Sefydlwyd GISDA ym 1985 er mwyn cynnig lloches a chefnogaeth i bobl ifanc digartref yr ardal. Ers hynny, mae GISDA wedi datblygu nifer o brosiectau gwahanol ac yn ddiweddar wedi esblygu i gynnwys mentrau cymdeithasol o fewn ein strwythur fel ffordd o barhau gwasanaethau i bobl ifanc bregus. Mae GISDA yn elusen sydd yn darparu cefnogaeth dwys a chyfleoedd i bobl ifanc rhwng 16 a 25 sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.
Mae GISDA yn ceisio cyfrannu tuag at helpu pobl ifanc drwy weithio gyda nhw i ddatblygu sgiliau i fyw yn annibynnol, sgiliau cyflogadwyedd ac i ofalu am eu hiechyd meddwl a’u hunan werth. Mae’r gefnogaeth a gynigir yn cyfrannu tuag at gyrraedd targedau unigryw sydd wedi eu deilwra tuag at anghenion bob unigolyn. Drwy ein prosiectau a’r gefnogaeth therapiwtig, mae pobl ifanc yn dod yn fwy hyderus ac yn ennill y sgiliau angenrheidiol sydd angen arnynt i fyw yn annibynnol.
Rhai o brosiectau GISDA yw cefnogi rhieni ifanc, codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd mewn ysgolion, adnabod a chefnogi pobl ifanc yn eu tai ac yn ein hosteli, hyfforddi a chynnig cefnogaeth i gynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae ein Mentrau Cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd pellach yn y byd gwaith megis CAFFI GISDA ar y Maes yng Nghaernarfon.