Stori Y

Helpodd GISDA fi drwy gyfnod anodd pan gollais fy machgen bach a fy annog i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Roedd cael mynd ar deithiau gyda nhw wedi codi fy ysbryd. Drwy GISDA cefais gwnsela a chymorth i gael fflat gyda GISDA cyn symud i fflat arall fy hun. Arhosais yn yr hostel am ddwy flynedd ac fe siapiodd hyn y person ydw i heddiw. Oni bai am GIDSA, fyswn i heb ddarganfod fy hun.