Cam 1 – Cysylltu â ni
Mae angen i’r person ifanc neu asiantaeth gwblhau’r ffurflen atgyfeirio a fydd yn cynnwys manylion syml am sefyllfa bresennol y person. Mae hefyd modd gwneud hyn drwy gysylltu gyda GISDA ar 01286 671153, llenwi ffurflen cyfeirio ar lein neu drwy alw mewn i’r swyddfa ar y maes.
Cam 2 – Siarad gydag ein swyddog cyfeiriadau
Bydd y swyddog cyfeiriadau’n cysylltu â’r person ifanc ac yn rhoi mwy o wybodaeth am GISDA a’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig. Bydd y swyddog cyfeiriadau wedyn yn cwblhau cam dau o’r ffurflen atgyfeirio drwy ofyn am fwy o wybodaeth gan y person ifanc am eu cefndir, eu sefyllfa bresennol a’r math o gymorth maent eu hangen.
Cam 3 – Cyfarfod ein swyddog cyfeiriadau
Bydd y swyddog cyfieriadau’n trefnu i gwrdd â’r person ifanc mewn lle saff a chyfleus iddynt gyflwyno eu hunain a chwblhau rhan olaf yr atgyfeiriad.
Cam 4 – Y swyddog cyfeiriadau yn cysylltu gydag asiantaethau eraill
Os yw’r person ifanc yn gweithio gydag asiantaethau allanol eraill, bydd y swyddog cyfeiriadau, ar ôl cael caniatâd gan y person ifanc, yn cysylltu gyda’r asiantaeth i gael mwy o wybodaeth am y cymorth maent yn derbyn neu wedi derbyn gan asiantaeth.
Cam 5 – Asesu eich achos
Ar ôl cael y wybodaeth uchod, bydd asesiad risg yn cael ei gwblhau a phenderfyniad yn cael ei wneud os yw’r person ifanc yn addas i dderbyn gwasanaeth gan GISDA.
Cam 6 – Croeso i GISDA
Os yw’r person ifanc yn gymwys i dderbyn ein gwasanaeth, bydd yn cael ei roi ar restr aros GISDA nes bydd Gweithiwr Allweddol yn cael ei ddyrannu iddo.
Mae’n anodd dweud am ba hyd y bydd person ifanc yn aros am gymorth, ond bydd y swyddog cyfeiriadau yn eu cyfeirio tuag at asiantaethau eraill a sicrhau eu bod wedi edrych ar bob opsiwn ar gael i’r person ifanc yn y cyfamser.