I CAN045438 BILINGUAL EMAIL SIGNATURE LARGE4

Hwb ICAN GISDA

Mae Hwb I CAN GISDA yn darparu cymorth cynnar, therapiwtig ag hawdd i bobl ifanc 16 i 25 sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl a'u lles. Mae'r hwb yn cefnogi ag ategu at wasanaethau arbenigol y GIG.

Drwy'r cynllun yma gallwch gael mynediad i amryw o wasanathau yn cynnwys.......


GWEITHDAI

Gweithdai ag achrediadau a'r materion fel:

  • Dyled
  • Toriad perthynas
  • Problemau cyffuriau neu alcohol
  • Cyflogadwyedd
  • Problemau tai
  • Unigrwydd
  • Profedigaeth

a mwy!

CEFNOGAETH

Galwadau ffôn lles 1:1 wythnosol gyda gwirfoddolwr hyfforddedig ynghyd â chymorth arbenigol 1:1 gan gysylltydd ICAN os oes angen.

GALW MEWN

Cyfle i alw mewn heb apwyntiad - Mae'r Hwb I CAN yn cynnig cyfle i chi siarad am eich problemau dros baned, cael gwrandawiad heb farn, a chael gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnoch.

CYFEIRIO

Atgyfeirio ymlaen at sefydliad partner fel ICAN Work ac ar gyfer ymyriadau addas fel cwnsela 1:1, CBT, cymorth app a mwy. Cyfeirio at gwasanaethau arbennigol.