Tai â Chymorth

Tai â Chymorth

Gwasanaethau Tai â Chymorth

Mae GISDA yn cynorthwyo pobl ifanc sengl a theuluoedd rhwng 16 a 25 oed mewn gwahanol brosiectau tai yng Ngwynedd. Polisi drws agored sydd gan GISDA a gall defnyddwyr gwasanaethau gael mynediad at ein gwasanaethau ar unrhyw adeg (mae gennym linell gymorth 24 awr).

Gwelwch y map - cliciwch yma

Ar ôl gwneud asesiad cynhwysfawr cychwynnol o’u hanghenion, bydd darpar ddefnyddwyr gwasanaethau’n cael eu rhoi ar ein rhestr aros nes byddwn yn dod o hyd i lety addas. Wedi i ni neilltuo llety mewn prosiect sy’n cael ei reoli gan GISDA, bydd gweithiwr allweddol yn cael ei ddyrannu i’r defnyddiwr gwasanaethau. Gyda’i gilydd byddant yn cynllunio pecyn cymorth, gan ddefnyddio model canlyniadau STAR. Bydd y cynllun cymorth yn unigryw i’r unigolyn a chaiff ei adolygu bob mis. Gall y cymorth sydd ei angen fod yn gymysgedd o wasanaethau a gaiff eu darparu’n fewnol neu’n allanol e.e. atgyfeirio at CAIS, Gyrfa Cymru, Ymddiriedolaeth y Tywysog etc. 

Rhoddir cymorth sy’n gysylltiedig â thai i helpu pobl sy’n agored i niwed i ddatblygu, neu i gadw’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i fyw’n annibynnol. Hynny yw, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i gyflawni’r tasgau arferol sy’n gysylltiedig â rhedeg eich cartref eich hun, a’r hawliau a’r cyfrifoldebau sy’n cyd-fynd â meddiannu cartref. Tasgau a fyddai, o beidio â’u cyflawni’n ddigonol, yn arwain at fethiant o ran hawl neu allu’r unigolyn i ddal i fyw yn y cartref hwnnw, e.e.

  • Y gallu i dalu’ch costau tai (rhent, morgais etc.) er mwyn peidio â cholli meddiant.
  • Y gallu i dalu’ch biliau cyfleustodau a threfnu i ddarparu gwasanaethau’n briodol i gynnal y cartref fel ei fod yn addas i fyw ynddo.
  • Y gallu i gadw’r cartref yn ddiogel, e.e. drwy gynnal dyfeisiau technegol neu reoli mynediad gan ymwelwyr.
  • Y gallu i gynnal iechyd a diogelwch yn y cartref, yn cynnwys cadw’r adeilad mewn cyflwr diogel, defnyddio offer yn ddiogel a hylendid.
  • Y sgiliau byw ymarferol sydd eu hangen i fyw’n annibynnol, fel coginio a gwybodaeth am faethiad a gorchwylion y cartref fel golchi dillad.
  • Y gallu i greu lle sefydlog o fewn y gymuned, e.e. defnyddio cyfleusterau cymunedol neu ddatrys anghydfodau â chymdogion.

 

Bydd anghenion unigolion yn amrywio ond yr un yw ein nod ar gyfer pawb – eu grymuso fel bod ganddynt y sgiliau y mae arnynt eu hangen i allu byw’n annibynnol a gwireddu eu potensial.

 

Prosiect Gogledd Gwynedd (Arfon) –

 

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys llety a chymorth mewn:-

 

  • 1 Hostel yng Nghaernarfon i 8 o bobl sengl
  • 3 hostel i deuluoedd, un yr un yng Nghaernarfon, Llanrug a’r Felinheli.
  • Gwasanaeth cymorth yn ôl yr angen i 25 o bobl ifanc sy’n eu helpu yn eu cartref teuluol, eu cartref eu hunain a/neu mewn llety gwely a brecwast.

 

Mae swyddfa’r prosiect hwn yn 7C Stryd y Plas, Caernarfon a’r staff ar hyn o bryd yw rheolwr, uwch weithiwr allweddol, 7 gweithiwr allweddol a 2 aelod staff cysgu i mewn.

Prosiect De Gwynedd (Dwyfor/Meirionnydd):

 

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys llety a chymorth mewn:-

 

  • 2 hostel ym Mlaenau Ffestiniog, y ddau â lle i 4 o bobl sengl
  • 2 dŷ i’w rhannu yn Nolgellau, y ddau â lle i 2 o bobl sengl
  • 1 hostel i deulu ym Mlaenau Ffestiniog
  • Gwasanaeth cymorth yn ôl yr angen i 6 o bobl ifanc sy’n eu helpu yn eu cartref teuluol, eu cartref eu hunain a/neu mewn llety gwely a brecwast.


Mae swyddfa’r prosiect hwn yn Tŷ Ffydd, Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog a’r staff ar hyn o bryd yw rheolwr, uwch weithiwr allweddol, 3 gweithiwr allweddol a 2 aelod staff cysgu i mewn.