Rydym yn gwerthfawrogi'ch cefnogaeth, felly ceisiwch ein helpu i ddarparu bywyd gwell i'n pobl ifanc drwy gysylltu â ni heddiw. Hoffai GISDA ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ac yn parhau i'n cefnogi hyd heddiw.
Cyfrannu
Mae yna lawer o ffyrdd i wneud rhodd i GISDA - mae’ch cefnogaeth yn amhrisiadwy i ni ac yn ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol – diolch.

Gall dim ond chwe phunt dalu am cludiant i berson ifanc fynychu cyfweliad.

Gall deg punt ddarparu digon o fwyd am wythnos i berson ifanc.

Gall deuddeg punt dalu am cyfleustodau person ifanc yn yr hostel am wythnos.
giftaid it
Mae Cymorth Rhodd yn gynllun sy’n gwneud i’ch rhoddion fynd ymhellach heb ddim cost I chi. O dan y Cynllun Cymorth Rhodd, os ydych yn drethdalwr yn y DU, bydd gwerth eich rhodd yn cynyddu am ein bod yn cael adennill arian oddi wrth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Am bob £1 y byddwch yn ei rhoi, gallwn hawlio 25 ceiniog ychwanegol heb ddim cost ychwanegol i chi. Felly, mae hyn yn ffynhonnell werthfawr o arian ychwanegol i GISDA.
Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch o 40%, gallwch chi gael budd hefyd drwy hawlio rhywfaint o arian yn ôl oddi wrth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi drwy’ch ffurflen hunanasesu treth. Cysylltwch â swyddfa Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gael mwy o fanylion.
Cymynrodd
Un ffordd y gallech ddymuno ei defnyddio i’n helpu yw gadael rhodd i GISDA yn eich ewyllys.
Newidiadau i ddeddfwriaeth treth etifeddiant a ddaeth i rym ym mlwyddyn ariannol 2012/13: O fis Ebrill 2012, os ydych yn gadael 10% neu fwy o’ch ystâd i elusen, yna bydd y gyfradd o dreth etifeddiant ar y rhan sydd yn weddill yn cael ei ostwng o 40% i 36%.
Os hoffech adael rhywbeth i GISDA yn eich ewyllys, y cwbl y mae angen i chi ei wneud yw:
- Ar gyfer ewyllys newydd – ysgrifennu ewyllys a rhoi manylion eich rhodd
- Ar gyfer ewyllys sydd wedi’i wneud – gwneud newid ynddi
- Sefydlu Ymddiriedolaeth
Efallai y byddwch am gael cyngor gan Gyfreithiwr a fydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.
Os hoffech wneud rhodd i GISDA, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda, drwy ffonio neu anfon neges e-bost.
Corfforaethol
Mae cefnogaeth gan fusnesau yn rhan holl bwysig o godi arian I Gisda. Mae hyn yn brofiad boddhaol i fusnesau ac i weithwyr sydd eisiau cyfrannu i’w cymuned. Gallai cyflogwyr gymryd rhan mewn cynlluniau cyfrifoldeb cymunedol hefyd.
Mae codi arian corfforaethol yn gallu bod yn amrywiol a chyffrous ac mae nifer o wahanol ffyrdd y gallai busnesau fod o help - dyma rai:
- Rhoi trwy’r gyflogres – gweler yn isod am fwy o fanylion
- Ein noddi fel elusen y flwyddyn
- Gwirfoddoli staff i ddigwyddiadau codi arian Gisda
- Digwyddiadau noddi
- Ariannu’n gyfatebol digwyddiadau codi arian
Rhoi trwy’r gyflogres
Mae rhoi trwy’r gyflogres yn ffordd hawdd, hyblyg i’w weinyddu a gwych i staff i gyfrannu i elusen drwy PAYE. Mae modd i bobl sydd yn derbyn eu pensiwn cwmni/personol drwy PAYE i gymryd rhan hefyd. Gyda’r arian yn cael ei dynnu cyn treth, mae pob un cyfraniad yn mynd ymhellach – gan ychwanegu at yr ymdeimlad boddhaus hwnnw o helpu Gisda drwy’r gweithle.
Er enghraifft, byddai’n costio gweithiwr sydd yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol o 20% ond £8 yn unig er mwyn gwneud cyfraniad o £10 i elusen. A byddai’n costio gweithiwr sydd yn talu treth ar y gyfradd uwch o 40% ond £6 i wneud cyfraniad tebyg.
Mae’r arian sydd wedi ei dynnu yn cael ei ddanfon at Asiantaeth sydd wedi ei chymeradwyo gan Gyllid y Wlad, megis y Charities Aid Foundation, ac maent hwy yn gwneud y gweddill – danfon yr arian sydd i’w gyfrannu atom ni.
Mae modd i chi ganfod mwy o wybodaeth am Dalu trwy’r Gyflogres a’r asiantaethau sydd wedi eu cymeradwyo ar wefan HMRC.
Fel arall, ewch yn syth i wefan y ‘Charities Aid Foundation’ (CAF) am fwy o wybodaeth am eu cynllun ‘Give As You Earn’.