’i gwneud gan y bobl ifanc eu hunain - cliciwch yma

 

Dyma ychydig o’r straeon mae’n pobl ifanc eisiau rhannu:

 

"Roedd Lisa yn 16 oed pan ddaeth at GISDA am help. Roedd wedi gadael ysgol a dywedodd Lisa “roeddwn i mewn tipyn go lew o drwbl ar y pryd.”  Dywedodd ei ffrind wrthi am wasanaethau GISDA a phenderfynodd ddod atynt am help."

 

- Cliciwch yma i weld stori Lisa

“Cysylltais gyda GISDA yn gyntaf pan roeddwn yn 15 oed. Roedd fy rhieni wedi ymfudo i Tenerife ac roeddwn wedi penderfynu aros yng Nghaernarfon i ddarfod fy arholiadau TGAU.  Y cynllun yn wreiddiol oedd i mi fyw yn nhŷ  fy mrawd hynaf ac roeddwn yn ddiolchgar bod fy rhieni yn cysidro fy mod yn ddigon cyfrifol i edrych ar ôl fy hun a finnau mor ifanc."

 

- Clicich yma i weld stori Paul

"19 oedd Sara pan gysylltodd hi gyda GISDA. O Dalysarn yn wreiddiol, roedd Sara yn byw yng Nghaernarfon ar y pryd. Roedd hi yn ymwybodol am wasanaethau GISDA oherwydd adnabod Simon Glyn a oedd yn gweithio i GISDA ar y pryd."

 

- Cliciwch yma i weld stori Sara

"Rydw i’n 20 oed a gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau. Cefais sawl swydd ond teimlais fod cyflogwyr yn cymryd mantais oherwydd fy mod yn ifanc.  Dechreuais droseddu ac o ganlyniad fe gefais fy nhagio.  Yr oeddwn yn symud o un soffa i’r llall ac yn y diwedd penderfynais gysylltu â GISDA." 

 

- Cliciwch yma i weld stori Harri

"Rydw i’n 18 mlwydd oed, hyd at chwe mis yn ôl roeddwn yn teimlo doedd dim byd yn mynd yn iawn yn fy mywyd.  Doedd pethau ddim yn dda adref,  ac o ganlyniad yn cael fy mygwth o’m taflu allan, i ddadlau mawr am bethau a oedd yn teimlo fel diwedd y byd ar yr amser.  O ganlyniad, roedd fy ngwaith coleg yn dioddef oherwydd yr ymdrechion i drio cadw'n hun at ei gilydd.  Daeth fy mherthynas gyda’m ffrindiau o dan straen a dechreuais fod yn gas at bobl oedd yn pryderu amdana i gan eu gwthio i ffwrdd."

 

- Cliciwch yma i weld stori Claire

"Understanding and helpful
Just being there
When I felt that no-one
Really did care"

 

- Cliciwch yma i weld cerdd Ffion (Saesneg yn unig)

"Before I got to Hafan life was pretty bad
Spendin’ nights on people’s couches was gettin’ me quite sad"

 

- Cliciwch yma i weld cerdd Ben (Saesneg yn unig)

"I came to GISDA, wanted help
A place to stay out of the cold
I needed guidance to get things right
No more heartache or a fight"

 

- Cliciwch yma i weld cerdd Elvira (Saesneg yn unig)

 

"Ymunais â GISDA yn ugain oed, ar ôl sylweddoli bod y berthynas rhyngof fi a’m teulu wedi dirywio ac mai’n anaml y byddem yn siarad â’n gilydd. Ar yr adegau yr oeddem yn siarad, roeddwn yn teimlo eu bod yn dweud wrthyf beth i’w wneud, neu fy mod yn cael y bai am rywbeth bob tro."

 

- Cliciwch yma i weld stori Anthony

"Fy enw i yw Stephanie Fretwell, rwy’n 17 flwydd oed, ac mae GISDA wedi bod yn rhan o’m bywyd am bron dwy flynedd."

 

- Cliciwch yma i weld stori Stephanie

 

Straeon Eraill - Click Here