Stori L
Symudais i GISDA dwy flynedd yn ôl. Roeddwn i'n nerfus i ddechrau oherwydd roedd y syniad o fyw mewn hostel yn frawychus, ond roedd pawb yno wedi gwneud i mi deimlo'n gyfforddus iawn o'r diwrnod cyntaf. Fe wnes i ffrindiau yn syth gan fod pawb mor groesawgar. Fe wnaeth GISDA fy helpu i gael swydd a lle i fyw ar ôl 8 mis o gymorth yn unig. Roedd GISDA hefyd yn dda am gynnig digon o weithgareddau i ni fwynhau. Aethom ar feic cwad, treulio diwrnod yn ‘Bounce Below’, a mynd am deithiau cerdded hir ar hyd y traeth. Erbyn hyn mae gen i ferch fach un oed ac mae gen i le fy hun dal i fod. Byddai hyn i gyd wedi bod yn amhosib heb gymorth a chefnogaeth GISDA, felly diolch i bawb yn GISDA.