cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
GISDA yw’r unig gorff elusennol yng Ngwynedd sy’n darparu’r holl wasanaethau – tai â chymorth, cymorth a chyngor proffesiynol.
Pe na bai GISDA ar gael, beth fyddai’n digwydd i’n pobl ifanc heb unlle i fynd a neb i droi ato?
Nid yw’r ffaith nad ydych wedi gweld pobl ifanc yn byw ar y stryd yn golygu nad oes problem digartrefedd yn ein cymunedau. Bydd pobl ifanc yn cysgu ar soffas yn nhai eu ffrindiau os gallant – maent yn dal yn ddigartref – ac arnynt angen cymorth gennym ni. Mae bod yn berson ifanc heb gartref yn sicr o godi ofn.
Yn ffodus, mae GISDA ar gael i helpu ond mae arnom angen cymorth gennych chi i’n helpu i gynorthwyo mwy o bobl ifanc yn awr ac yn y dyfodol.
Carreg filltir 25 mlynedd
Gwnaethom gyrraedd ein pen blwydd yn 25 fis Hydref diwethaf ac mae cymaint o alw am ein gwasanaeth heddiw ag a fu erioed.
Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae ein gwasanaethau o dan bwysau cynyddol, er bod galw amdanynt o hyd.
Rydym wedi helpu mwy na 2000 o bobl ifanc dros y blynyddoedd ac yn dal i helpu tua 100 o bobl ifanc bob blwyddyn.
Byddem yn hoffi gallu helpu mwy.
Helpwch ni i’w helpu nhw drwy gynnig cymorth yn y ffyrdd canlynol:
Os hoffech gysylltu â ni i drafod eich syniadau, ffoniwch 01286 671153 neu anfonwch neges e-bost drwy ddefnyddio’r ffurflen gysylltu.
Diolch