Stori C
Daeth C i GISDA ym mis Tachwedd 2016. Roedd C yn ddigartref ac yn cysgu ar soffa ffrindiau ar ôl ei berthynas gyda’i deulu chwalu. Nid oes gan C unrhyw gyswllt gyda'i deulu bellach. Pan ddaeth C i GISDA roedd ganddo broblem cyffuriau. Roedd C yn ysmygu canabis bob dydd. Roedd ganddo hefyd hanes o droseddu, gan gynnwys dwyn ceir a gyrru heb drwydded lawn nag yswiriant.
Roedd C yn boblogaidd iawn yn yr hostel. Roedd ganddo lawer o ffrindiau ac roedd yn gyfeillgar gyda phob aelod o staff. Ar ôl cyrraedd, cychwynnodd brentisiaeth fel plastrwr. Yn ystod y nosweithiau roedd yn mwynhau mynychu sesiynau coginio. Drwy gryfhau ei hyder yn ystod ei gyfnod yn yr hostel daeth C yn barod i symud ymlaen a byw’n annibynnol. Mae’n mwynhau ei gwrs prentisiaeth ac yn dangos ymroddiad aruthrol. Mae’n gweithio’n galed ac yn gweithio oriau hir oherwydd ei fod yn benderfynol i greu dyfodol gwell i’w hun.
Ymatebodd yn dda i'r gefnogaeth gan ei weithiwr allweddol, ac roedd yn troi fyny i’r sesiynau yn syth ar ôl gwaith. Roedd y sesiynau yma yn canolbwyntio ar sut i symud ymlaen, cyllido, bwytau'n iach a therfynu ei ddefnydd o gyffuriau. Mae C yn weithgar ac yn ymateb yn bositif i’r gefnogaeth mae’n derbyn. Mae’n benderfynol o wneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn iddo allu llwyddo.
Nod ac amcanion y gefnogaeth
Llety
Gydag ein cymorth, fe gwblhawyd C ffurflen opsiynau tai gan ddangos tystiolaeth o incwm ac ID. Llwyddodd i sicrhau tenantiaeth o fewn pedwar mis o aros yn yr hostel. Ym mis Ebrill 2017, cafodd C gynnig tenantiaeth ei hun yn yr ardal ac fe setlodd yn gyflym. Gyda help ei weithiwr cymdeithasol fe sortiodd y dŵr a’r trydan ac yn y blaen, ac fe aeth ati i wneud y peintio ac addurno ei hun. Mae'n parhau i dderbyn sesiynau cymorth wythnosol gyda'i weithiwr allweddol er mwyn cynnal ei gynnydd a'i gefnogi drwy’r broses o greu cartref i’w hun.
Gwaith ac uchelgeisiau
Mae C yn gweithio’n galed fel prentis plastrwr ac yn gweithio oriau hir, yn enwedig dros yr haf. Mae hefyd yn mynychu’r coleg unwaith yr wythnos er mwyn cwblhau NVQ. Ei freuddwyd yw rhedeg busnes ei hun un dydd, ac mae’n benderfynol o lwyddo.
Cyllido
Doedd C ddim yn dda iawn gydag arian na chyllido pan ddaeth i GISDA. Erbyn hyn mae’n gallu talu ei filiau ar amser ac mae’n cwblhau taflen gwariant wythnosol i reoli ei gyllideb yn annibynnol. Yn ystod y misoedd cyntaf o’i denantiaeth roedd C yn cael trafferth dal fyny efo talu rhent a threth cyngor. Gyda chymorth GISDA fe lwyddodd i weithio ei ffordd allan o ddyled, lleihau ei filiau, a nawr mae ganddo reolaeth dros ei wariant unwaith yn rhagor.
Byw a bwytau’n iach
Roedd C yn arfer dibynnu ar ‘takeaways’ bob nos a bron byth yn bwytau’n iach. Yn ystod ei gyfnod yn yr hostel fe ddatblygodd ei sgiliau coginio a dysgodd sut i gynnal diet iach, cydbwysol. Dysgodd hefyd sut i lanhau ac edrych ar ôl ei dŷ. Roedd y sgiliau yma yn allweddol i helpu C symud ymlaen i fyw yn annibynnol.
Sgiliau cyfathrebu
Pan ddaeth C i GISDA yn wreiddiol, ei weithiwr allweddol oedd yn gwneud galwadau ar ei ran pan oedd angen delio gyda problemau. Yn raddol, dechreuodd C gymryd rhai o’r galwadau. Erbyn hyn mae C yn hollol hyderus a chyffyrddus i wneud unrhyw alwad ei hun pryd bynnag mae problem yn codi.
Grantiau a chymorth arian
Roedd C yn derbyn cyflog isel o £105 yr wythnos fel prentis ac yn mynd i’r coleg unwaith yr wythnos. Oherwydd hyn, roedd yn anodd iddo allu dodrefnnu ei dŷ newydd a phrynu y pethau angenrheidiol. Roedd chwilio am grant i’w helpu efo hyn yn anodd; nid oedd yn gymwys am nifer o grantiau oherwydd ei fod mewn gwaith ac yn mynychu’r coleg. Ond, ar ôl llawer o holi o gwmpas gyda’i weithiwr allweddol, llwyddodd gael gafael ar yr offer angenrheidiol.
Yna, gyda chymorth ei weithiwr allweddol ac arweinydd tîm y prosiect Cefnogi Pobl, derbyniodd C nawdd o £200 yr wythnos am gyfnod o chwe mis i fynd tuag at ei gartref newydd ac i’w gefnogi yn gyffredinol. Mae hyn wedi cael effaith arwyddocaol ar fywyd personol a gwaith C. Heb yr arian yma ni fyddai C wedi gallu prynu’r pethau mae angen i fyw'n annibynnol a chefnogi ei yrfa. Yn wir, heb y cymorth yma byddai C yn wynebu digartrefedd eto oherwydd byddai’n amhosib iddo dalu ei denantiaeth a’i ddyledion. Pe bai C wedi ail-droseddu yn dilyn hyn, byddai’n wynebu’r carchar.
Bywyd personol
Mae gwaharddiad gyrru C drosodd erbyn hyn ac mae nawr wedi gwneud cais i adnewyddu ei drwydded dros dro. Ni fysa hyn yn bosib heb y nawdd. Mae C nawr yn canolbwyntio ar ei waith a'i gartref newydd. Mae’r cynnydd yn ei hyder dros y misoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel. Mae perthynas C gyda'i gariad yn gryfach oherwydd ei fod yn annibynnol, yn hyderus, gyda mwy o hunan-barch, ac yn llawer cryfach a hapusach ynddo'i hun.
Dyma oedd gan C i ddweud am y cymorth gafodd gan GISDA:
Mae fy ngweithiwr allweddol wedi bod yn wych hefo fi. Roedd hi wastad yn gwrando arna i ac roeddwn yn gallu troi ati hi gydag unrhyw broblem. Rwyf nawr yn hyderus ac yn annibynnol diolch i’r gefnogaeth gefais gan GISDA a dwi’n hapus yn fy nghartref newydd
Fel ei weithiwr allweddol rwyf yn falch iawn o C, ei lwyddiannau a’r cynnydd mae wedi gwneud i wella ei fywyd. Mae C wedi newid o fod yn fachgen cythryblus i fod yn ddyn ifanc aeddfed, annibynnol a hyderus gyda dyfodol addawol o’i flaen.