Rydym yn hynod ffodus o fod wedi derbyn arian o Gronfa Adnewyddu Cymunedol Cyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Nod TAPI yw cymryd arweiniad gan bobl ifanc mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill yn y maes i wella gwasanaethau i bobl ifanc yng Ngwynedd. Byddwn yn gwerthuso pwysigrwydd darparu gwasanaeth holistig wedi ei deilwra a sydd yn sicrhau bod mynediad at nifer o wasanaeth yn broses llyfn i’r person ifanc
Mae nifer o fudiadau yn darparu gwasanaethau i bobl ifanc ond o safbwynt yr unigolyn mae dod o hyd i’r hyn sydd ei angen yn gallu bod yn anodd iawn. Nid yw chwaith yn mynd yn haws pam bydd cefnogaeth yn cael ei dderbyn - mae hi yna yn anodd iawn i berson ifanc gydlynu’r holl gefnogaeth a’r mudiadau o’u cwmpas heb rwydwaith cymorth a rhywun i arwain y ffordd.
Mae hi’n hanfodol bod mudiadau statudol a trydydd sector yn cydweithio i wneud pethau’n haws i bobl ifanc – i greu y Tim o Amgylch y Person Ifanc (TAPI).
Trwy gynnal y peilot byddwn yn:
- Ymchwilio i’r dulliau mwyaf effeithiol o weithio gyda phobl ifanc bregus yng Ngwynedd gan geisio adnabod rhinweddau o fewn ymarfer sydd yn sicrhau ymyrraeth lwyddiannus gyda chanlyniadau da.
- Casglu data a mapio anghenion pobl ifanc bregus yng Ngwynedd
- Adnabod y deddfwriaethau, polisïau a gweithdrefnau sydd yn berthnasol i bobl ifanc bregus
- Adnabod ac amlinellu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl ifanc bregus
- Adnabod bylchau mewn darpariaeth er mwyn paratoi cynllun busnes mewn cydweithrediad gyda phobl ifanc i fynd i’r afael a’r rhwystrau a’r bylchau hynny
- Adnabod ffyrdd o wella cydweithio rhwng partneriaid yng Ngwynedd er budd pobl ifanc.
- Gofyn y cwestiwn a ydym yn clywed a gwrando ar leisiau pobl ifanc trwy lawr Bwrdd Pobl ifanc GISDA
- Treialu a mesur amryw o ymyraethau therapiwtig i bobl ifanc Gwynedd
Rydym eisoes wedi adnabod rhai o’r rhwystrau er enghraifft gwendid llythrennedd pobl ifanc, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, diffyg llety priodol a diffyg cefnogaeth cyflogadwyedd i enwi rhai.
Bydd yr arian mae GISDA wedi ei dderbyn yn edrych ar yr elfennau uchod mewn cydweithrediad gydag eraill. Ymysg rhai fydd yn rhan o’r prosiect fydd Cwmni CELyn, Prifysgol Bangor, Antur Waunfawr, Plas Menai, Mantell Gwynedd, Frân Wen, Sylfaen Cymunedol a Copronet Cymru ond hefyd byddem yn cynnwys mewnbwn a thrafodaethau gyda’r mudiadau statudol fel Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Cymdeithasau Tai a’r Ganolfan waith a phensiynau.