Stori KF
Mae chwe blynedd wedi pasio bellach ers i KF symud i un o'n hosteli a pedair blynedd ers iddi fod yn byw'n annibynnol. Roedd nawr yn amser da felly i alw mewn ar KF a gweld sut mae pethau’n mynd.
Dywedodd KF:
Lle wyt ti nawr?
Gadewais GISDA pan oeddwn yn ddeunaw oed ar ôl derbyn fflat gan yr awdurdod lleol. Cefais gefnogaeth symudol i'm helpu i sefydlu fy nghartref newydd a chael setlo yn y gymuned. Llwyddais hefyd i gwblhau cwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol tra'n derbyn cymorth gan GISDA. Roeddwn mor falch o fy hun am wneud hyn fe wnes i gais prifysgol a chael fy nerbyn yn syth.
Roedd y gefnogaeth derbyniais gan GISDA wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Er enghraifft, cefais gymorth i wneud cais am wahanol grantiau a oedd yn fy ngalluogi i sefydlu fy nghartref newydd. Ar ben hyn, roedd fy ngweithiwr allweddol wedi fy helpu i wneud cais am grant addysg. Fe newidiodd hyn fy mywyd. Roedd yr arian yma wedi sicrhau fy mod yn gallu parhau gyda fy astudiaethau drwy dalu am liniadur a gosod y rhyngrwyd yn fy fflat newydd.
Beth fyddech chi’n ei ddweud yw eich cyflawniad personol mwyaf?
Fy nghyflawniad mwyaf yw graddio o Brifysgol Bangor gyda Gradd Sylfaenol mewn Rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd hyn yn teimlo fel miliwn milltir i ffwrdd o ble roeddwn i pan symudais i mewn i’r hostel am y tro cyntaf. Rwyf nawr yn disgwyl i gael fy nerbyn i astudio Nyrsio.
Pe bai rhaid i chi siarad am bum munud am GISDA, beth fyddech yn ei ddweud?
Pe bawn i’n siarad gyda rhywun am GISDA, byddwn yn dweud pa mor anhygoel o le ydy o, a ni fyswn ble ydw i heddiw heb waith caled y staff. Teimlaf fy mod ond wedi gallu llwyddo oherwydd anogaeth a chefnogaeth staff GISDA. Fe wnaeth gweithio gyda’r staff fy helpu i godi ar fy nhraed, codi fy hyder a chwblhau fy addysg. Ar ben hyn i gyd, roeddwn wrth fy modd gyda’r holl ddigwyddiadau a drefnwyd ganddynt.