Pwy 'di Pwy?

Mae GISDA yn gorff sy’n cael ei arwain gan bobl sy’n gwerthfawrogi ei staff, ei ymddiriedolwyr a’i randdeiliaid. Credwn mai pobl yw’r ased gorau ym mhob corff.

Bwrdd GISDA

Mae'r aelodau bwrdd wedi ymrwymo i nodau ac amcanion GISDA ac yn cael eu dewis yn ôl eu sgiliau a phrofiad a all fod o fudd i'r cwmni a gneud gwahaniaeth.

3 C8 E9 CB1 EC5 E 4 F60 B12 A 071 E841 A964 A

Cadeirydd y Bwrdd

Llinos Owen

Mae Llinos yn wreiddiol o Fethel ger Caernarfon. Mae hi’n briod gyda Gareth Pennant ac mae ganddynt ddwy o enethod. Tra yn yr ysgol a’r Brifysgol bu Llinos yn gweithio yn Caffi Cei yng Nghaernarfon. Bu hefyd yn gweithio ar gynllun chwarae Noddfa. Graddiodd yn y Brifysgol ym Mangor mewn Cyfathrebu ac yna dilyn cwrs athro. Bu’n athrawes a Dirprwy Brifathrawes am 20 mlynedd mewn ysgol uwchradd yng Nghwynedd cyn iddi roi gorau i’w swydd ddwy flynedd yn ol. Erbyn hyn mae Llinos yn bartner ar fferm y teulu ac yn rhedeg ei busnes tai gwyliau ei hun. Mae hi yn weithgar iawn gyda Chneifio Gelert a gafodd ei sefydlu ganddi hi ac aelodau eraill dair blynedd yn ol yn casglu arian tuag at wahanol elusennau. Mae hi hefyd yn weithgar iawn gydag elusen Tir Dewi. Elusen sy'n help a chefnogi ffermwyr a'u teuluoedd. Mae ganddi brofiadau eang iawn ym maes addysg a chydweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd. Mae bod yn aelod o fwrdd Gisda yn rhoi cyfle iddi rannu ei phrofiadau a gwneud gwahnaieth i fywydau pobl ifanc Gwynedd.

Llun peter

Is Gadeirydd

Peter Harlech Jones

Magwyd Peter yng Ngogledd Gwynedd ag aeth i ysgol yng Nghaernarfon. Aeth ymlaen i raddio o’r Gyfadran Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Lerpwl. Roedd yn gweithio mewn meddygfeydd milfeddygol cyffredinol yn y DU ac yng Nghanada am nifer o fynyddoedd. Fe'i penodwyd yn bennaeth milfeddygol Asiantaeth y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Gwerthuso Cynhyrchion Meddyginiaethol, ac wedi hynny yn brif weithredwr y Ffederasiwn Rhyngwladol Byd-eang ar gyfer Iechyd Anifeiliaid (IFAH). Fe'i hetholwyd yn llywydd Cymdeithas Filfeddygol Prydain yn 2012-13. Mae bellach wedi ymddeol o waith llawn amser ac yn rhedeg ymgynghoriaeth fyd-eang mewn meddygaeth filfeddygol ac mae'n dal i fod yn weithgar iawn mewn materion milfeddygol.

Dychwelodd ef a'i gŵr Michael i fyw yng Nghriccieth sawl blwyddyn yn ôl lle cafodd ei ddatgan yn Uchel Siryf Gwynedd, mae'n ymddiriedolwr ar fwrdd GISDA ac Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT). Mae bellach yn mwynhau gwirfoddoli a chefnogi elusennau lleol yng Ngwynedd.

Dewi-jpeg

Trysorydd y bwrdd

Dewi Jones

Ymunodd Dewi a’r bwrdd yn 2012 a gafodd ei ethol fel trysorydd oherwydd ei brofiad a’i wybodaeth o’r maes yma. Mae Dewi yn gweithio fel Uwch gyfrifydd i Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth – mae’n canu’r corn mewn cerddorfa a band ac yn canu’r acordion i ddawnsio gwerin. Mae Dewi yn briod ac mae ganddo dri mab. Mae’n hannu o Lanelli, ond bellach yn byw yn Llangefni.

