Mae gennym ddau Gynghorydd Personol sy’n gweithio er lles y bobl ifanc drwy eu cefnogi ar faterion eang megis cefnogaeth emosiynol, cefnogaeth yn ymwneud â materion tai, budd-daliadau, chwilio am waith, rheoli ymddygiad, delio gydag achosion trais yn y cartref, a llawer mwy.
Mae gennym hefyd Swyddog Ymgysylltu sydd yn gweithio gyda phobl ifanc mewn cyflogaeth neu addysg sydd ddim yn ymdopi neu angen cymorth ychwanegol.
Mae'r gweithiwr yn:
- Yn ymrwymo i sicrhau lles a datblygiad y person ifanc.
- Yn gallu cynnig cyngor a chymorth ymarferol.
- Yn helpu gyda Chynlluniau Llwybr unigol.
- Ar gael i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal.
Gallant roi cymorth a chyngor ynghylch –
- Cynlluniau Llwybr
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Tai
- Hawliau
- Budd-daliadau
- Cyllidebu
- Gwaith
- Materion Iechyd
- Addysg a Datblygu