Cynllun swyddi Kickstart

Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno cynllun newydd o’r enw “Kickstart” sydd yn rhoi 2 filiwn tuag at greu Swyddi o ansawdd i bobl ifanc 16 i 24 sydd mewn risg o fod yn ddi-waith am gyfnod hir.
Fel rhan o’r cynllun mae angen i fudiad allu cynnig 30 lleoliad gwaith. Rydym ni yma yn GISDA yn deall nad yw hyn yn bosib i fudiadau fel ein hunain ac i fusnesau bach lleol gyflogi cymaint ac felly rydym ni yn gynrychiolwyr ar gyfer grŵp bach o gyflogwyr.
Mae'r cynllun Kickstart yn cynnig Swyddi wedi ei ariannu yn llawn gyda chyflogwyr lleol:
- 25 awr yr wythnos
- Isafswm cyflog cenedlaethol
- Lleoliad 5 mis
- Hyfforddiant a chefnogaeth
Mae'n rhaid i bobl ifanc fod rhwng 16 a 24 oed ag yn derbyn credyd cynhwysol i fod yn gymwys.