Tudor-jpeg

Tudor Owen

Mae Tudor yn aelod o Gyngor Tref Caernarfon lle mae'n faer am y drydydd tro. Mae wedi gwasanaethu ar cyngor Gwynedd a Cyngor Tref Caernarfon am dros 20 mlynedd. Ar ben hyn, mae Tudor hefyd yn Is-gadeirydd i Noddfa, yn Gadeirydd i Tŷ Pobl Peblig ac yn aelod o nifer o bwyllgorau gan gynnwys y Gwasanaeth Tân. Cyn ymddeol roedd yn rhedeg ei fusnes adeiladu ei hun yn yr ardal. Mae wedi bod yn briod ers mwy na 40 mlynedd ac mae ganddo ddau fab, tri ŵyr ac un wyres. Ei ddiddordebau yw cymdeithasu, garddio a chwarae golf – er ei fod yn rhy brysur i chwarae dyddiau hyn! Ymunodd Tudor â Bwrdd GISDA fel cynrychiolydd Cyngor Gwynedd. Roedd ganddo ddiddordeb yng ngwasanaethau GISDA oherwydd ei gysylltiadau â’r pwyllgorau tai a gofal ac oherwydd ei fod yn ymwybodol o waith da GISDA gyda phobl ifanc.

Gilly-jpeg

Gilly Haradence

Ymunodd Gilly a’r bwrdd yn 2018. Mae hi bellach yn gyfreithiwr gyda’r cwmni lleol Tudur Owen Roberts Glynne & Co sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd o’r gyfraith, ond mae ganddi brofiad blaenorol o redeg lleoliadau nos fel Cofi Roc, Paradox a’r Octagon. Ar ôl cwblhau gradd meistr mewn gweinyddu busnes, mae hi hefyd bellach yn gymwys mewn cyfryngu a chyflafareddu. Mae hi’n ymwybodol trwy ei gwaith o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc ac mae hi’n awyddus i gefnogi sefydliad sy’n gwneud cymaint i gefnogi pobl ifanc dan anfantais i ennill hyder a chreu dyfodol positif i'w hunain. Mae Gilly wrth ei bodd gyda hen sioeau comedi radio, cerddoriaeth, gwylio ffilmiau ac mae ganddi hen Morris 1000 ac yn ei fynd i ambell sioe ceir.

Elwyn Jones

Elwyn Jones

Elwyn Jones

Gwenllian Glyn Parry

.

Dylan

Dylan Evans

Mae Dylan o Gaernarfon ac mae wedi gweithio mewn dros 20 o wledydd o’r cyhydedd i’r lledredau arctig yn dylunio a rheoli prosiectau cadwraeth oedd hefyd yn ystyried anghenion pobl leol. Mae’r rhain wedi cynnwys sefydlu parciau cenedlaethol yn Affrica a diogelu rhai o ynysoedd gyda lefelau bioamrywiaeth uchaf y byd. Wedi dychwelyd i’r DU prynodd a rhedodd busnes twristiaeth ar Ynys Môn, sefydlodd gwmni ymchwil, ac ymgynghoriaeth ariannu, Samaki, wedyn daeth yn arweinydd datblygu prif elusennau cymorth personol oedolion Cymru, ac enillodd tua £30m mewn cyllid dros bum mlynedd.

Mae ganddo raddau mewn rheolaeth a gwyddor morol, a PhD mewn Ecoleg Systemau Cyfan, ac mae wedi cyhoeddi nifer o bapurau ymchwil a llyfrau ar y rhyngweithio rhwng celf a gwyddoniaeth. Nawr, mae'n gweithio ar Samaki yn unig, gan gynorthwyo cleientiaid i gyflwyno mentrau ledled y DU ac Affrica mewn sawl sector ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n cefnogi byd natur a phobl trwy gydweithio traws-sector. Mae ganddo ychydig o obsesiwn â cherddoriaeth ddawns, techno, tonfyrddio, y môr a mynyddoedd. Mae Dylan wedi cefnogi bwrdd GISDA ers 2021.

Llun Elen F 1

Elen Foulkes

Mae Elen o Fethel ger Gaernarfon ac mae wedi gweithio mewn amryw o wledydd o fewn y meysydd digwyddiadau, cefnogaeth busnes a mentrau cymdeithasol. Dychwelodd yn nol i Gymru fach yn 2020 ble mae’n parhau i weithio llawn amser yn y meysydd yma yn ogystal a rhedeg menter digwyddiadau lleol. Ar hyn o bryd mae’n astudio MBA Busnes yn rhan amser ac yn bwriadu ei gwblhau cyn diwedd 2022. Gan ei bod yn berson ifanc lleol sydd wedi gweld y cyfleoedd sydd ar gael tu hwnt i’r DU, mae Elen yn awyddus iawn i gefnogi Gisda gyda’r nod o sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus Gogledd Cymru. Yn ei amser hamdden mae’n hoff iawn o grwydo mynyddoedd Eryri ac mae wastad yn un sydd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol.

