cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
Gallwn eich cynorthwyo mewn hostelau, tai a fflatiau ledled Gwynedd. Rydym hefyd yn darparu prosiect addysg amgen i’n defnyddwyr gwasanaethau.
Gallwn gynnig cymorth a chyngor ynghylch:
Pwy y gallwn eu helpu?
Pobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed yng Ngwynedd.
Mae GISDA hefyd yn cynnig cyfle i’ch Asiantaeth/Ysgol/Coleg/Grŵp ofyn am ymweliad gan ein Swyddog Allgymorth i ddangos cyflwyniad am y gwasanaethau y mae GISDA yn eu darparu.
Byddwn yn disgrifio’r camau ar gyfer atgyfeirio pobl ifanc at ein gwasanaeth a sut mae’r broses atgyfeirio’n gweithio. Byddwn yn egluro’r cymorth y gall GISDA ei roi i’r bobl ifanc, yn ogystal â’r cyfleoedd eraill sydd ar gael iddynt. Hefyd gwnawn ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi.
Byddwn yn darparu taflenni gyda mwy o wybodaeth i’w rhannu gan eich corff ymysg pobl ifanc a allai fod ag angen cymorth gan GISDA yn y dyfodol.
Er mwyn trefnu i’n Swyddog Allgymorth ddod i siarad â chi, anfonwch eich manylion cysylltu i gisda@gisda.co.uk neu gwblhau’r ffurflen gysylltu.