Mae’r cyfle hwn ar agor i’n holl ddefnyddwyr gwasanaeth ar draws ein prosiectau rhwng 11 ac 17 oed. Mae ein prosiectau yn cynnwys Cymorth Tai, Atal Digartrefedd, Ôl-Ofal, Academi Cyfleon, Clwb LHDTC+, Caffi Creu a Hwb ICan. Er gwaethaf y ffaith mai dim on un person, o fewn y cyfyngiad oedran, sy’n medru ein cynrychioli ni rydan ni’n benderfol o wneud hwn yn gyfle i bawb ac rydym yn edrych ymlaen at greu cyfleon mewnol yma’n GISDA ynghlwm â’r bartneriaeth hon.
Mae sawl person ifanc yn awyddus i gael eu hethol yn ‘Gynrychiolydd GISDA’ ac wrthi’n prysur baratoi eu maniffestos ar gyfer Hustings ac Etholaeth fewnol yn GISDA ar y 1af o Dachwedd. Ein pobl ifanc yma’n GISDA fydd yn ethol pa berson ifanc fydd yn eu cynrychioli yn y Senedd.
Mae lleisiau ein pobl ifanc yn bwysig iawn i ni yma’n GISDA ac ers dechrau Awst 2021 rydym wedi atgyfodi ein Bwrdd Pobl Ifanc. Mae’r cyfarfodydd Bwrdd yn digwydd yn wythnosol, bob yn ail rhwng Caernarfon a Blaenau Ffestiniog, ac mae’r bobl ifanc yn mwynhau’r cyfle i fynegi eu hunain a chryfhau eu hyder.
Mae ymgynghori yn rhan bwysig o’n gwasanaethau ni ac wedi ei integreiddio ym mhob agwedd o’n cefnogaeth. Yn ogystal â hyn yn ddiweddar rhwng y Bwrdd Pobl Ifanc, Clwb LGBTQ+ a’r Hwb ICan rydym wedi bod yn ymgynghori llawer gyda’n pobl ifanc am faterion fel iechyd meddwl, trafnidiaeth, hawliau LHDTC+, yr amgylchedd, digartrefedd ymysg materion eraill. Mae ein cynrychiolwyr gobeithiol wedi mynychu sawl un o’r cyfarfodydd hyn gan ddangos parodrwydd i sicrhau fod lleisiau pawb yn cael eu clywed.
Rydan ni’n edrych ymlaen at rannu ein siwrne hefo chi a chadwch lygad allan ym mis Rhagfyr am gyhoeddiad swyddogol gan Senedd Ieuenctid Cymru ynglŷn â phwy fydd ein cynrychiolydd etholedig!