FB IMG 1660300101805

Rhys Parry

Mae Rhys o Lanrug a gyda phrofiad amrywiol ym mywyd cyhoeddus yn ei fywyd proffesiynol fel Gwas Sifil ag yn flaenorol wedi gweithio o fewn awdurdod lleol. Yn benodol mae Rhys wedi gweithio mewn rôl fel athro ac wedi gweithio yn y maes cyflogadwyedd a oedd yn rhoi cymorth i bobl ifanc. Bu Rhys yn Gynghorydd Cymuned dros ward Llanrug a Chwm y Glo am rai blynyddoedd cyn mynd yn ôl a chanolbwyntio ar ei astudiaethau academaidd. Yn y gorffennol mae Rhys wedi bod yn rhan o gynllun i raddedigion Academi Cymru lle gafodd brofiadau amrywiol o fewn y sector gyhoeddus gan weithio ym maes iechyd, addysg a phobl ifanc. Yn ystod y cyfnod yma roedd yn astudio gradd meistr/ILM 7 mewn Arweinyddiaeth a Llywodraethu yn ogystal â chymhwyster rheoli prosiect. Mae Rhys hefyd wedi astudio TAR Cynradd a BA Gymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol. Yn ei fywyd personol mae gan Rhys ddiddordeb ym myd pêl-droed ag yn dyfarnu gemau ar draws Gogledd Cymru.

Tim Rheoli

Rheolwyr GISDA

Sian

Prif Weithredwr

Siân Elen Tomos

Fel y Prif Weithredwr mae Siân yn rheoli ac arwain GISDA i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus yng Ngogledd Cymru. Law yn llaw gyda hynny mae Siân yn ceisio sicrhau parhad mewn gwahanol wasanaethau drwy geisio am grantiau a thendro am arian. Mae Siân hefyd yn sicrhau bod dangosyddion perfformiad GISDA yn dangos gwerth clir am arian. Cyn ymuno a’r tîm yn GISDA roedd Siân yn gweithio fel gweithiwr Cymdeithasol yng ngwasanaethau plant Cyngor Gwynedd, aeth yna ymlaen i fod yn Rheolwr Tîm yng ngwasanaeth i blant anabl yng Ngwynedd. Mae Siân wedi bod efo GISDA ers Hydref 2011 ac rydym yn gobeithio bydd hi’n parhau i weithio yma am flynyddoedd i ddod. Mae Siân yn enedigol o Ddeiniolen ond bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae ei diddordebau yn cynnwys cerdded, bod allan yn yr awyr agored, materion cymunedol a gwleidyddiaeth

Pennaeth Busnes

Elizabeth George

Ymunodd Elizabeth â GISDA yn Nhachwedd 2016 fel Swyddog Grantiau ac ym mis Mai 2018 cafodd swydd fel Pennaeth Busnes. Mae Elizabeth efo gradd yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth, tystysgrif mewn Llywodraethiant, Cydymffurfiaeth a Risg efo’r International Compliance Association ac yn astudio am ddiploma mewn Cyfraith a Llywodraethiant Elusennol efo’r Sefydliad Llywodraethiant. Mae Elizabeth yn enedigol o Gricieth ac wedi byw yn Llundain, yr Almaen, yr UDA a Nigeria cyn dychwelyd i Gricieth. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio i GISDA ac yn teimlo’n falch o gael y cyfle i ddefnyddio’i phrofiad a sgiliau at achos mor deilwng.

Pennaeth Datblygu

Lyndsey Thomas

Ymunodd Lyndsey â GISDA yn wreiddiol yn 2012 ond gadawodd i ddilyn ei breuddwyd o deithio am 18 mis cyn dychwelyd yn 2019. Mae hi wedi rheoli a datblygu nifer o brosiectau mewn rolau amrywiol ar hyd y blynyddoedd a bellach yw ein Pennaeth Datblygu. Mae gan Lyndsey radd dosbarth cyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae wedi datblygu sgiliau rheoli hyd at Lefel 5 ILM ac mae ganddi angerdd cryf dros gefnogi pobl ifanc yn yr ardal lle cafodd ei magu.