Profiad Kickstart Flynn..



Ceisiodd Flynn am swydd efo GISDA trwy gynllun Kickstart, ar y pryd roedd Flynn yn ddi-waith yn sgil effaith y pandemic. Fe ymgeisiodd am y swydd efo GISDA am ei fod wedi ymddiddori efo’r gwasanaeth mae GISDA yn ei gynnig ac roedd eisiau newid gyrfa, ar ôl gweithio sawl swydd mewn cegin.

Cychwynnodd Flynn efo GISDA ym mis Mawrth fel cynorthwyydd yn Hafan. Roedd ei dasgau ddydd i ddydd i gyd cynnwys trefnu a chynnal gweithgareddau i wella lles, sgiliau byw, a sgiliau creadigol trigolion yr hostel. Yn ystod ei amser efo ni mae wedi cael fwy o gyfrifoldebau i gynnwys mwy o amser un i un efo’r bobl ifanc er mwyn medru eu cefnogi yn fwy effeithiol.

Mae Flynn bellach wedi cael ei dderbyn i astudio Gwyddorau Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi.

Mae’r cynllun Kickstart wedi rhoi’r cyfle iddo i drio am waith na fyddai heb drio am o dan amgylchiadau arferol. Doedd ganddo ddim profiad na chymwysterau o weithio yn y maes felly mae’r cynllun wedi rhoi’r cyfle iddo gael blas ar waith mewn maes gwahanol.