Stori A

Blwyddyn ymlaen...

Mae blwyddyn wedi pasio ers i mi adael GISDA.

Fe wnaeth GISDA fy nghefnogi cymaint cyn hyd yn oed symud i mewn i’w tai cymorth ac yna ar ôl i mi adael. Mae fy mywyd i a fy nheulu wedi gwella’n sylweddol diolch i GISDA. Rydym nawr yn byw mewn cartref sefydlog. Pryd bynnag oedd gennyf broblem, dim ond galwad ffôn i ffwrdd oedd staff ac roeddynt wastad yn barod i helpu.

Cefais ystod eang o gefnogaeth, gan gynnwys cyngor ar sut i lenwi ffurflenni a’r cyfle i ymweld â llety symud ymlaen posibl. Derbyniais gyngor ar sut i gyllido a chefnogaeth o gryfhau fy hyder. Cefais fy nghyflwyno i grwpiau mamau a babanod ac fe roddodd hyn y cyfle i mi gymdeithasu, dod i nabod mamau eraill a gwneud ffrindiau da. Mae staff GISDA yn groesawgar dros ben a bob amser yn gwneud ymdrech i sicrhau eich bod yn hapus. Heb GISDA, ni fyswn wedi dod o hyd i fy nghartref presennol, ac ni alla i ddiolch iddynt ddigon.