Cynllun Teulu
Mae’r cynllun yma yn cynnig llety i famau beichiog, mamau/tadau sengl neu deuluoedd sydd rhwng 16 - 25 oed. Cynigir cefnogaeth hefyd i blant defnyddwyr gwasanaeth y cynllun. Mae pedwar Gweithiwr Allweddol a Rheolwr Tîm ar staff y cynllun.
Cynllun Hosteli
Mae’r cynllun yn cynnwys 4 hostel yng Ngwynedd. Ar hyn o bryd mae hostel yng Nghaernarfon, Y Felinheli, Bethesda a Blaenau Ffestiniog.
Tai wedi eu dodrefnu yw’r hosteli gyda 2 stafell wely, cegin, stafell ymolchi a stafell fyw ac un teulu yn byw yn yr hostel. Caiff y tenantiaid Denantiaeth Byrddaliad Sicr am chwe mis.
Bydd pob defnyddiwr gwasanaeth yn yr hostel yn derbyn wyth awr o gefnogaeth yr wythnos gan Weithiwr Allweddol a mynediad i’r holl wasanaethau a ddarperir gan y cwmni.
Bydd GISDA yn gweithio gyda chymdeithasau tai lleol, Cyngor Gwynedd a pherchnogion tai preifat i gael llety parhaol i ddefnyddwyr gwasanaeth y cynlluniau. Wedi eu hasesu a’u barnu i fod yn barod i fyw yn rhannol annibynnol gyda chefnogaeth cânt symud ymlaen i’r Cynllun Cefnogaeth Symudol.
Cynllun Cefnogaeth Symudol
Mae hyn yn cynnwys 16 uned sydd fel arfer yn eiddo i gymdeithas tai neu Gyngor Gwynedd. Gall defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad i’r gwasanaeth yma unai yn uniongyrchol neu fel dilyniant i’r cynllun hosteli.
Mae’r cynllun hwn ar wasgar gyda’r defnyddiwr gwasanaeth yn aros yn yr eiddo ar ôl i GISDA ollwng y gefnogaeth.
Fel gyda’r cynlluniau eraill a reolir gan y cwmni, mae defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn Gweithiwr Allweddol a mynediad i’r holl wasanaethau a ddarperir gan y cwmni. Bydd pob defnyddiwr gwasanaeth a gefnogir gan y cynllun yn derbyn chwe awr o gefnogaeth yr wythnos.
Angen help?
Os ydych angen help cliciwch yma. |