Gwirfoddoli

Rydym yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli gwahanol i wahanol fathau o wirfoddolwyr. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i wirfoddolwyr academaidd fel rhan o gwrs prif ysgol, disgyblion ysgol sydd eisiau profiad gwaith, a phobl sydd â diddordeb helpu’r gymuned.

Ar gychwyn 2014 doedd gan GISDA ddim cynllun gwirfoddoli. Roedd yn amlwg fod hwn yn gyfle llawn potensial i GISDA, pobl ifanc GISDA, a’r gymuned ehangach. Erbyn hyn, mae gwirfoddoli yn ran annatod o GISDA.

Drwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli mae modd datblygu’r sgiliau mae pobl angen er mwyn symud ymlaen i gael gwaith. Mae diweithdra ymysg pobl ifanc yr ardal, gan gynnwys pobl ifanc GISDA, yn uchel. Gall gyfleoedd gwirfoddoli helpu pobl sydd wedi bod allan o waith, boed hynny am gyfnod hir neu fyr, gryfhau eu CV tra hefyd yn derbyn cymorth a chefnogaeth. Rydym wedi gweld y prosiect yma yn cael effaith bositif ar ein gwirfoddolwyr yn barod.

Rydym yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli gwahanol ac amrywiol yn dibynnu ar ofynion y gwirfoddolwr. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr academaidd sydd angen gwirfoddoli fel rhan o’u cwrs prif ysgol, disgyblion ysgol sydd eisiau profiad gwaith, pobl ifanc sydd eisiau cryfhau eu CV a derbyn hyfforddiant sydd am eu galluogi chwilio am waith, a phobl sydd eisiau helpu GISDA a chyfrannu i’r gymuned. Mae’r cydlynydd gwirfoddoli, sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Gwynedd, yn cyfweld gwirfoddolwyr yn ddyddiol a chynnal anwytho, cyfarfodydd, hyfforddiant, gwobrwyo tystysgrifau, yn ogystal â nifer o bethau eraill. Y cydlynydd gwirfoddoli yw’r prif fan cyswllt ar gyfer y gwirfoddolwyr.

Cysylltwch gyda ni am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i wirfoddoli gyda GISDA.