Swyddi

Cymraeg | English


Y Manteision o weithio i GISDA
Mae pob aelod o staff sy’n gweithio i GISDA yn chwarae rhan bwysig i fod yn rhan o dîm i wireddu gweledigaeth Y Cwmni, a “chynnig cyfle i unigolion wella ansawdd eu bywydau”

Rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i staff sy’n gweithio i’r Cwmni ag yn ystyried ein staff fel ein ased bwysicaf.

Mae’r Cwmni wedi ennill cydnabyddiaeth Buddsoddwyr Mewn Pobl ag yn anelu tuag at fod yn gyflogwr Cyfleoedd Cyfartal.

Mae Polisi Buddsoddi mewn staff GISDA gyda’r nôd o sicrhau bod staff yn cyrraedd eu llawn botensial a chwblhau nôd ac amcanion corfforaethol y Cwmni . Bydd GISDA yn datblygu a chynnal ei staff trwy’r canlynol:

  1. Cyflwyniad i Swydd
  2. Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  3. Cyfnod Prawf
  4. Arolygaeth
  5. Adolygiad Blynyddol

Yn ogystal â chyfleoedd datblygu cyson, byddwch hefyd yn mwynhau buddion megis cynllun pensiwn ac amodau gwaith anrhydeddus wrth weithio i GISDA. Mae’r Cwmni yn cyfranu 6% at gynllun pensiwn “stakeholder”. Hefyd byddwch yn gymwys i gael 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn yn ogystal a gwyl y banc a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Mae’r gwyliau yn cynyddu gydag hyd gwasanaeth.

Mae llawer mwy o fuddion ar gael o weithio i’r Cwmni. Os oes diddordeb gennych i ymgeisio am swydd, yna cysylltwch gyda’r Adran Adnoddau Dynol am wybodaeth bellach ynglyn â’r buddion.


Angen help?
Os ydych angen help cliciwch yma.

01286 671153
gisda@gisda.co.uk Marciwch ni Argaffu Sôn wrth ffrind Angen help?