CYNNIG CYMRAEG

Mae GISDA yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth cyflawn dwyieithog ym mhob agwedd o waith y cwmni yn cynnwys darpariaeth i'r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth a staff.

  • Cymraeg yw iaith GISDA, mae ein delwedd gyhoeddus a hunaniaeth gorfforaethol yn gwbl Gymraeg
  • Byddwn yn rhoi cynnig rhagweithiol o’r Gymraeg i’n cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth drwy gychwyn sgyrsiau yn Gymraeg.
  • Mae ein gweithwyr allweddol yn hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau dwyieithog a’r cyfleoedd swyddi lleol a chenedlaethol sydd ar gael o ganlyniad wrth iddynt derbyn hyfforddiant a datblygu sgiliau
  • Bydd GISDA yn parhau i gefnogi ein gweithlu i fod yn hyderus i ddarparu gwasanaethau, cefnogaeth a phrosiectau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Drwy groesawu gwesteion a thwristiaid o du hwnt i Gymru i Gaffi GISDA byddwn yn eu haddysgu ynglŷn â'r Gymraeg a diwylliant Cymru