Stori H
Roedd H yn 19 pan ddaeth hi i GISDA ar ôl cael ei chyfeirio atom gan gynghorwr yn ei choleg ble roedd hi’n astudio cwrs gweithgareddau awyr agored. Roedd H yn cael trafferth byw adra. Roedd ei mam yn alcoholig ac roedd hyn yn creu straen ar eu perthynas. Dywedodd H:
Cyn symud i’r hostel doedd fy mywyd i ddim yn grêt. Roeddwn yn mynychu’r coleg ond nid oeddwn yn hapus oherwydd y ffordd o fyw oedd gennyf. Doedd fy mywyd bryd hynny ddim hyd yn oed werth ei fyw.
Beth wyt ti’n gofio am symud i mewn i’r hostel am y tro cyntaf?
Roeddwn wedi clywed pobl yn dweud pethau gwahanol am yr hostel, rhai pethau da a rhai pethau drwg. Rwyf yn cofio bod yn ofnus ac yn bryderus ar y diwrnod roeddwn i'n symud i mewn. Fe lwyddodd y staff i wneud i mi deimlo’n gyffyrddus yn syth pan ddaethant i gludo fy eiddo. Cefais fy synnu gan ba mor fawr oedd yr ystafell. Cefais help llaw gan aelod o staff i ddadbacio ac wrth iddi sgwrsio gyda mi ddechreuais deimlo llai nerfus. Roedd yna sesiwn goginio ymlaen ar y noson y symudais i mewn. Coginiodd rhai o'r bobl ifanc eraill oedd yno bryd o fwyd i mi ac fe gawsom swper gyda'n gilydd. Roedd hyn yn braf iawn ac wedi helpu adeiladu fy hyder.
Setlodd H yn dda yn yr hostel a gweithiodd yn galed iawn tra roedd hi yno i barhau â'i blwyddyn gyntaf yn y coleg. Aeth ymlaen i gwblhau ei hail flwyddyn – camp enfawr sy’n profi ei hymroddiad. Cefnogodd H ei hun yn ariannol trwy weithio 4 awr yr wythnos. Roedd ganddi gytundeb ‘zero hours’ mewn siop leol ar incwm isel iawn, ac o’r incwm yma roedd rhaid iddi dalu am fwyd a dillad a cynnal ei llety. Nid oedd bywyd yn hawdd i H. Oherwydd ei bod mewn addysg llawn amser nid oedd yn gallu hawlio unrhyw fudd-daliadau ychwanegol. Fodd bynnag, gyda chefnogaeth ei gweithiwr allweddol, llwyddodd i gael grant addysg i'w helpu gyda'r coleg.
Er gwaethaf popeth mae H wedi bod trwyddo, roedd hi wastad yn barod i wynebu pob her a llwyddo i ffynnu yn y coleg a’r ysgol. Ar ôl tua 8 mis o fyw yn yr hostel, fe gafodd H fflat ei hun drwy GISDA.
Dwi’n teimlo mai byw ar ben fy hun yn annibynnol yw fy nghyflawniad personol mwyaf oherwydd buaswn byth wedi credu yn fy oed i bysai’n bosib i mi gael fflat, wedi setlo mewn perthynas dda, ac yn wirioneddol hapus
Beth yw’r pethau da a’r pethau drwg am eich cyfnod gyda GISDA?
Cefais gyfleoedd anhygoel pan oeddwn yn GISDA. Er enghraifft, fe wnes i fwynhau mynd ar daith hwylio gyda fy ngweithiwr allweddol ac eraill am wythnos. Cefais amser gwych a doeddwn bron methu credu fy mod wedi cael y cyfle i gael y profiad yma - profiad a fydd yn aros gyda mi am weddill fy oes. Fe wnes i hefyd fynd ar lawer o ddiwrnodau allan oedd i gyd yn anhygoel. Aethom i Flip Out, Lerpwl, twrnamaint pêl-droed ac rydw i wedi bod ar lawer o deithiau cerdded a phethau hefyd.
Dydw i heb gael llawer o brofiadau drwg yn GISDA, yr unig beth fyswn i’n deud oedd yn anodd oedd byw ar gyn lleied o bres. Mae GISDA wedi fy nghadw'n i’n fyw ac wedi helpu fi ddelio gyda fy mhroblemau. Mae GISDA wedi fy achub o deulu ar chwâl ac wedi fy helpu i gael bywyd hapus ac annibynnol. Roeddwn i eisiau rhoi'r gorau i'r coleg mewn cyfnodau caled ond dwi’n falch wnes i ddim oherwydd nawr mae gen i gymhwyster Lefel 3.
Yn ddiweddar, mae H wedi cychwyn tenantiaeth gyda’r awdurdod lleol ac wrthi’n setlo mewn i’w chartref cyntaf. Mae hi hefyd wedi cwblhau ei chwrs coleg ac wedi derbyn cymhwyster mewn Chwaraeon (Antur Awyr Agored) Lefel 3. Mae hi hefyd wedi cynyddu’r oriau gwaith yn ei chytundeb i 16 awr.
Beth yw eich cynllun i’r dyfodol?
Nawr fy mod i’n setlo yn fy fflat newydd dwi eisiau chwilio am swydd well llawn amser fel fy mod ddim yn gorfod dibynnu ar fudd-daliadau. Byswn wrth fy modd i fi a fy mhartner symud i mewn gydag ein gilydd a chychwyn teulu ein hunain. Dwi eisiau magu fy mhlant mewn ffordd well na gefais i fy magu.
Mae H yn haeddu clod am ei hymroddiad a’i llwyddiant. Rydym yn dymuno’n dda iddi ac yn edrych ymlaen at glywed ganddi ar hyd ei thaith.