Sefydlwyd GISDA ym 1985 er mwyn cynnig lloches a chefnogaeth i bobl ifanc digartref yr ardal. Ers hynny, mae GISDA wedi datblygu nifer o brosiectau gwahanol ac yn ddiweddar wedi esblygu i gynnwys mentrau cymdeithasol o fewn ein strwythur fel ffordd o barhau gwasanaethau i bobl ifanc bregus. Mae GISDA yn elusen sydd yn darparu cefnogaeth dwys a chyfleoedd i bobl ifanc rhwng 14 a 25 sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.
Rhai o brosiectau GISDA yw cefnogi rhieni ifanc, codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd mewn ysgolion, adnabod a chefnogi pobl ifanc yn eu tai ac yn ein hosteli, hyfforddi a cynnig cefnogaeth i gynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae ein Mentrau Cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd pellach yn y byd gwaith megis y Caffi GISDA ar y Maes yng Nghaernarfon.