Rydym wedi bod yn hynod ffodus o dderbyn arian gan y Loteri Genedlaethol i ddatblygu partneriaeth gryf i daclo digartrefedd ymysg pobl ifanc yng Ngwynedd. Buddsoddiad sy’n galluogi GISDA i barhau cefnogi pobl ifanc y gymuned drwy weithio mewn partneriaeth â mudiadau gwahanol i ddatblygu cynllun sy’n mynd a ni gam yn agosach i atal digartrefedd ym maes pobl ifanc ar draws Gwynedd.
Mae llais pobl ifanc yn ganolog i’r gwaith rydym yn ei wneud yma yn GISDA, oherwydd hyn rydym eisioes wedi darganfod rhai rhwysterau mae pobl ifanc yn ei wynebu: diffyg llety addas, costau byw cynyddol a chydlynu’r gefnogaeth sydd ar gael gan gymysgedd o sefydliadau. Mae angen i fudiadau weithio gyda’i gilydd er budd pobl ifanc Gwynedd.