cofrestrwch am newyddlen
Rhwydweithiau Cymdeithasol
Dyma sylwadau gan eraill amdanom ni:
‘Rwyf o hyd yn falch iawn o gefnogi gwaith gwerthfawr GISDA, sydd yn wasanaeth hanfodol ac unigryw yn yr ardal. Mae’r gwaith anturus maent yn ei wneud o ran pob agwedd o brofiad pobl ifainc sy’n wynebu digartrefedd yn arbennig o werthfawr. Digon hawdd fyddai iddynt gyfyngu eu gwaith i faterion tai. Ond trwy weithio efo grwpiau megis Fforwm Theatr maent yn ymateb i bobl ifainc fel pobl, nid fel achosion. Rwy’n llongyfarch GISDA a Theatr Fforwm ar y gwaith ac yn gobeithio y bydd yn parhau a chryfhau.’
Hywel Williams AS
'Un o brofiadau mwyaf trawiadol Tymor Yr Haf diwethaf i mi’n bersonol oedd gweld perfformiad ar bobl ifanc digartref, a hynny gan bobl ifanc GISDA yng Nghaernarfon ar ffurf Theatr Fforwm, sef theatr y stryd neu theatr yn digwydd yn y gymuned.
Fel mae’n digwydd, fe welais y perfformiad ddwywaith, un yn ystod diwrnod hyfforddiant y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ym Mangor ac yna mewn sesiwn i brif swyddogion Y Cyngor a rhai o blith yr Aelodau Etholedig arweiniol. Creodd y perfformiad argraff arnaf y ddau dro fel ei gilydd.
Gan fod digartrefedd ymysg yr ifanc yn broblem gyfoes, ac yn un na all ein cymdeithas wadu ei chyfrifoldeb tuag ati, roedd y straeon a ddramateiddiwyd yn portreadu sefyllfaoedd real. Dyna oedd yn peri anesmwythyd i’r gynulleidfa; profi trwy gyfrwng theatr a oedd bron yn eich wyneb, ac yna’r rhyngweithio uniongyrchol, boen a threialon negyddol carfan o’n pobl ifanc.
Gan na chrëwyd unrhyw gamargraff o realiti’r sefyllfa trwy gyfrwng y perfformiad bu’n sbardun i’r Cyngor edrych eto ar ei addewidion ei hun i bobl ifanc heddiw ac i fynnu bod ei wasanaethau yn delio efo problemau’r dydd trwy roi sylw canolog i’r unigolion sydd wedi eu dal mewn cylchoedd sydd angen eu torri. Nid cyfundrefnu mo’r ateb ond gwrando, deall anghenion ac ymateb.
Llwyddodd Theatr Fforwm, trwy gyfrwng y cyflwyniad ar ddigartrefedd, i ddarlunio gwirionedd amgylchiadau yn onest ac agored gan guro ar ddrws cydwybod pob un ohonom yr un pryd.'
Dewi Jones, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd
'Pleser o’r mwyaf yw cael cofnodi fy niolch am y ddwy tro rwyf wedi bod yn rhan o, Berfformiad Theatr Fforwm. Am ffordd wych i godi ymwybyddiaeth am broblemau mae Pobl Ifanc yn dod ar ei traws wrth geisio byw eu bywydau. Roedd ymateb y rhai oedd yn y “ gynulleidfa” yn ddiddorol ac effeithiol dros ben , gobeithio yn wers sut i ddelio gyda phobl ifanc yn y dyfodol ,ond yn bwysicaf ,y diffyg gwybodaeth ( sydd mor angenrheidiol) ag hefyd y ffyrdd o rannu gwybodaeth .
Mae gennyf brofiad o chwarter canrif fel Cynghorydd ,yn fam i dri a bellach yn nain i bump ,wedi dweud hyn , dysgais lawer mwy drwy wrando ar Theatr Fforwm , ac yn wir , llwyddont ella i godi cywilydd arnaf ,nad oeddwn ddim wedi sylweddoli'r ffyrdd mae Pobl Ifanc weithiau yn cael eu trin.
Un peth arall a ddysgais oedd, nad ydym yn gwrando digon gofalus ar ein gilydd ,a hefyd ein bod, ni fel rhai hyn a rhai mewn” awdurdod “, yn cymryd yn ganiataol , fod y genhedlaeth ifanc yn deall beth rydym yn son amdano.
Daliwch ati gyda’r gwaith pwysig yma er lles y rhai sydd i ddilyn .
Pob Lwc i’r Dyfodol !'
Cynghorydd Gwen Griffith
'Mae Theatr Fforwm yn berfformiad emosiynol o ddynwared y meddwl, a fwy pwerus oherwydd y ffaith fod y materion sydd yn cael eu trafod yn adlewyrchu gwirionedd profiadau bywyd y bobl ifanc sydd yn cymryd rhan. Mae’r perfformiad yn cael ei weld drwy lygad y bobl ifanc ac yn amlygu problemau ynghyd ag agwedd negyddol a rhagfarn maent yn ei wynebu o bryd i’w gilydd.
Mae’r perfformiad yn cymell ac yn gwneud i chi ail werthuso eich barn tuag at bobl ifanc. '
Sheila Phillips, Cefnogi Pobl, Cyngor Gwynedd
“Cafodd perfformiad Fforwm Theatr gan bobl ifanc GISDA argraff fawr arnaf. Llwyddodd y perfformiad i gael negeseuon pwysig iawn drosodd – a hynny mewn ffordd syml a chlir. Braf oedd clywed yn uniongyrchol am brofiadau pobl ifanc drwy’r Fforwm Theatr – a braf hefyd oedd gweld hyder y bobl ifanc i wneud hynny o flaen cynulleidfa. Mae’n gyfrwng gwahanol, ond hynod effeithiol, i adael i eraill wybod am deimladau a syniadau pobl ifanc.”
Iwan Trefor, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd
'Gwelais berfformiad Fforwm Theatr gan bobl ifanc GISDA yn ystod eu dathliad yn 21 oed yn y Galeri, Caernarfon. Roedd cydweithrediad effeithiol iawn rhwng y bobl ifanc a staff GIDSA ac roedd eu brwdfrydedd yn amlwg iawn a thrawiadol. Drwy ddefnyddio'r Fforwm Theatr cafodd y neges ei throsglwyddo i'r gynulleidfa yn eithriadol o lwyddiannus. Rwyf yn dal i gofio'r perfformiad 5 mlynedd yn ddiweddarach.'
Rhian Williams, Tai Clwyd
'Dwi’n llongyfarch GISDA a’r bobl ifanc am yr hyn maent yn ei wneud trwy'r Fforwm Theatr. Pan welais i'r cynhyrchiad roedd hi’n amlwg bod y gweithgaredd yn ffordd ardderchog o gael y bobl ifanc i fynegi peth o’u profiadau nhw eu hunain yn gyhoeddus. Roeddwn i’n teimlo bod hynny’n werthfawr ynddo’i hun ac yn werthfawr i bobl eraill wrth gwrs sydd efallai yn cael gwell dealltwriaeth o sefyllfa'r bobl ifanc yma. Mae’r cyfan yn werth chweil a llongyfarchiadau i bawb a phob dymuniad da i’r bobl ifanc yma yn y dyfodol. '
Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad