Diolch
Diolch
Hoffai GISDA ddiolch i’r canlynol:
- Yr holl bobl ifanc yr ydym wedi gweithio gyda nhw ac yn dal i weithio gyda nhw am rannu eu hanesion ag eraill fel bod GISDA yn gallu parhau i helpu pobl ifanc eraill yn y dyfodol.
- Y cyrff sy’n ariannu GISDA ac yn caniatáu i ni ddarparu gwasanaeth amhrisiadwy i’r bobl ifanc.
- Ein partneriaid – Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Gwynedd, Cymdeithasau Tai a’r holl gyrff eraill yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n ein cefnogi.
- Yr holl ysgolion, colegau, eglwysi a grwpiau cymunedol sy’n ein cynorthwyo ac yn codi arian i ni.
- Yr holl fusnesau ac unigolion sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd ac wedi rhoi o’u hamser am ddim.
- Y cyfryngau lleol sydd wedi rhoi sylw’n gyson i’n storïau fel bod eraill yn gallu eu darllen.
I bob un ohonoch – gyda’n gilydd rydym yn gryfach, yn well ac yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.