Rolau Gwirfoddol yn GISDA

Gyda phob gwirfoddolwr byddem yn cyfarfod a nhw i weld beth yw eu diddordebau a pa brosiect y hoffent wirfoddoli o fewn. Gall y rolau amrywio ac yn anodd diffinio pob un. Os oes gennych rôl arall mewn golwg cysylltwch a ni am sgwrs.


Dyma restr or math o wirfoddoli allwch ei wneud yn GISDA:

Caffi GISDA
Mae'r caffi yn ganolfan hyfforddiant i bobl ifanc ond hefyd ar agor i'r cyhoedd.
Mae’r rôl yn gofyn i'r gwirfoddolwr wneud amrywiaeth o dasgau yn y gegin / caffi i sicrhau profiad rhagorol i gwsmeriaid. Gweini cwsmeriaid, paratoi bwyd a diod, glanhau byrddau a chadw’r caffi yn lan, defnyddio til wrth weithio mewn tîm effeithiol gyda gwirfoddolwyr eraill ag staff.

Codi arian a digwyddiadau
Mae codi arian yn ffordd hwylus a chyffrous i chi allu cymryd rhan fel gwirfoddolwr. Mae gwirfoddolwyr yn gallu ein cefnogi mewn gwahanol ffyrdd - helpu allan gyda hel arian mewn bocsys casgliad, siarad yn gyhoeddus am rodd i’r elusen ayb.

Gweithgareddau Awyr Agored / Chwaraeon
Os oes gennych ddiddordeb mawr mewn chwaraeon neu weithgareddau awyr agored beth am wirfoddoli drwy drefnu gweithgareddau i’r bobl ifanc neu helpu’r staff drwy ymuno a’r grŵp. Mae pobl ifanc Gisda yn aml yn cymryd rhan mewn pêl droed, dringo, cerdded a.y.b.

Marchnata
A oes gennych sgiliau marchnata y gallwch rannu gyda Gisda? Rydym o hyd yn chwilio am wirfoddolwyr yn y maes yma. Ydych wedi trefnu digwyddiadau yn y gorffennol neu oes gennych brofiad o godi ymwybyddiaeth?

Gwirfoddoli drwy waith ymchwil grantiau
A oes gennych amser i’w roi i gefnogi Gisda drwy wneud gwaith ymchwil am grantiau i ddatblygu’r elusen ymhellach? Oes gennych sgiliau TG? Rydym o hyd yn ceisio am grantiau newydd i barhau ein gwasanaeth ac yn ddiolchgar am unrhyw cymorth a hyn.

Ymestyn Allan
Rydym yn aml yn mynd o amgylch ysgolion a mudiadau eraill i wneud gweithdai a chyflwyniadau ar hyn y mae Gisda yn ei wneud. Os oes gennych chi sgiliau pobl dda neu eisiau profiad yn y maes yma cysylltwch i drafod.

Grŵp Rhieni
Pob wythnos bydd prosiect Rhieni Ifanc Ni yn rhedeg Grŵp Rhieni i bobl ifanc a’u plant. Yn y sesiynau yma byddent yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fel coginio, celf, mynd ar dripiau a llawer mwy. Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu da gyda phlant? Neu yn hyderus yn y maes yma?