Stori M

Fy enw i yw M. Symudais i GISDA 18 mis yn ôl ar ôl i mi droi’n ddigartref. Ar y dechrau, roeddwn yn gweld byw yn GISDA yn anodd oherwydd fy mod yn swil, ond yn araf cefais fwy o hyder a theimlais yn fwy cartrefol. Mae GISDA wedi fy helpu gyda llawer o bethau fel gwaith, dysgu sgiliau newydd ac, yn bwysicaf oll, dangos i mi’r llwybr cywir mewn bywyd – bysai wedi bod yn hawdd iawn i mi fynd lawr y llwybr tywyll. Rwyf wedi dysgu nad yw byw'n annibynnol yn hawdd ac nid wyf yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol bellach. Dwi rŵan yn gallu edrych ymlaen at y dyfodol. Dwi’n gwerthfawrogi'r gefnogaeth mae GISDA wedi rhoi i mi a byswn yn ei argymell i unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg.